Colofnwyr
Mae cwlt y clown yn mynd yn ôl canrifoedd
ROEDD y tonfeddi ddoe a’r papurau heddiw’n gyforiog o hanesion y ffyliaid gwirion sy’n gwisgo fel clowns ac yn ceisio brawychu pobl. Does dim angen dweud pa mor beryglus y gall hyn fod, i blant a’r henoed yn arbennig.
O America, fel llawer o arferion gwirion eraill y daeth y gwiriondeb hwn. Ond o ystyried y ffenomenon mewn gwaed oer, rhaid derbyn fod cwlt y clown yn un sy’n mynd yn ôl canrifoedd.
Byddai clown yn rhan o hierarchaeth llysoedd yr Aifft adeg y Pumed Dynasty. Yn wir, yr un person fyddai’n aml yn gwasanaethu fel clown ac fel offeiriad.
I ni, cymeriad ddylai ein gwneud i ni chwerthin yw’r clown. Ond mae iddo ddeuoliaeth, fel y gwnes i esbonio yn rhagair fy nghyfrol o storïau arswyd, Merch Fach Ddrwg nôl yn 1998.
Fe wnaeth yr awdur Robert Bloch ddadansoddi cymeriad y clown. Bloch oedd awdur y nofel arswyd Psycho, a drowyd yn ffilm iasoer gan Alfred Hitchcock.
Yn ôl Bloch, hanfod arswyd yw ffenomenon Y Clown ar Hanner Nos. “Dychmygwch eich bod chi ar eich pen eich hun yn eich stafell fyw, yn darllen, ac yn cael eich dychryn gan gnocio uchel ar y drws. Mae’r tŷ yn wag. Mae’r dref yn cysgu. Daw sŵn curo eto. Dyma chi’n codi ac agor y drws. Yno yn eich cyntedd, ei wyneb wedi ei wynnu ac yn pefrio yng ngolau’r lloer mae clown yn ei wisg amryliw a’i golur llachar. Mae e’n gwenu arnoch. A wnaech chi chwerthin?”
Pwynt Bloch, wrth gwrs, yw nad yr un yw natur y clown sy’n ennyn chwerthin yng nghylch mawr y syrcas a’r clown sy’n curo ar eich drws am hanner nos.
Ac mae yna enghreifftiau o glowns drwg. Dyna’i chi John Wayne Gacey a fyddai’n diddanu plant drwy wisgo fel clown. Roedd Gacey’n ddyn busnes llwyddiannus a pharchus yn Des Plaines, Illinois. Fe ddisgrifiodd unwaith y fantais o fod yn glown.
“When you’re in make-up, clowns can get away with murder and nobody gets mad.”
Yn ystod y 70au diflannodd nifer o lanciau ifanc yr ardal.
Canfuwyd eu cyrff, 33 ohonynt wedi eu cuddio tan gartref Gacey.
Ar Fai 11eg 1994 dienyddiwyd Gacey drwy chwistrelliad marwol yng Ngharchar Joliet.
Fe gymerodd ddwywaith yr amser arferol iddo farw oherwydd nam ar yr offer.
Yn ôl yr awdur Simon Sprackling, yr hyn sy’n ddiddorol yn y berthynas rhwng plant a chlowns yw cred oedolion fod plant yn gweld clowns yn ddoniol.
“Ond ein rhagdybiaeth ni yw hynny,” meddai. “Rwy’n credu fod plant, wrth edrych ar glown, yn gweld oedolyn yn ymddwyn mewn ffordd ryfedd sydd naill ai’n ddoniol neu’n sy’n gwneud iddynt feddwl, ‘Mae rhywbeth o’i le fan hyn’.”
Un o’r clowns mwyaf arswydus mewn ffuglen yw ‘Pennywise’ yn nofel arswyd Stephen King, It, a gyhoeddwyd yn 1986.
Cafwyd ffilm deledu o’r nofel yn 1990 a nawr mae ffilmio ar droed o ffilm sinema.
Yn wir, cred rhai mai’r cwmni ffilmio, ‘New Line Cinema’ sydd wedi ysgogi’r cwlt diweddar hwn er mwyn hysbysebu’r ffilm. Gwadu wan’r cwmni.
Mae’n werth i chi ddarllen It. Nid nofel arswyd yw hi yn y bôn ond yn hytrach astudiaeth o’r trawsnewidiad o blentyndod i lencyndod.
Mae hi’n nofel wirioneddol wych gyda ‘Pennywise’ yn rhagflaenydd i bob trychineb.
Y clown sy’n personoli’r bwgan oesol. Mae’n mabwysiadu ymgnawdoliad clown er mwyn ei gwneud hi’n haws i ddenu plant ato.
I mi does neb yn debyg i King am bortreadu plentyndod a llencyndod.
Y nofel fwyaf arswydus i mi ei darllen erioed oedd Salem’s Lot, wedi ei seilio ar fampirod mewn tref fechan yn Maine.
Fe’i darllenais am y tro cyntaf ar wib. Hynny yw, ‘speed-reading’. A fyddai ‘gwib-ddarllen’ yn gyfieithiad Cymraeg addas?
Ychydig flynyddoedd wedyn dyma fynd ati i’w darllen o ddifrif. Bu’n rhaid i mi roi’r gorau iddi ar ôl y can tudalen cyntaf.
Os mai’r ddarpar-ffilm It sydd i’w beio am y stranciau gwirion dros y dyddiau diwethaf, dydw’i ddim yn meddwl y byddai King yn rhyw hapus iawn.
Ond mae ganddo hiwmor du. Pan ofynnwyd iddo unwaith beth oedd cyfrinach ei ddawn fel awdur nofelau arswyd, ei ateb oedd: “Mae gen i galon plentyn o hyd. Rwy’n ei chadw mewn jwg ar y dreser.”