Colofnwyr

RSS Icon
28 Medi 2016
Gan OWAIN GWILYM

Barod i ddychwelyd o dan adain eu harweinydd?

WRTH i gynadleddwyr Llafur ddychwelyd i’r byd go iawn bydd rhai yn gofyn a fuom yn byw mewn miri afreal yr wythnos hon?

Mae’r byd y tu allan i Lerpwl Lafurol tipyn gwahanol i eistedd yn gysurus yng Nghanolfan ACC ar lannau afon Mersi gan gymeradwyo a choethi ar yn ail.

Enillodd Jeremy Corbyn y bleidlais am yr arweinyddiaeth yn rhwydd gan adael Owen Smith, Aelod Seneddol Pontypridd i ddyfalu pam yr oedd wedi rhoi ei hun drwy’r felin i gyflawni dim yn y diwedd.  

Unwaith y cyhoeddwyd fod gafael Jeremy yn gadarnach ar ei blaid na chynt clywyd y diwn gron fod yn rhaid iddynt uno’n awr fel plaid ac anghofio yr holl ddrwgdeimlad a grewyd yng nghanol yr ymgyrch arweinyddol.  A chiliodd Owen Smith i fwrllwch Llynlleifiad.

Dechreuodd ambell un fel Nia Griffith, Aelod Seneddol Llanelli, wneud synau fel pe bai’n barod i ddychwelyd dan adain ei harweinydd, wedi ei adael ar y clwt cyn yr haf fel llefarydd yr wrthblaid ar Gymru. 

“Beth sy’n bwysig iawn yn awr yw…” hoff eiriau Ms Griffith – yn Gymraeg beth bynnag – ac nid oedd yn gwbl glir a oedd buddugoliaeth fawr ei harweinydd yn ddigon pwysig iddi sefyll yn gadarn o’i blaid. (A oes rhywun yn y Blaid Lafur sydd am ddweud wrth Ms Griffith fod yn rhaid iddi beidio â dweud “Beth sy’n bwysig iawn yn awr yw...” 10 o weithiau yn yr un sgwrs er lles y siaradwyr Cymraeg sy’n dechrau ei galw yn ‘Nia Beth Sy’n Bwysig’.)

Rhyw swnio y byddai’n mynd yn ôl i gabinet yr wrthblaid yr oedd hi pe bai rhai eraill o’r gwrthgilwyr yn arwain y ffordd.

Ni fydd Owen Smith yn gwneud hynny’n bendant gan iddo ddweud mai ar boen ei fywyd y bydd yn ymuno â rheng flaen Jeremy.

Erbyn heddiw dichon fod rhai wedi dechrau dychwelyd i’r rhengoedd, wedi i’r arweinydd alw am atal y rhyfela.

Fodd bynnag, bydd yn llwybr cyndyniog i lawer o’r Aelodau Seneddol a adawodd eu harweinydd yn ei faw ac yn ymbalfalu yn y tywyllwch, bron.

Sôn am blaid unedig yr oeddynt yn ddiwahân yn Lerpwl, fod y Blaid Lafur yn ‘eglwys’ eang a’i bod wedi bod felly erioed ac nad oedd y carfannu yn ddim byd newydd.  

Rhaid eto ddisgwyl gweld pa rai o’r Blaid Lafur Seneddol fydd yn dechrau codi dani a gwneud bywyd yr arweinydd yn uffern ar y ddaear.  

Oherwydd, mewn gwironedd, nid oes dim wedi newid gan mai Jeremy Corbyn a’i ddaliadau ar y chwith sy’n dal yn ben, ac am newid dim o’i ddaliadau.

Hyd y gwyddom nid yw tua 170 o Aelodau Seneddol a’i gwrthwynebodd wedi newid dim yn eu daliadau ychwaith.

Un calondid i Blaid Lafur Cymru wrth i’w chynrychiolwyr adael glannau Mersi oedd iddi lwyddo i gael ei phig i mewn ar y Pwyllgor Gwaith Cenedlaethol, yn groes i ddymuniad rhai o gefnogwyr Jeremy. 

Bydd Cymru a’r Alban yn cael anfon cynrychiolydd i’r pwyllgor hwnnw o hyn ymlaen, os nad Carwyn Jones ei hun gall anfon cynrychiolydd a hwnnw heb ei ddewis drwy bleidlais.

Mae arweinydd y Blaid Lafur yn yr Alban, Kezia Dugdale wedi presenoli ei hun eisoes.

Ar ddechrau’r gynhadledd roedd Carwyn Jones wedi apelio yn ei araith iddynt fynd i’r cyfeiriad yma. 

Gwrandawyd ar arweinydd Llafur mewn grym, ac un nad yw’n gefnogol i’r arweinydd ‘mawr’.  

Mae hyn yn bluen yn het arweinydd Llafur Cymru oedd i’w weld fel petai wedi cael pwl o frwdfrydedd o flaen y cynadleddwyr.

Mae’r symudiad yn golygu y bydd gan y Blaid Lafur Gymreig fwy o rym hefyd, mwy o hunanreolaeth os nad yw hwnnw’n air hyll i lygaid Llafurwyr.

Heb ymyrraeth o Lundain gallant ddewis ymgeiswyr ar gyfer San Steffan, bod yn gyfrifol am eu materion disgyblu ac ethol arweinwyr. Mae hynny’n wir am yr Alban hefyd.

A ydym yn dechrau gweld y Blaid Lafur yn tro’n fwy cenedlaetholgar, yn arbennig fod yr Alban yn dir mor ddiffaith iddynt bellach?

Rhannu |