Colofnwyr
Ymuno â Merched y Wawr
Y dydd o’r blaen fe wnes i ymuno â Merched y Wawr. Na, dydw’i ddim wedi troi’n drawsrywiol.
Ymuno wnes i ag aelodau Cangen Ffair Rhos a’r Cylch ar eu taith ddirgel. Ro’n i’n un o bedwar o ddynion ymhlith y deunaw a aeth ar y daith.
Hanfod taith ddirgel yw’r ffaith na ŵyr y teithwyr i ble maen nhw’n mynd. Dim ond y trefnydd ddylai wybod.
Cofiwch, nid yw hynny’n golygu y dylid gosod mwgwd dros lygaid gyrrwr y bws.
I mi doedd y mannau galw ddim yn gyfrinach gan mai Jên y wraig oedd y trefnydd.
Fedrwn i ddim bod wedi peidio’i chlywed yn gwneud y trefniadau dros y ffôn.
Diolch byth mai taith ddirgel oedd dan sylw yn hytrach na helfa drysor.
Bydd y wraig yn tystio na fedrwn i ganfod fy ffordd i gegin fy nghartref fy hun.
I Fachynlleth yr aethom gyntaf. Croesewais hynny gan mai gyrru drwyddo fyddwn ni fel arfer. Ond mae Machynlleth yn dref sy’n werth oedi ynddi.
Daw atgofion cynnes am y lle. Nôl yn y chwedegau bu gan Mach dîm pêl-droed peryglus iawn yn cynnwys sêr fel Wil Daf a Dave Kinninonth, Roy Callow a Dai Jarvis, Eddie Mills a Billy Vaughan.
Ac fe fodolai cyfeillgarwch rhyngom ni, glwb y Bont a hogiau Mach.
Weithiau hefyd byddai fy hen gyfaill Peter Goginan a minnau’n teithio fyny i Fachynlleth ar fws y Crossville ar ddiwrnod marchnad gan fwynhau peint neu ddau yn y Skinners.
Y tro hwn fe wnaeth Sel, Arwyn a finne fwynhau diod neu dri yn y Wynnstay.
Prif bwrpas ein hymweliad â Machynlleth oedd ymweld â Chanolfan Glyndŵr, lle cawsom ein goleuo gan Alan Wyn Jones. Cywilyddiais o feddwl cyn lleied a wyddwn am Lyndŵr.
Goleuwyd ni hefyd gan Alan am gyfraniad Davies Llandinam, gŵr mawr arall na wyddwn ddigon amdano.
Ymlaen â ni wedyn am y Bala. A diddorol oedd i ni fynd heibio, yng nghyrion Tal-y-llyn, gartref y wraig a fu’n weithredol yn sefydlu mudiad Merched y Wawr, Zonia Bowen yn 1967.
Coffa da hefyd am ei gŵr, Geraint, Prifardd a chyn-Archdderwydd a gŵr hynaws iawn.
Bûm yng nghyffinau’r Bala droeon eisoes eleni, hynny oherwydd mynych ymweliadau â’r Fron-goch ym mlwyddyn coffâd canmlwyddiant carcharu Gweriniaethwyr yn dilyn Gwrthryfel y Pasg.
Wn i ddim sawl tro yr euthum heibio, yn Llanycil, i arwydd yn cyhoeddi ‘Byd Mary Jones’.
Mynd o’r tu arall heibio wnes i bob tro – tan yr ymweliad hwn. A da fu i mi fod yno.
Mae datblygiad Canolfan Mary Jones yn agoriad llygad. Codwyd y ganolfan o’r newydd a’i chysylltu â hen eglwys Sant Beuno, un o dair eglwys yn y fro a gaewyd dros y blynyddoedd diwethaf.
Mae stori Mari Jones yn wybyddus i bawb – neu o leiaf fe ddylai fod – sef hanes y ferch 15 oed a gerddodd 26 milltir yn 1800 o Lanfihangel-y-pennant i’r Bala i brynu Beibl.
Yn y ganolfan ceir, ar ffurf fideo a sgwrs, hanes y cyfarfyddiad rhwng y ferch ifanc a Thomas Charles.
Mae’r gweithgareddau aml-gyfrwng yn ein galluogi i ddilyn y daith.
Mae yno greiriau i’w gweld hefyd ynghyd â bedd Thomas Charles yn y fynwent gerllaw.
Yno ar Lan Llyn Tegid mae yna gaffi cyfleus, man picnic a maes chwarae i blant.
Mae’n werth mynd yno petai ond i glywed sut lwyddodd Cymdeithas y Beiblau i godi arian ar gyfer y fenter.
Ni chafwyd un ddimai oddi wrth Gronfa’r Lotri, gyda llaw.
Nôl â ni wedyn am Dre’r-ddôl lle cawsom, yng Ngwesty’r Adarwr wledda cyn mynd adre.
A do, cawsom lond y lle o groeso Cymraeg gan gyrraedd adre ar awr ddigon call, ymhell cyn y wawr.
A dyna ni. Medraf fynny bellach i mi, dros dro, fod yn aelod o Ferched y Wawr.
Cofiwch, rwy’n dal i fod ag angen map ar gyfer ffeindio fy ffordd i’r gegin yn fy nghartref fy hunan.
Felly, dim helfa drysor os gwelwch yn dda.