Colofnwyr

RSS Icon
31 Awst 2016
Gan ARTHUR THOMAS

Angen Tîm Cymru yn y Gemau Olympaidd

DO, mi gawsom fis o gael bod yn Gymry balch wrth i’n tîm cenedlaethol oleuo’r Ewros yn ystod mis Mehefin. Ond dyma ni wedyn yn syth yn ôl yn yr hen rigol, gyda’n pobl ifanc yn cystadlu yn y Chwaraeon Olympaidd fel rhan o’r hyn a elwir yn ‘Team GB’.

Mor ddadlennol oedd erthygl yn un o bapurau Lloegr yn sôn fel y bu i dîm Lloegr greu embaras yn Ffrainc ond erbyn hyn, mae Tîm JiBi yn gwneud iawn am hynny!

Onid yw’n hen bryd i’r Cymry taeog hynny ddeall o’r diwedd fod Prydain a Lloegr yn golygu’r un peth i’n cymdogion.

Fe waredaf wrth glywed ar y newyddion Cymraeg (y BBC wrth gwrs) fod Cymry wedi ennill medalau. Wrth gwrs, aelodau o Dîm JiBi ydynt ac felly’n cael eu cyfrif yn Saeson gan bawb arall yn y byd. Os am gystadlu yn y Chwaraeon Olympaidd yna dylid sefydlu timau o Gymru a’r Alban yn union fel a ddigwydd yn Chwaraeon y Gymanwlad.

Dim ond yn achlysurol y bu imi droi i wylio’r Chwaraeon Olympaidd a hynny nid yn unig am nad oedd gennyf ddiddordeb yn nifer o’r campau ond am  fod y darllediadau yn troi’n ddim amgenach na phropaganda Prydeinig. 

Onid oedd yr holl sylw’n cael ei roi i’r ffaith fod Tîm JiBi wedi ennill medalau, i roi cyfle i anthem Lloegr gael ei chwarae ac i Ffedog y Cigydd gael ei chwifio er mwyn profi pa mor ufudd yr ydym fel Cymry i fawredd JiBi!

Heblaw am yr hyn a ddywedais yn barod, credaf fod y ddelfryd a roddodd fodolaeth i’r syniad o Chwaraeon Olympaidd yn ystod y bedwaredd ganrif a’r bymtheg wedi cael ei llygru gan yr ymdrechion i bortreadu cenedl uwch cenedl.

Dyna i chi gostau’r holl sbloet. Sut y gellir disgwyl i wlad fel Brasil gyda chryn dlodi ym mysg ei thrigolion fforddio gwastraffu cymaint o arian ar y chwaraeon?

Pan gynhaliwyd y Chwaraeon Olympaidd ym Montreal, Canada ym 1976, fe gymrodd ddeugain mlynedd i glirio dyled y gost o’u cynnal. A hynny, cofiwch, mewn gwlad cymharol gyfoethog.

Faint gymer hi i Brasil glirio’r ddyled, tybed? A pha wasanaethau fydd yn gorfod dioddef toriadau er mwyn gwneud hynny?

Fe welsom gryn anniddigrwydd dros y blynyddoedd diwethaf ym Mrasil, gyda phrotestio yn erbyn cynnal y Gemau yno o gwbl. A beth am y bobl druain y bu’n rhaid clirio eu tai, cannoedd ohonynt, a hynny dim ond i wneud maes parcio mawr i’r pwysigion?

Mae traeth Copacabanna yn enwog drwy’r byd ond yr ochr arall i’r trwyn, mae bae arall lle y cynhaliwyd y cystadlaethau hwylio. Roedd y dŵr yn y fan honno yn hollol lygredig, yn llawn  gwastraff diwydiannol a charthion dynol er y gwnaed addewid pendant i’w lanhau.

Gwyddom i o leiaf un cystadleuydd fynd yn sâl o ganlyniad i lyncu dŵr llygredig yn ystod y rasys hwylio ond faint o rai eraill a ddioddefodd?

Pwy all anghofio Atlanta yn yr Unol Daleithiau pan gynhaliwyd y gemau yno? Cyn iddynt gychwyn, aeth yr awdurdodau o gwmpas y ddinas yn chwistrellu dŵr asidig ar y digartref a gysgai ar y strydoedd er mwyn eu hel oddi yno. Onid oedd cael pobl yn cysgu ar y stryd yn difetha delwedd y ddinas yn llygad y byd?

Mater arall yw’r nifer o gampau a geir erbyn hyn. Yn fy marn i, does dim angen cynnwys pêl-droed gan fod cystadleuaeth Cwpan y Byd yn cyflawni’r un pwrpas.

Felly, hefyd, rygbi, tenis a golff. Mae pencampwriaethau pwysig yn y campau hyn eisoes ac nid yw eu cynnwys yn y Chwaraeon Olympaidd yn ychwanegu at hyn.

Un o’r ychydig uchafbwyntiau i mi, a hynny am y trydydd tro erbyn hyn, oedd gweld y rhedwr anhygoel o Jamaica, Usain Bolt yn rasio. Seren o’r iawn ryw ac un sy’n gwisgo mantell pencampwr Olympaidd gydag urddas.

Fedr hyd yn oed y BBC ddim anwybyddu ei fawredd, er, wrth gwrs, petai’n Brit yna byddai ar y sgrin fach yn ddiddiwedd.

Pe cai Cymru’r hawl i yrru tîm i’r Chwaraeon Olympaidd yna byddwn yn cefnogi’r aelodau gant y cant ac, efallai, yn eu mysg y byddai rhywun o statws Usain Bolt a fyddai hyd yn oed yn haeddu rhywfaint o sylw gan y BBC!  Brysied y dydd hwnnw.

Rhannu |