Colofnwyr
Agwedd y ‘Britysh Empeiar’ yn parhau
RAI wythnosau yn ôl, bûm yng nghynhebrwng Kazimierz Miarczynski, neu Kazek i drigolion Llanuwchllyn ac ardal Penllyn.
Er mae’r Bwyleg oedd ei famiaith, ac er iddo ddysgu Saesneg ac Almaeneg cyn iddo gyrraedd Llanuwchllyn, trwy’r Gymraeg, yr hon a ddysgodd fel ei bedwaredd iaith, y bu iddo fyw y rhan fwyaf o’i fywyd drwyddi.
Cynhaliwyd y gwasanaeth angladdol drwy’r Gymraeg, er i Huw Jones, ei fab yng nghyfraith orffen ei deyrnged ardderchog iddo drwy gynnwys un frawddeg yn y Bwyleg.
Fel pawb arall a fu mor ffodus o gael ei adnabod, cefais Kazak yn ŵr y tu hwnt o fonheddig bob amser ac yn rhywun yr oeddech yn ei chael hi’n bleser i fod yn ei gwmni.
A ninnau ar ymweliad â Warsaw, dyma Olwen, y wraig, (oes mae ganddi enw) yn meddwl y byddai’n gyrru cerdyn iddo o’i ddinas enedigol.
Pan welsom ef yn ddiweddarach, diolchodd am y cerdyn ond gwyddwn ei fod eisiau ychwanegu rhywbeth, ac yn y diwedd dyma fo’n dweud mai un o Krakow oedd o ac nid Warsaw.
Unionwyd y cam rai misoedd yn ddiweddarach pan yrrwyd cerdyn iddo o’r ddinas honno.
Ar y llaw arall, bu i fam yng nghyfraith Kazek fyw yn Llanuwchllyn am dros dri chwarter canrif heb siarad yr un gair o Gymraeg – ffaith sydd bron yn anghredadwy mewn pentref mor Gymreig.
A dyna fi’n dechrau meddwl am enghreifftiau o bobl yr wyf yn eu hadnabod sydd wedi dysgu iaith ar ôl symud i fyw i wlad ddieithr.
Bob tro yr awn i Rufain, byddwn yn aros rhyw awr y tu allan i’r ddinas gyda Franco a Frances.
Albanes yw hi, o Auchterarder ger Perth ac wedi cyfarfod yn ystod y chwedegau yn yr Alban, aeth y ddau i fyw i gartref Franco yn Genzano di Roma ar ôl priodi.
Doedd gan Francis yr un gair o Eidaleg a bu’n rhai iddi ddysgu’r iaith yn gyflym am mai eithriad oedd canfod rhywun heblaw ei gŵr a allai siarad Saesneg.
Erbyn heddiw mae’n hollol rugl ac wedi byw’r rhan fwyaf o’i bywyd drwy gyfrwng yr iaith, er bod acen Albanaidd ar yr Eidaleg fel sydd ar ei Saesneg.
Yn rhyfedd iawn, fe fydd yn gofyn beth yw ambell air yn Saesneg gan iddi fyw heb yr iaith honno am gyfnod mor hir.
Erbyn hyn, mae Elen, y ferch, wedi cychwyn ar ei chyfnod o waith yn Oslo ac wrthi’n dysgu Norwyeg.
Caiff gymorth gan Iori Roberts, un sydd wedi byw yn Norwy am dros ddeugain mlynedd ac yn hollol rugl yn yr iaith ond gydag acen Gymreig wrth ei siarad.
Eto, er bod Saesneg yn ail iaith i lawer o Norwyaid, bu’n rhaid iddo ddysgu iaith y wlad ac erbyn hyn, yn yr iaith honno y mae’n sgwrsio gyda’r trigolion lleol a’i deulu.
Ef a’i wraig Tora sy’n rhoi gwersi Norwyeg i Elen.
Gydag ychydig eithriadau clodwiw, prin iawn yw’r ymdrech a wna Saeson i ddysgu’r Gymraeg pan ddônt yma i fyw.
Does gan y mwyafrif llethol ddim bwriad gwneud yr un mymryn o ymdrech i’w dysgu ac fe ant ati, hyd yn oed, i gam-ynganu enwau lleol, a hynny gyda rhyw haerllugrwydd sy’n dangos fod rhywbeth ynddynt yn mynnu mai Saesneg yw’r unig iaith ac yn y ffordd Saesneg y mae ynganu enwau cynhenid Cymraeg.
Y mae ganddynt yr un agwedd pan ant i fyw i Ffrainc gan wneud fawr o ymdrech i ddysgu gair o’r iaith honno a chymdeithasu gyda Saeson eraill yn unig.
Yn ne Ffrainc, yr ydym wedi aros sawl gwaith mewn hen ffermdy sy’n eiddo i Saesnes a’i gŵr ond y gwahaniaeth mawr ydi fod Vivien yn hollol rugl yn y Ffrangeg ac yn ymdoddi i’r gymdeithas leol.
Cyfeiriodd ei gŵr, Thierry, at bentref nid nepell o’u cartref a elwir gan y trigolion lleol yn ‘le village anglais’ am fod cymaint o Saeson yn byw yno ac mai Saesneg yw iaith gymdeithasu i raddau helaeth.
Beth sydd o’i le ar ein cymdogion tybed?
Mae’n amlwg fod y gallu i ddysgu’r Gymraeg ganddynt fel pawb arall ond fod yr hen ysfa i dra-arglwyddiaethu a’r atgof am y ‘Britysh Empeiar’ wedi treiddio’n ddwfn i’w cyfansoddiad gan greu rhwystr rhag newid agwedd a dysgu iaith y gymdeithas leol.
Oni fyddent yn gallu dysgu oddi wrth hanes Kazek ac eraill a aethant ati i ddysgu’r Gymraeg gan ddod yn rhan naturiol o’r gymdeithas frodorol?