Colofnwyr

RSS Icon
28 Medi 2016
Gan ARTHUR THOMAS

Prisio cefnogwyr cyffredin pêl-droed a rygbi allan o’r gêm

GYDA chymaint o gefnogwyr Cymru wedi teithio i Ffrainc yn ystod mis Mehefin ar yr hyn oedd yn antur oes i lawer ohonynt, rhaid cofio nad taith rad oedd hi, yn bennaf am fod angen teithio cryn bellter oddi fewn gwlad sydd yn eithaf o ran maint er mwyn cael cefnogi Cymru yn y gwahanol gemau.

O Bordeaux i Lens, o Lens i Toulouse, Toulouse i Baris, Paris i Lille ac wedyn Lille i Lyon.

Yr oedd y daith yn costio’n ddrud ond fe hawliai’r rhai a fu yno drwy’r amser ei bod hi’n werth pob dimai.

Gan fod gemau rhagbrofol Cwpan y Byd (Rwsia 2018) ymlaen ar hyn o bryd, dyma gael cip ar gystadleuaeth Ewro 2020.

Gyda chryn syndod y gwelais fod newid i’r patrwm arferol o gynnal y gystadleuaeth mewn un wlad neu gyfuniad o ddwy wlad gyfagos fel yn achos Gwlad Belg/Yr Iseldiroedd, Gwlad Pwyl/Wcráin ac Awstria/Swistir. 

Y tro nesaf, cynhelir y gystadleuaeth dros Ewrop gyfan, mewn 13 o ddinasoedd gwahanol – Llundain, Baku, Munchen, Rhufain, St Petersburg, Amsterdam, Bilbao, Brussels, Bucharest, Budapest, Copenhagen, Dulyn a Glasgow.

Bobol bach, mae’n debycach i wers ddaearyddiaeth na chystadleuaeth pêl-droed! 

Ystyriwch o ddifrif calon  y problemau a gaiff y cefnogwyr cyffredin er mwyn manteisio ar y cyfle i gefnogi eu timau.

Mae’n amlwg nad buddiannau’r cefnogwyr sydd flaenaf yng ngolwg UEFA.

Af yn ôl am ychydig i’r gystadleuaeth yn Ffrainc.

Yr oedd y drefn o ddosbarthu tocynnau yn gyfrifoldeb i’r Cymdeithasau Pêl Droed unigol, felly os am weld gemau Cymru, yna trwy law F.A. Cymru yr oedd y ffordd rwyddaf o gael tocynnau a da o beth oedd hynny gan y byddai’n sicrhau fod y cefnogwyr selocaf yn cael gafael arnynt.

Cyn belled ag yr oedd y tocynnau dros ben yn y cwestiwn, yna yr oedd cyfle’n achlysurol i’w prynu ar safle we UEFA.

O ganlyniad i’r cynllun hwn, byddech yn talu am docyn ac yn cael taleb er mwyn mynd ag ef i swyddfa docynnau UEFA wrth y cae lle y cynhelid y gêm er mwyn ei gyfnewid am docyn. Felly, dim taleb = dim tocyn.

Gwelwyd gwendid y drefn hon ym Mharis cyn gêm Cymru yn erbyn Gogledd Iwerddon gan fod llawer o gefnogwyr Gogledd Iwerddon wedi dychwelyd i’r Ynys Werdd ond yn methu canfod ffordd o ddod yn ôl ar gyfer y gêm

O ganlyniad i hyn, nid oeddynt yn gallu defnyddio eu talebau ac felly nid oedd y tocynnau ar gael i neb arall chwaith.

Yn hytrach na gadael rhai seddau’n wag, dylai UEFA fod wedi sefydlu trefn o werthu’r tocynnau o’u swyddfa rhyw awr cyn y gêm.

Un o’r rhesymau mwyaf cyffredin a glywais am fethiant y cefnogwyr i ddychwelyd i Ffrainc oedd cost tocyn awyren.

Eithr wrth weld fod galw mawr am lefydd ar yr awyrennau o Ogledd Iwerddon i Baris, fe godwyd y prisiau yn aruthrol. 

Dywedodd un cefnogwr fod ei ffrind wedi methu dod i’r gêm am fod pris tocyn hedfan wedi codi i £900! 

A dyna sydd gen i dan sylw wrth sôn am gystadleuaeth 2020.

Gan fod teithio ar raddfa eang i wahanol ddinasoedd dros Ewrop yn gorfod digwydd, yna fe fydd y cwmnïau awyrennau yn siŵr o godi prisiau’n arw.

Gwelir hyn yn barod pan ceir gwyliau ysgol neu benwythnosau pan fydd prisiau teithiau ar awyrennau’r cwmnïau ‘rhad’ yn cynyddu’n sylweddol. 

Mae hyn yn digwydd hefyd, gyda theithiau rygbi.  Pan wyf am fynd i Rufain i weld Cymru yn chwarae yn erbyn yr Eidal, yna, yn syth pan ddaw dyddiad y gêm yn hysbys byddaf yn mynd ar fy union ar safle Ryanair i dalu am y daith cyn iddynt ddeffro i’r achlysur a chodi’r pris, neu cyn iddynt weld cynnydd aruthrol yn y nifer sy’n hedfan ar benwythnos arbennig. 

Y tro diwethaf (2015) cefais sedd un ffordd i’r wraig a minnau am £25 yr un a chan ein bod yn treulio cyfnod o wyliau yn yr Eidal wedi’r gêm, tua’r un pris oedd hi i ddod yn ôl.

Pan edrychais ar bris ar y diwrnod cyfatebol ar gyfer 2017 yr oedd eisoes yn £75 gyda’r gêm ar ddechrau Chwefror (ond doeddwn i ddim wedi bwriadu mynd, beth bynnag).

Soniais yn y golofn hon sut y bu imi holi am docyn i weld Cymru yn chwarae Lloegr yng Nghwpan y Byd 2015 ac i’r pris rhataf fod yn £140.

Wel, y tro nesaf fe fydd y gystadleuaeth yn Siapan a’r gost o fynd yno y tu hwnt i’r mwyafrif o’r cefnogwyr.

Y mae’n edrych yn fwy tebygol bob blwyddyn fod cefnogwyr cyffredin pêl droed a rygbi yn cael eu prisio allan o’r farchnad ac y bydd y ddwy gamp ar lefel ryngwladol yn dioddef o beidio cael sŵn a brwdfrydedd y cefnogwyr y tu ôl i’r chwaraewyr.

Yna, er mwyn llenwi’r rhannau o’r meysydd nad yw’r pwysigion a’r rhai ariannog yn dymuno bod ynddynt, rhai cael modelau plastig o gefnogwyr er mwyn creu’r argraff fod y caeau’n llawn!

Rhannu |