Colofnwyr

RSS Icon
24 Awst 2016
Gan LYN EBENEZER

Mae’n ddrwg gen i fod mor grintachlyd. Ond ni wnaeth y Mabolgampau Olympaidd fy nghyffroi o gwbl

Hwrê! Rwy’n dathlu! Rwy’n teimlo fel rhedeg o gwmpas bwrdd y gegin ond bod fy hen bengliniau’n gwichian gormod. Ond rwy’n dathlu! Na, nid am fod Tîm Jî Bî wedi ennill 67 o fedalau, mwy na Tsieina fawr. Bei jing! Dyna’i chi gamp! Na, rwy’n dathlu am fod yr holl sbloet drosodd.

Nos Sul roeddwn i ar bigau’r drain yn byseddu rheolwr y set deledu. Nid Jên, ond y teclyn bach hwnnw sy’n tueddu i guddio dan glustog y soffa.

BBC 1, Tîm Jî Bî. BBC2, Chris Packham a’i griw’n ceisio denu mwy o Jî Bîs y trefi a’r dinasoedd i gefn gwlad. ITV, Midsomer Murders (Ripît). S4C 6.50, Newyddion a mwy o Tîm Jî Bî. Yn dilyn hynny, ripîts ac yna Parch. Collwch yr ‘r’. Yna newidiwch y ‘P’ am ‘C’. A dyna chi. O’r diwedd canfod hen bennod o ‘Taggart’ ar sianel Alibi. Awr ddifyr yn gwylio pennod o’r ddrama datrys a dirgelwch orau a fu ar deledu erioed. Braf gweld ditectif sy’n medru ymddangos fel pe na byddai angen arno dunnell o Rennies. 

Mae’n ddrwg gen i fod mor grintachlyd. Ond ni wnaeth y Mabolgampau Olympaidd fy nghyffroi o gwbl. Llongyfarchiadau i’r Cymry wnaeth ennill medalau.

Ond peidiwch â disgwyl i mi ymuno yn y don o Brydeindod fwyaf ers boddi Cantre’r  Gwaelod. OK, doedd Prydain ddim yn bod bryd hynny. Does dim angen hollti blew, oes ’na? 

Rwyf am ddyfynnu nawr (drwy gyfeithiad) rywbeth a ysgrifennwyd ar gyfer papur newydd. Wna’i ddim datgelu enw’r awdur na’r papur tan yn nes ymlaen. 

“Dychmygwch wlad (sic) nad yw’n rhyw lwyddiannus iawn ond sydd am hybu ei delwedd yn y byd. Mae ei heconomi’n gwegian, ei dinasoedd yn fudr a dirywiedig. Nid yw ei system addysg yn rhyw wych iawn. Felly dyma’r wlad (sic) honno’n gwario symiau enfawr o arian ac ymdrech anferth i chwilio am bobl ifanc a all ennill medalau mewn cystadleuthau chwaraeon rhyngwladol. Mae hi’n dewis campau lle mae’r gystadleuaeth yn wan. Mae hi’n gyrru ei hathletwyr ymlaen yn ddidrugaredd. Adref a thramor gweddnewidir ei delwedd. Aiff y cyfryngau cenedlaethol yn wallgof dros bob medal a enillir. Mae’r trigolion yn anghofio, dros dro, ddiflastod eu bywyd. Mae’r anthem yn seinio a’r faner yn chwifio’n uchel.”

Am ba ‘wlad’ mae e’n sôn? Does dim angen ateb. Pwy oedd e? Wel, arch-Brydeiniwr y Mail on Sunday, Peter Hitchens. Gadewch i ni ystyried camp enfawr Prydain mewn gwaed oer. Fe gostiodd pob medal £5.5 miliwn yr un, arian a ddaeth o’n pocedi ni, drethdalwyr. Ac fel y dywed Hitchens, os yw chwaraeon yn golygu unrhyw beth, yna mae’n ymweud â llwyddiannau unigol yn hytrach nag â chynlluniau, cyllidebau a bri gwleidyddol. Yn wir, â Hitchens mor bell â honni fod nodd gwladwriaethol Prydain yn fwy afiach nag oedd un Gorllewin yr Almaen gynt.

Cawsom ein hatgoffa gan Hitchens hefyd fod y cyfan wedi ei noddi’n ariannol allan o gronfa’r Lotri, gyda Llywodraeth Prydain o dan arweiniad John Major ar y pryd yn weithredol hybu gamblo. Ac meddai Hitchens, rhith yw’r cyfan a phan ddaw’r dathlu i ben bydd y sefyllfa’n waeth nag y bu cynt. 

Am yr ail wythnos yn olynol felly dyma fi’n tynnu sylw at gynnwys y ddau bapur adain dde mwyaf eithafol yn y Jî Bî, y Mail a’r Mail on Sunday.

Byddaf yn eu darllen, cofiwch, am fy mod am weld sut mae’r ochr arall yn byw. Dydw’i ddim yn un o’r rheiny y cyfeiriwyd atynt gan fy hen gyfaill Gwilym Owen. Pobl sy’n adolygu’r papurau ar Raglen Dewi Llwyd ac sy’n rhy uchel ael i ddarllen y tabloids ond pan gânt eu talu am wneud hynny. Yn wir, roedd hi’n werth darllen y Mail ddydd Sul diwethaf petai ond er mwyn darllen y chwalfa gafodd Owen Smith gan Dan Hodges.

Ond i fynd yn ôl at y nawdd anhygoel a dderbyniodd Tîm Jî Bî. Mae’r Gwasanaeth Iechyd yn gwegian. Ond faint wariwyd ar Dîm Jî Bî dros y pedair blynedd diwethaf? Dim llai na £313 miliwn.

Pwy ydw i, sy’n caru pêl-droed i gwyno, medde chi, pan fo Man U yn gwario can miliwn ar un chwaraewr? Y gwahaniaeth yw nad fi a chi sy’n talu am Paul Pogba. Mae’r cefnogwyr yn cyfrannu, wrth gwrs, drwy dalu crocbris am docynnau. Ond os yw cefnogwr yn ddigon gwirion i dalu rhwng £60 a £70 am docyn, rhyngddo ef â’i gawl.

Fel Cardi mi arhosa’i adre’n gwylio ar Sky neu BT. Mae hynny’n costio hefyd. Ond fi sy’n talu nid chi. Felly meindiwch eich busnes! 

Pach! Neu Cach! Dewiswch chi!

Rhannu |