Colofnwyr

RSS Icon
06 Medi 2016
Gan ARTHUR THOMAS

Apêl uniongyrchol i Undeb Rygbi Cymru

AR ddechrau tymor rygbi newydd, yr wyf yn apelio i Undeb Rygbi Cymru i newid agwedd tuag at yr iaith Gymraeg ac at deulu brenhinol Lloegr.

Y mae’r apêl hon, hefyd, yn mynd at y miloedd o gefnogwyr sy’n heidio i Gaerdydd i gefnogi’r tîm cenedlaethol ar ddyddiau gemau rhyngwladol.

Yn ystod cystadleuaeth pêl-droed Ewro 2016, fe welsom sut y bu i agwedd iach FA Cymru tuag at yr iaith godi ei statws yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.

Pwy all anghofio’r cynadleddau i’r wasg lle y bu i ddefnydd o’r Gymraeg gan Osian Roberts, wrth ateb cwestiynau, ddod yn ddigwyddiad hollol naturiol?

Mewn ystafell yn llawn o ohebwyr o dros y byd, yn enwedig wrth i dîm Cymru brofi llwyddiant yn y gystadleuaeth, yr oedd y defnydd o’r Gymraeg wrth ateb cwestiynau a osodwyd yn Gymraeg yn rhywbeth cyffredin yn ystod y cynadleddau hynny.

Cofiwn, hefyd, am waith da pobl megis Ian Gwyn Hughes yn y cefndir.

Gan fod y tîm yn aros yn Llydaw dros gyfnod y gystadleuaeth, cafwyd rhywfaint o ddefnydd o’r Llydaweg, hefyd, o ran parch i’n chwaer genedl Geltaidd.

Cymharwch hynny gydag agwedd Undeb Rygbi Cymru. Pa bryd y clywsoch ddefnydd o’r Gymraeg yn eu cynhadleddau i’r wasg, tybed?

Does gen i fawr o gof o hynny’n digwydd, eithr y drefn yw cael rhywun i wneud datganiad neu ateb cwestiynau mewn cyfweliad preifat gyda gohebydd y BBC neu S4C ar y diwedd.

Efallai y cofiwch, hefyd, i’r Undeb Rygbi ddileu’r wefan Gymraeg a dim ond o ganlyniad i gryn brotestio a’r sylw anffafriol a gododd o hynny y bu iddynt ‘ailfeddwl’.

A phan gynhaliwyd cystadleuaeth Cwpan Rygbi’r Byd yn Ffrainc, yr oedd tîm Cymru yn aros ac yn chwarae rhai o’r gemau yn Llydaw ond a fu sôn am air o Lydaweg? Sgersli bilif!

Mater arall sy’n codi pwys ar lawer o’r cefnogwyr cyffredin yw’r modd y bydd yr Undeb Rygbi yn llyfu tin teulu brenhinol Lloegr. 

Pwy all anghofio iddynt enw cwpan ar ôl un o feibion Carlo yn hytrach na’i henwi er cof am Ray Gravell yn ôl dymuniad y cefnogwyr? 

Ymddengys fod gormod o bwyslais yn cael ei roi ar y cysylltiadau afiach hyn y myn yr Undeb Rygbi eu gwneud.

Cymharwch hyn gyda safbwynt FA Cymru, y gellir gweld nad ydynt am wneud F.A. gyda’r teulu brenhinol. Yn hynny o beth, maen  nhw’n dangos parch tuag at y cefnogwyr ar lawr gwlad.

Felly, dylai Undeb Rygbi Cymru ddangos mwy o barch tuag at y cefnogwyr a’r chwaraewyr sy’n asgwrn cefn i’r gêm yma yng Nghymru.

O Grymych i Gaergybi ac o Nant y Moel i Nant Conwy cofiwch mai hwy yw cynheiliaid y traddodiad ac nid rhyw deulu breintiedig o Loegr (sydd, wrth gwrs, â’u teyrngarwch i Loegr).

A chofiwch fod llawer o’r chwaraewyr a’r cefnogwyr hyn yn Gymry Cymraeg ac felly, mae sarhau’r Gymraeg drwy wrthod rhoi lle teilwng iddi yn sarhau’r cefnogwyr eu hunain.

Tra’n sôn am y cefnogwyr, pa bryd oedd y tro diwethaf y clywsoch ‘Calon Lân’ yn cael ei chanu gan dorf mewn gêm ryngwladol?

Wel yn yr Ewros y digwyddodd hynny ac nid yn ystod gêm rygbi ryngwladol.

Ymddengys fod cefnogwyr ein tîm pêl-droed yn llawer mwy Cymreig na chefnogwyr ein tîm rygbi. 

Maent yn canu’r Anthem yn ystod y gêm i godi calon y chwaraewyr ar y cae.

Beth a gawn gan gefnogwyr ein tîm rygbi cenedlaethol?

Rhyw gytgan o ‘Hymns and Arias’ a ‘Bread from Evans’.

Pa le aeth ‘Calon Lân’, ‘Sosban Fach’ ac ‘I bob un sy’n ffyddlon’? 

Mae dyletswydd ar yr Undeb Rygbi i roi hwb i’r canu yn y gemau rhyngwladol ac, o lwyddo i wneud hynny, fe fydd y tîm yn elwa yn y pen draw.

Am flynyddoedd, byddai tudalen yn rhaglen y gêm yn cynnwys geiriau’r caneuon hyn. 

Byddai eu cynnwys unwaith eto yn gymorth i ddysgu’r caneuon i’r cefnogwyr hynny nad ydynt yn eu gwybod.

Dydi hyn ddim yn golygu llawer o ymdrech. 

Ond mae angen newid y ffordd o feddwl fel y bydd ein hundeb rygbi cenedlaethol (a’i dîm) yn cael ei dderbyn yn llawn fel Cymry ac nid rhyw daeogion brenhinol sydd wedi anghofio pwysigrwydd yr iaith Gymraeg er mwyn cael ffafrau gan y teulu hwnnw.

Os am gymorth i weld y ffordd ymlaen, yna dysgwch gan F.A. Cymru.

Rhannu |