Colofnwyr

RSS Icon
28 Hydref 2016
Gan SANDRA MORRIS JONES, llywydd Merched y Wawr

Rhaid canmol dycnwch a dyfeisgarwch aelodau Merched y Wawr

Erbyn hyn mae’r rhan fwyaf ohonom wedi dechrau ar ein rhaglen ac nid gwaith hawdd mo’r gwaith o lunio a threfnu rhaglen yn y gangen neu glwb. Heb sôn am geisio plesio pawb.

Rhaid canmol dycnwch a dyfeisgarwch ein haelodau wrth gael hyd i siaradwyr ac i leoedd diddorol i ymweld â nhw a’r cyfan yn digwydd drwy gyfrwng y Gymraeg.

Gwn y daw ambell anhawster wrth gyrraedd rhywle a’r tywysydd Cymraeg ei iaith yn methu â bod yn bresennol am ryw reswm a’r cyfan yn gorfod digwydd yn Saesneg.

Gwn am rai canghennau sydd wedi cerdded allan tra bo canghennau eraill wedi mynegi eu hanfodlonrwydd cyn dechrau ac ysgrifennu am eu hanfodlonrwydd ar ôl yr ymweliad.

Mae problemau’n codi o bryd i’w gilydd. Serch hynny, nid yw’r mudiad yn disgwyl i ganghennau drefnu ymweliadau heb grybwyll yr angen am y Gymraeg.

Mae’r mudiad yn trefnu dros 3,000 o ddigwyddiadau ar lefelau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol. Byddai’n amhosibl cael y cyfan yn rhedeg yn ddidrafferth!

Mae’r mudiad yn falch o wedi derbyn grant sylweddol gan Y Loteri Genedlaethol ar gyfer cofnodi hanes ein mudiad o’r dechreuad yn y Parc hyd heddiw ar draws Cymru.

Mae sawl cyfarfod wedi cael ei gynnal eisoes ar gyfer creu cyfres o baneli artistig hardd ac eraill ar gyfer cofnodi a sganio eitemau gan y canghennau a chlybiau.

Bydd y paneli gorffenedig yn cael eu harddangos yn ein gwyliau cenedlaethol ac yn hen ysgol y Parc.

Rydym yn eithriadol o lwcus bod Alaw Roberts (Gogledd) a Branwen Davies (De) wedi’u hapwyntio’n swyddogion maes i hwyluso’r cofnod cenedlaethol a ddaw yn y man yn rhan o Gasgliad y Werin.

Felly mae angen bwrw ati gyda gwaith yr hel atgofion.

Bydd yn hyfryd cydweithio gydag aelodau staff BBC Radio Cymru a Llyfrgell Genedlaethol Cymru a sylweddoli'r parch a’r edmygedd sy ganddynt tuag at fudiad Merched y Wawr.

Eisoes trefnwyd sesiynau sganio mewn nifer o ranbarthau gydag aelodau’n awyddus i fwrw ati gyda’r gwaith.

Cefais gyfle i fwynhau cinio dathlu’r 50 yng nghwmni dros gant a hanner o aelodau rhanbarth Penfro ym mwyty’r Beudy yng Nghrug-glas, ger Abereiddi.

Roedd y bwyd a’r cwmni’n wych ac mae rhaid i fi ganmol y merched a fu wrthi’n creu trefniant blodau ar bob bwrdd.

Rwyf yn siŵr bydd sgwrs Beti George yn aros yn y cof am sbel hir.

Diolch i’r rhanbarthau sy wedi cysylltu â mi er mwyn gwahodd i ddathlu’r aur. Rwyf yn edrych ymlaen yn fawr. Mae’r mudiad yn gwybod sut mae dathlu!

Rwyf wedi bod yn cofio am rywbeth arall ddigwyddodd yng Nghymru 50 mlynedd yn ôl pan oeddwn yn fy mlwyddyn gyntaf yn yr ysgol uwchradd.

Y prifathro’n galw pawb i’r neuadd a chyhoeddi bod trychineb wedi digwydd mewn pentref glofaol yn Ne Cymru a bod llawer o blant wedi marw.

Rhyfedd ynghanol y dathlu fel bod rhywun yn cofio am dristwch. Erys y cyfan yn fyw yn fy nghof. 

Rhannu |