Colofnwyr

RSS Icon
04 Hydref 2016
Gan LYN EBENEZER

Mae cywirdeb gwleidyddol yr undebau myfyrwyr yn rhemp

YM mis Medi 1958 fe gychwynnais ar fywyd fel myfyriwr yn Aber. Ddwy flynedd yn ddiweddarach roeddwn i’n gweithio y tu ôl i ddesg y Llyfrgell Gyffredinol yn y coleg lle bûm i’n fyfyriwr. Ie, dwy flynedd wnaeth fy addysg prifysgol bara. Methais fy arholiadau’n rhacs. Neu, i fod yn gwbl onest, wnes i ddim trafferthu astudio ar gyfer yr arholiadau hynny.

Y rheswm dwi’n troi’n ôl at hyn yw cynnwys erthygl a ddarllenais yn ddiweddar ar ymddygiad undebau myfyrwyr y dyddiau hyn a’u hagweddau amwys  tuag at eu cyd-fyfyrwyr. Bellach mae cywirdeb gwleidyddol yr undebau’n rhemp. 

Yn Aber rhwng 1958 a 1960 fe wnes i esgeuluso fy astudiaethau ar draul bywyd o fynd fy ffordd fy hun. Roedd Acker Bilk a Chris Barber yn bwysicach i mi na Saith Doethion Rhufain a Beowulf. Do, lluchiais i ffwrdd unrhyw obeithion am radd. Dydw’i ddim yn edifar ar wahân i’r loes wnes i ei achosi i’m rhieni.

Ond at hyn rwyf am ddod. Fy mhenderfyniad i oedd cefnu ar addysg prifysgol. Fi a fi yn unig fu’n gyfrifol am gwrs fy mywyd a’m hymddygiad yno. Ond heddiw mae undebau myfyrwyr yn ceisio rheoli bywyd eu haelodau. Yn wir, yn yr erthygl wnes i ei darllen, cyfeirir at lywyddion a gweinyddwyr undebau myfyrwyr fel Ayatollahs. Caiff myfyrwyr felly ddioddef cyfuniad o faldod a gormes.

Ond mae yna arwyddion bellach fod trwch y myfyrwyr yn dechrau rebelio. Cymerwch y dosbarthiadau cydsynio a gynhelir gan Brifysgol Caergrawnt ar gyfer glas fyfyrwyr. Ym Mhrifysgol Caerefrog penderfynodd trwch y myfyrwyr gerdded allan o’r fath ddosbarthiadau. Os yw pobl ifanc 18 oed yn ddigon hen i farw mewn rhyfeloedd, yn ddigon hen i bleidleisio, yn ddigon hen i yfed onid ydyn nhw hefyd yn ddigon hen i benderfynu drostynt eu hunain ar faterion ymddwyn?

Yng Ngholeg Prifysgol Llundain gwelwyd yn dda i wahardd synau rhywiol ym mariau’r undeb. Beth sy’n golygu synau rhywiol, dychmygwch chi. Ond fe fedrwch o leiaf chwerthin am hynna. 

Ond mai yna rai penderfyniadau sydd ymhell o fod yn ddoniol. Pan benderfynodd Cymdeithas y Cwrdiaid yn yr un coleg wahodd siaradwr gwadd a fu’n ymladd yn erbyn ISIS fe’i gwaharddwyd rhag siarad. Er hynny roedd undeb y myfyrwyr yn amharod i feirniadu ISIS am fod hwnnw’n fater cymhleth. Fe ddywedwn i fod torri pennau pobl ddiniwed bant yn fater digon syml i’w ystyried.    

Mae Aytaollahs yr undebau colegol felly’n trin oedolion ifanc fel plant. Rhaid penderfynu ar eu rhan beth sy’n dda a beth sy’n ddrwg. Soniais dro’n ôl am benderfyniad a wnaed i wahardd rhecsyn y Sun oddi ar gampws Aber. Condemniwch y Sun ar bob cyfrif. Ond gwahardd hawl rhywun i’w brynu? Beth nesaf, llosgi llyfrau?

Meddyliwch am Undeb Coleg Prifysgol Llundain eto. Er lles ei aelodau penderfynwyd, bob dydd Gwener, gwahardd arlwyo cig am fod cynhyrchu cig yn cael effaith ddrwg ar yr amgylchedd ac am fod magu creaduriaid yn gofyn am fwy o adnoddau na thyfu cnydau.

Un o benderfyniadau mwyaf ynfyd y coleg hwn fu caniatáu i fyfyrwyr archaeoleg eithrio o ddarlithoedd sy’n sôn am ddigwyddiadau hanesyddol cythryblus a thrawmatig.

Cam pwysig i las fyfyrwyr yw cael y rhyddid i benderfynu drostynt eu hunain allan o amgylchedd y cartref. Ond na, rhaid i Hitleriaid bach yr undebau myfyrwyr benderfynu beth sy’n dda a beth sy’n ddrwg i’w cyd-fyfyrwyr. Pregethir rhyddid mynegiant cyn belled â bod y mynegiant hwnnw’n unol â gofynion yr undeb.

Peidiodd amryw o golegau â bod yn ganolfannau heriol erbyn hyn. Mae Prifysgol Goldsmith wedi mabwysiadu mesurau gwrth hiliol. Gwych. Cytuno’n llwyr. Ond howld on Defi John. Gwaherddir myfyrwyr gwyn rhag mynychu’r cyfarfodydd.  Ni fedrid cynnal dadleuon, meddir, yng nghwmni gormeswyr. Hynny yw, mae pob myfyriwr gwyn yn ormeswr.

Ymddengys fod trwch y myfyrwyr wedi cael llond bol. Ar gyfer etholiadau diweddaraf Coleg Prifysgol Llundain, dim ond 12 y cant wnaeth fynd i’r drafferth i bleidleisio. Mae’n gwneud i mi feddwl sut le fyddai wedi bod yng Ngholeg Aber pe ceisid mabwysiadu deddfau mor haearnaidd nôl ar ddiwedd y 50au?

Byddai Llywydd yr Undeb a’i swyddogion wedi eu taflu i Fae Ceredigion o ben Consti. Yno fe gaent ddewis naill ai nofio neu suddo.

Democratiaeth biau hi.

 

Rhannu |