Colofnwyr
Rhoi gwynt newydd yn hwyliau’r Diddymwyr?
ARWYDD ei bod yn gyfnod gwan am newyddion yw’r holl sylw a gafodd erthygl arweinydd y Ceidwadwyr yng Nghymru mewn papur Sul safonol.
Arwydd hefyd nad oes gan Andrew R T Davies fawr iawn i’w ddweud wrth ddarllenwyr y tu allan i Gymru heblaw codi amheuon ynglŷn â’r sefydliad y mae ei gyd-bleidwyr yn Lloegr yn meddwl pam ei fod yno yn y lle cyntaf.
Sôn am yr amhosibl a wnaeth arweinydd y Blaid Geidwadol ac Unoliaethol yng Nghymru.
Petai pleidlais yn cael ei chynnal yn awr ar ddatganoli i Gymru ni fyddai’n llwyddo, dyna a ddywedodd.
Na fyddai siŵr iawn, a bod yn realistig, mae’r don wrth-sefydliadol yn gryf – yng Nghymru fel y mae hi yn Lloegr – ac ni fyddai awydd am greu sefydliad i wleidyddion i gynnal Cynulliad.
Yr hyn sy’n berffaith amlwg ar y llaw arall yw fod datganoli wedi digwydd ar yr ail gynnig yn 1999 a bod y sefydliad yn y Bae wedi ei greu.
Nid gofyn am bleidlais i ddileu’r Senedd yr oedd Mr Davies fel y cafodd ei ddehongli gan rai ond ceisio creu darlun dychmygol a wnai nad yw’n gwneud synnwyr gan fod gennym yr hyn a elwir yn Gynulliad Cenedlaethol Cymru a Llywodraeth Cymru yn gweithredu yno.
Pan gyhaliwyd y refferendwm cyntaf yn 1979 cafodd y syniad ei wrthod yn bendant.
Ar y pryd nid oedd yr amgylchiadau’n gydnaws gan ei bod yn amlwg fod y Ceidwadwyr ar gynnydd a’r teimlad unoliaethol yn gryf iawn.
Ugain mlynedd yn ddiweddarach roedd peth o hwnnw wedi llacio’i afael – wedi gweld i raddau sut oedd Mrs Thatcher wedi ein trin – digon i roi mwyafrif bychan o blaid datganoli.
Ers hynny mae arolygon wedi dangos fod y Cynulliad wedi ennill ei blwyf.
Serch hynny, mae Mr Davies yn ymwybodol fod awydd i gael gwared a’r Cynulliad a throi’n ôl at yr hen drefn.
Dangoswyd yn yr etholiad diwethaf ym mis Mai fod Plaid Diddymu’r Cynulliad wedi derbyn 44,286 o bleidleisiau heb wneud fawr ddim ond anfon taflen drwy’r post.
Hynny, a chyn lleied yn pleidleisio yn etholidau’r Cynulliad, sydd wedi rhoi’r tanwydd yn nwylo’r arweinydd Cymreig i gredu na fyddai cefnogaeth i ddatganoli petai pleidlais yn cael ei chynnal heddiw.
Ac mae’n anodd iawn anghytuno petai hynny yn gwneud unrhyw les.
Yr hyn mae Andrew R T Davies wedi ei anghofio wrth gwrs yw fod y Cynulliad wedi bod yn gyfrwng i adfywio’r Blaid Geidwadol yng Nghymru.
Yng nghyfnod Tony Blair aethant yn fodau dieithr iawn nes i’r sefydliad yr oeddynt hwy yn erbyn ei greu ddod i roi swcr iddynt a’u gwneud yn wrthblaid yn y Cynulliad diwethaf.
Ni fyddem wedi clywed am Mr Davies o bosibl oni bai am fodolaeth y Senedd.
Mae’r un mor wir am UKIP. Ar un adeg roeddynt am chwalu’r Cynulliad gyda’r ordd fwyaf oedd i’w chael nes iddynt gael gweddnewidiad.
Drwy sefyll i fod yn aelodau ohono gwelent ei bod yn bosibl creu llwyfan iddynt eu hunain i ddadlau dros dynnu Prydain o’r Undeb Ewropeaidd.
A fyddai llefydd fel Merthyr Tudful wedi troi yn erbyn Ewrop oni bai fod UKIP wedi braenaru’r tir yn y de ddwyrain am gyfnod cyn y refferendwm hanesyddol?
Yr hyn y gall colofn yr arweinydd ei wneud yw rhoi gwynt newydd yn hwyliau’r Diddymwyr.
Maent yno’n llechu yn y cefndir drwy’r adeg.
Yr hyn a all fod yn arf yn eu herbyn yw’r mesur i newid y ffiniau seneddol yng Ngymru fel bod gennym lawer llai o Aelodau Seneddol yn San Steffan.
Pan ddaw hynny i rym, ac nid oes dwywaith na ddaw gyda Theresa May wrth y llyw, bydd angen y Cynulliad a gorfodaeth arno bron i gryfhau a lledu ei adennydd.
Llun: Andrew R T Davies