Colofnwyr
Gŵyl Rhif 6 - Angen gwrando ar drigolion Porthmwdog!
RWY’N sgwennu’r golofn hon ychydig ddyddiau wedi i lanast Gŵyl Rhif 6 greu penawdau newyddion ar y cyfryngau. Wel, a dweud y gwir, nid llanast yr ŵyl ei hun er bod digon o fwd yn honno, ond llanast y meysydd parcio ar y Traeth ym Mhorthmadog.
Fel y mae’r enw ‘Traeth’ yn awgrymu, dyna oedd y tir hwn cyn i Alexander Madocks adeiladu’r Cob fel clawdd môr i atal y llanw a throi’r ardal yn dir amaethyddol. Byddai’r llanw yn dod i fyny cyn belled ag Aberglaslyn ac mae’r enw yn awgrymu lleoliad ceg yr afon ar y pryd.
Os am weld y tir a enillwyd o’r môr, yna mae lle ar y ffordd drosodd o Faentwrog drwy bentref Rhyd i Lanfrothen lle y gellir cael syniad da o hyn.
Er ei fod bellach yn dir amaethyddol, y mae’n dal o dan lefel y môr ac felly’n debygol o gael ei foddi ar dywydd garw. Er mwyn rheoli’r llanw ac er mwyn gadael i’r dŵr lifo allan o’r afon Glaslyn y mae dorau môr yn harbwr Porthmadog sy’n agor a chau gyda llanw a thrai,
Rai blynyddoedd yn ôl, adeiladwyd ffordd i osgoi tref Porthmadog er mwyn ateb y broblem drafnidiaeth ofnadwy a fyddai’n cloi ffyrdd y dref yn rheolaidd yn ystod yr haf.
Adeiladwyd y ffordd newydd ar draws y Traeth a chan ei bod yn uwch na’r tir, cred llawer o’r trigolion lleol fod hyn yn dal mwy o ddŵr yn ôl.
Yn sicr, bu i gae pêl-droed Clwb Porthmadog, yn ogystal â’r ystafelloedd newid a’r clwb cymdeithasol ddioddef yn ddrwg iawn o ganlyniad i lifogydd o leiaf dwywaith yn ystod y misoedd diwethaf – rhywbeth nad oedd yn arferol cyn hynny.
Pa un ai’r ffordd newydd ynteu glaw anarferol sy’n gyfrifol, neu hyd yn oed gyfuniad o hyn, amser a ddengys.
Y gwir plaen yw na ddylid fod wedi caniatáu defnyddio’r caeau hyn fel meysydd parcio. Cwta bythefnos cyn yr ŵyl, yr oedd storm a glaw trwm wedi achosi i dŵr lifo dros y caeau a phrin fod y tir wedi cael cyfle i sychu cyn iddynt gael eu defnyddio fel meysydd parcio.
Yn ôl un o weithwyr lleol Cyfoeth Naturiol Cymru – y corff sy’n gyfrifol am yr afonydd, cafodd y trefnwyr rybudd pendant o law trwm ar ddydd Sadwrn yr ŵyl ac y gallai hynny olygu y byddai’r afon Glaslyn yn gorlifo gan foddi’r union gaeau hyn.
Ymddengys, yn ôl y trigolion lleol, fod y cwmni hwn wedi holi am gaeau yn ardal Talsarnau a Maentwrog ond iddynt ddiystyru’r safleoedd hynny am wahanol resymau.
Y gwir plaen yw nad yw’r un o’r safleoedd hynny’n cael eu heffeithio gan lifogydd ac y byddent wedi bod yn addas, gan osgoi’r llanast a ddeilliodd o’r penderfyniad i gadw’r safleoedd parcio gwreiddiol ar y Traeth.
Cwmni o ffwrdd sy’n trefnu Gŵyl Rhif 6 ac nid Cwmni Portmeirion ei hun. Dieithriaid a ddewisodd anwybyddu cynghorion y trigolion lleol ynglŷn â’r broblem gyda gor-lifo. Gellir aralleirio’r ‘hen a ŵyr a’r ifanc a dybia’ fel hyn – y trigolion lleol a ŵyr ond y dieithriaid a ŵyr y blydi lot !
‘Hawdd codi pais…’ medd yr hen air ond dydi o ddim yn wir yn y cyd-destun hwn. Yr oedd y rhybudd ymlaen llaw yn rhoi digon o amser i ‘godi pais’!
A pha drefniadau oedd ar gyfer argyfwng fel hwn? Ychydig iawn, mae’n ymddangos. Yr ydym yn gyfarwydd â’r traciau metel sy’n cael eu gosod ar hyd meysydd parcio’r Eisteddfod Genedlaethol. Fe ddaeth hyn o ganlyniad i broblemau parcio ar gaeau gwlyb y gorffennol. Pwy all anghofio Eisteddfod Abergwaun a’r tywydd garw a gafwyd yn ystod yr wythnos honno, eisteddfod a gafodd ei bedyddio yn ‘Eisteddfod y Mwd’ ? Ond yma ym Mhorthmadog, roedd y ceir wedi eu parcio ar gaeau heb unrhyw baratoad ar gyfer tywydd gwlyb.
Cofiwn i lawer o’r ffermwyr lleol gamu i’r adwy pan alwyd am gymorth i lusgo’r ceir o’r caeau. Eto, er mai dod yno o’u gwirfodd a wnaethant, gan dreulio oriau ar y tro ar y safle, y trigolion lleol oedd yn cyflenwi bwyd a diod iddynt. A’r cyngor lleol a agorodd Canolfan Glaslyn i roi lloches dros nos i lawer iawn o’r rhai na allai gael eu ceir o’r safle.
Heblaw am y gymuned leol, fe fyddai’n ddrwg iawn ar y rhai oedd â’u ceir yn sownd yn y mwd.
Mae angen dysgu’r gwersi cyn cynnal gŵyl debyg y flwyddyn nesaf. Y wers fwyaf yw dysgu gwrando ar y trigolion lleol yn hytrach na’u hanwybyddu. O wneud hynny, gall enw’r dref gael ei newid yn ôl o Borthmwdog i Borthmadog!