Colofnwyr

RSS Icon
08 Gorffennaf 2011

Mae angen gwyntyllu’r holl fater

O’R diwedd fe dorrodd yr argae. Nid dŵr glân wnaeth lifo allan ond llysnafedd a fu’n crynhoi ers blynyddoedd. Na, nid y ffaith i stori hacio’r News of the World ddod i olau dydd o’r diwedd sy’n creu syndod ond y ffaith i hynny gymryd cymaint o amser i ddigwydd.

Gadewch i ni wynebu ffeithiau i gychwyn. Mae pawb ohonon ni’n hoffi darllen neu glywed am sgandalau. Rwy’n siŵr i hyd yn oed y sinig mwyaf gael rhywfaint o bleser o olrhain rhagrith pobl fel Ryan Giggs neu’r bancwr a’r bonciwr Syr Fred Goodwin. Mae unrhyw un sy’n llygad y cyhoedd yn agored i gael ei bardduo, ac ambell un yn llawn haeddu hynny. A pham ddylai arian fod yn llinyn mesur rhwng datgelu a chadw enw neu weithred yn gyfrinachol? Ond mae hacio ffons poced teuluoedd lladdedigion fel Millie Dowler, Holly Wells a Jessica Chapman, Sarah Payne a lladdedigion 7/7 yn mynd y tu hwnt i newyddiaduraeth. Yn wir, mae hyn bron iawn â bod yn necroffiliaeth.

Yn anffodus, ochr yn ochr â thorri’r stori fe gyfyd rhyfyg ei ben hyll unwaith eto. Dyna’i chi’r amseriad – wythnos cyn y penderfyniad ar obeithion ymerodraeth News International, perchenogion y News of the World a Sky i ymestyn ei gorwelion. Cyd-ddigwyddiad? Penderfynwch chi.

I ddarllen mwy CLICIWCH YMA

Rhannu |