Colofnwyr

RSS Icon
21 Medi 2016
Gan ARTHUR THOMAS

Arthur Thomas yn gweld cymylau duon Trump ar y gorwel

FEL pe na bai yn ddigon dyrys yn wleidyddol yn y Deyrnas Unedig ar ôl llanast Brexit, dyma gymylau duon yn ymddangos dros yr Iwerydd. Yr hyn sy’n achosi’r cymylau duon hyn yw gŵr o’r enw Donald Trump.

Go brin fod angen dweud mai hwn yw ymgeisydd y gweriniaethwyr am arlywyddiaeth yr Unol Daleithiau.

A’r ofn mawr yw y gallai lwyddo, er iddo dros y misoedd diwethaf, wneud ei orau glas i droi pobl oddi wrtho drwy wneud datganiadau hollol hurt ac annifyr.

Eto, fe ddeil yn y ras, a hynny’n bennaf am nad yw ei wrthwynebydd, Hillary Clinton wedi argyhoeddi’r etholwyr yn llwyr mai hi ddylai gael ei hethol yn arlywydd a’r ddynes gyntaf i arwain y wlad fawr honno.

Na mae dipyn o gymylau wedi hel o gwmpas ei gorffennol yn ddiweddar, gyda’r wasg yn ceisio rhawio pob math o gaca, yn bennaf yn ymwneud â materion ariannol.

Ond pwrpas y llith hon yw dangos pa mor wirion y gall etholwyr yr Unol Daleithiau fod.
Cofiwch, does gen i fawr o ffydd yn rhai Cymru ar ôl gweld canlyniad yr uffarendwm ar Ewrop ond mae gen i lai fyth yn y rhai sy’n fodlon cefnogi Donald Trump.

A chan fy mod wedi sôn am yr uffarendwm, fe wnaeth Trump sylw ar hynny pan oedd yn yr Alban yn ddiweddar.

Yn ei farn ef, yr oedd y trigolion yn mynd yn hollol wyllt ar ôl iddynt gymryd eu gwlad yn ôl wrth bleidleisio i adael Ewrop.

Mae’n amlwg na ddeallodd fod Yr Alban wedi pleidleisio’n bendant iawn o blaid AROS yn Ewrop!

Yn ystod yr ymgyrch arlywyddol, bu’n pwysleisio’r ffaith ei fod yn bwriadu rheoli’r llif o fewnfudwyr o Fecsico pe bai’n cael ei ethol.

Er mwyn cyflawni hynny, byddai’n codi wal anferth ar y ffin gyda Mecsico a gwneud i Fecsico dalu am ei chodi! Dyna i chi haerllugrwydd.

Fe dalodd ddiddordeb go iawn yng nghystadleuaeth y naid gyda pholyn yn y Chwaraeon Olympaidd yn Rio, a hynny er mwyn gweld pa mor uchel y gallai cystadleuwyr o Fecsico neidio, ac fe fyddai hynny’n rhoi rhyw syniad iddo o’r uchder angenrheidiol ar gyfer y wal! 

Aeth ati i ddweud fod Mecsico yn gyrru pobl gyda phroblemau megis cario cyffuriau, drwgweithredwyr a rheibwyr yn hytrach na’u pobl ‘orau’.

Fe aeth ei ymosodiadau personol ar wahanol bobl yn sarhad llwyr ar ‘ddemocratiaeth’.

Chwi gofiwch iddo sarhau cwpwl Mwslemaidd am nad oedd y fam yn cael dweud gair mewn cyfweliad ar y teledu.

Pa fam sy’n gallu siarad yn rhwydd wedi iddi golli mab, beth bynnag?

Yr hyn a wylltiodd pobl yn waeth oedd bod y mab wedi cael ei ladd yn lifrau byddin yr Unol Daleithiau!

Yr oedd hyn yn dilyn ei ddatganiadau ynglŷn â Mwslemiaid yn gyffredinol.

Byddai’n barod i yrru pob un o’r gred grefyddol hon allan o’r Unol Daleithiau hyd yn oed pe baent yn ddinasyddion o’r wlad honno a’i reswm dros wneud hynny yw ‘fod pawb yn gwybod mai criw o derfysgwyr sy’n llofruddio pobl ydynt’.

Byddai’n rhwystro Mwslemiaid rhag dod i’r wlad, barn y bu’n rhaid iddo newid ychydig arni pan sylweddolodd fod maer Llundain, Sadiq Khan o’r ffydd honno!

Nid yw ei afael ar bolisïau tramor mor dda â hynny, chwaith.

Pan ofynnwyd iddo am ei ymateb i Ogledd Corea, yr hyn a ddywedodd oedd ‘nuke them’!

A phan aeth un gohebydd ymlaen i holi am ei ymateb i Dde Corea ei ateb oedd ’a rheiny hefyd!’

Pan drafodwyd y broblem gydag ISIS neu’r Wladwriaeth Islamaidd, ei ateb oedd bomio’r meysydd olew sydd ganddynt yn Irac – er mai yn Syria y mae’r meysydd olew sydd dan reolaeth y mudiad hwnnw.

Cyn belled ag y mae newid hinsawdd yn y cwestiwn aeth ati i awgrymu mai cynllwyn gan Tsiena yw’r cwbl!

Dywedodd, hefyd, y byddai’n fuddiol ar ddiwrnod oer iawn petai ni’n cael dos go lew o gynhesu byd-eang.   

Mae llawer o engrheifftiau eraill – gormod a dweud y gwir – sydd yn rhoi awgrym pendant iawn nad yw’r dyn hwn yn ffit i fod yn arweinydd y wlad fwyaf pwerus ar y ddaear. 

Yn ei law, fe fyddai’r botwm hollbwysig a allai orfodi tanio arfau niwclear.

Ac mae hynny yn destun pryder i ni i gyd.

Y cwestiwn mawr yw a fydd yr etholwyr yn yr Unol Daleithiau yn barod i’w ethol yn arlywydd?

Er bod y polau piniwn yn awgrymu na fydd hynny’n digwydd, nid wyf mor hyderus. 

Gallai digwyddiadau annisgwyl newid barn rhwng hyn a’r dydd pleidleisio ac os bydd hynny’n digwydd, byddai’n well i chwi archwilio polisi yswiriant eich tŷ er mwyn gweld os yw ‘ethol Donald Trump yn arlywydd’ wedi ei ychwanegu ato yn y rhestr risgiau!

Rhannu |