Colofnwyr
Lyn Ebenezer yn ymweld ag Ynys Agistri am y 26ain flwyddyn yn olynol
Darfu’r haf ac mae’r gaeaf ar y gorwel. Fe wna hyn ddigwydd ar yr un union adeg yn rheolaidd bob blwyddyn. Daw’r haf i ben i mi yr eiliad y gwnaf lanio ar faes awyr Heathrow wedi’r gwyliau blynyddol ar Ynys Agistri. A do, bûm yno eleni eto am y 26ain flwyddyn yn olynol.
Mae gwyliau Agistri’n ddefod bellach. Byddai rhai’n meddwl fod mynd i’r un lle a chwrdd â’r un bobol flwyddyn ar ôl blwyddyn yn rhywbeth undonog.
Ond na. Mae’n debyg iawn i’r arferiad o fynychu’r Brifwyl yn flynyddol, er bod honno’n symud o le i le. Ond yr un yw’r teimlad. Cwrdd â hen gyfeillion.
Eleni cawsom fonws. Yn gwmni i ni roedd Gwilym a Megan Tudur, y ddau’n dathlu eleni eu priodas aur. A bu eu cwmni’n bleser pur.
Dyma ddau sydd wedi gwneud diwrnod da o waith dros hybu busnes Gymraeg, dros eu hiaith a’u cenedl. Os oes rhywun yn haeddu gwyliau, Gwil a Megan yw’r rheiny.
Ynys fechan yw Ynys Agistri o bum milltir sgwâr, chwaer fach i Ynys Aegina yn y Gwlff Saronig.
Dydi’r boblogaeth yn ddim ond ychydig o dan 1,500. Ond dyblir hyn gan ymwelwyr dros fisoedd yr haf.
Fel unrhyw ynys debyg mae yno ddylifiad tramorwyr, amryw ohonynt yn Brits.
A thros y blynyddoedd bûm wrthi’n astudio arferion y Brits tramor, rhai ohonynt erbyn hyn yn expats hefyd.
Mae’n amlwg mai’r nod, yn hytrach na chymysgu â’r brodorion, yw creu dros-dro rhyw Brydain fach (hynny yw, Lloegr fach) oddi cartref.
Eleni, yn sgil y refferendwm, cawsom fod hyn yn amlycach nag erioed. Roedd hyd yn oed yr expats yn croesawu Brexit.
Does dim yn crisialu arwahanrwydd y Brits yn well na’r gêm boulle flynyddol a gynhelir ger taferna’r Cocacabana. Y ddau dîm yw Skala a Milos, sef dau o dri phentref yr ynys. Mae’r timau’n gyfyngedig i’r Brits.
Welwch chi ddim cymaint ag un Groegwr na Groeges yn chwarae. A dyna’i chi sefyllfa anhygoel. Brits yn chwarae gêm Ffrengig ar ynys Roegaidd.
Bydd pob Groegwr call yn nhrymder haul y prynhawn yn hepian. Beth yw’r hen gân honno gan Kipling sy’n mynnu mai dim ond cŵn gwallgof a Saeson fydd allan dan haul canol dydd?
Daw’n amlwg hefyd mai prif nod y Brit ar wyliau yw ceisio bod yn Roegaidd. Rhaid gwisgo’n Roegaidd. Rhaid cael lliw croen fel sydd gan y bobl leol drwy orwedd drwy’r dydd yn yr haul nes edrych fel petaent wedi bod yn nofio mewn grefi.
Hynny yw, maent am fod yn Roegaidd ym mhob agwedd ar wahân i geisio dysgu hyd yn oed frawddeg o’r iaith. Ond yn rhyfedd iawn, welwch chi’r un Groegwr sy’n dymuno bod yn Brit.
Mae’n rhaid eich bod chi erbyn hyn yn methu â deall pam yn y byd y byddaf yn mynd i Agistri’n flynyddol a threulio pythefnos yng nghwmni’r fath farbariaid.
Yn syml iawn, yr ateb yw mai lleiafrif yw’r math yma o Brits.
Mae yno hefyd rai hynod waraidd sy’n parchu’r bobl leol a’u traddodiadau. Cymerwch un o’n ffrindiau agosaf, Jamie Cameron o Glasgow. Mae Jamie bellach yn byw ym Milos mewn fila helaeth gan dalu rhent o £80 yr wythnos.
Mae Jamie wedi gweld y byd, wedi byw a gweithio mewn gwledydd yn amrywio o Israel i’r Eidal. Mae’n gredwr cryf mewn annibyniaeth i’r Alban er ei fod yn gefnogwr brwd i Glasgow Rangers. Mae’n gredwr cryf yn yr undod Ewropeaidd. Cyfaill cywir.
Yr atyniad mwyaf i mi ar Agistri yw agwedd y brodorion. Llond y lle o groeso. A chredwch fi, maen nhw’n gwybod pwy ydi pwy a be ydi be.
Eleni eto llogais y sgwter bach ‘Yamaha Chappie’ ar gost o ddeg Ewro’r dydd gyda’r petrol am bythefnos yn costio pedwar Ewro. Gan fy mod erbyn hyn yn gwsmer blynyddol cefais ad-daliad o ddeg Ewro.
Ar y beic bach caf y rhyddid a’r hwylustod i grwydro ffyrdd yr ynys fach o Skala i Milos, ymlaen i Limenaria ac i’r pegwn pellaf, sef Aponisos.
Atyniad mawr arall i ni yw cynhesrwydd y teulu sy’n berchen y bwthyn lle byddwn yn lletya bob blwyddyn. Mae teulu Andreas ac Eleni bellach fel aelodau o’n teulu ni. Erbyn hyn mae yna hyd yn oed ychydig eiriau Cymraeg ar y fwydlen frecwast.
Mae’r ferch, Maria’n defnyddio geiriau Cymraeg wrth sgwrsio â ni. Ac ni fedrwch ffoi rhag llais Andreas yn gweiddi ‘Iechyd Da!’ ar bawb, boed y cwsmeriaid yn Almaenwyr, Ffrancwyr, Llychlynwyr neu Brits.
Ond dyna ni am flwyddyn arall. Mae’r haf wedi mynd ond fe ddaw un arall gobeithio, os gawn ni iechyd da.