Colofnwyr
Y geiriwr garw â’r galon feddal
AETH bron i hanner can mlynedd heibio ers i mi ei weld am y tro cyntaf. Yn nhafarn y Rhyddings yn Abertawe oedd hynny, cyrchfan y myfyrwyr Cymraeg ar y pryd.
Cofiaf ei gyfarchiad cyntaf, “Pwy ***** wyt ti?” A dyna gychwyn yn yr un gwynt ag y parhaodd am y blynyddoedd i ddod.
Cofiwch, nid oedd Ieu at ddant pawb. Yr oedd ganddo’r ddawn ryfeddol o ganfod pwy fyddai ei wir ffrindiau, a hynny drwy wneud datganiadau ymosodol yn llawn rhegfeydd.
Os byddech yn gallu derbyn hyn, yna fe ddeuai ei wir gymeriad allan a’r galon fawr, feddal. Yr hyn a wnâi oedd gwahanu’r grawn o’r manus a gwneud hynny’n hollol blaen. Nid oedd rhagrith a gweniaith yn rhan o’i gymeriad.
Yn fuan iawn, bwriodd i mewn i frwydr yr iaith ac o ganlyniad i gael ei ddal yn ystod yr ymgyrch arwyddion ffyrdd a gwrthod talu’r ddirwy a osodwyd arno, fe’i carcharwyd.
Digwyddodd hynny ar union adeg ei arholiadau gradd a bu’n rhaid i’r diweddar John Davies (John Bwlchllan), oedd yn ddarlithydd hanes Cymru yn Abertawe ar y pryd, fynd yn ddyddiol i’r carchar i oruchwylio’r arholiadau.
Fe ddywedai Ieu na fyddai wedi llwyddo i gael gradd heb fod yn y carchar ond doedd neb ohonom a oedd yn ei adnabod yn dda yn credu hynny. Na, i’r gwrthwyneb. Byddai un mor alluog ag Ieu wedi llwyddo i ennill gradd uwch o dan amodau arferol.
Ar ôl gorffen yn y coleg, aeth i Aberystwyth fel ysgrifennydd Cymdeithas yr Iaith ar y cyd gydag Arfon Gwilym.
Byddwn yn dal i wneud llawer gydag ef yn ystod y cyfnod hwn a minnau, erbyn hynny, yn athro yn Wrecsam. Byddwn yn ymweld â’i gartref yn Rhos ac yn mwynhau awyrgylch y cartref, gyda’i dad o’r un anian ag Ieu, a’r ddau wrthi’n dadlau yn nhafodiaith hyfryd y Rhos, gan smocio fel stemars nes y byddai’n anodd gweld mam Ieu yn y cefndir.
Gyda llaw, un o ardal Caernarfon oedd Mrs Roberts a chofiaf am byth iddi fod y cyntaf i ddod i ymweld ag Elen wedi i honno gael ei geni yn Ysbyty Maelor, Wrecsam. Daeth Elen a Ieu yn gyfeillion ac edrychai hithau ymlaen at weld ‘Yncl Ieir’ fel y galwai hi ef.
Ni fyddai Ieu yn cofio dyddiadau pen-blwydd, ond gwyddai fod Elen yn hoff o hel eliffantod – nid rhai byw, wrth gwrs, ond rhai pot neu blastig.
Un diwrnod, dyma Ieu yn cyrraedd y tŷ acw gyda bocs cardbord mawr yn llawn o eliffantod – yr oedd wedi bod yn eu casglu mewn seli cist ceir dros gyfnod o fisoedd a heb sôn gair!
Pan ddechreuodd Elen chwarae’r delyn, daeth anrheg arall ganddo, sef ffrâm fetel dal cryno ddisgiau a honno ar ffurf telyn.
Pan ddywedwn wrtho am beidio mynd i gymaint o drafferth, yr ateb fyddai “cau dy geg – dydi o ddim i’w wneud â chdi.”
Ond, dyna fo Ieu i’r dim, y geiriwr garw â’r galon feddal.
Yn ôl i’r Rhos y daeth Ieu a chael gwaith ar y bysiau lleol – cwmni Crosli fel y galwai ef gwmni Crosville, yn gyntaf fel condyctor ac yn ddiweddarach fel gyrrwr.
Pan oeddwn yn Ysbyty Gobowen am gyfnod hir, byddai Ieu yn gweithio ar y gwasanaeth o Wrecsam i Gobowen neu Groesoswallt a chan fod y bws yn aros yn Gobowen am ryw hanner awr, fe alwai i’m gweld bob prynhawn.
Ond nid fel pawb arall, chwaith. Byddai’n dod i mewn ac eistedd ar fy ngwely gan ddweud bob tro: “Diddora fi!”
Yn ddiweddarach, ac yntau’n gyrru bysiau gyda gwahanol gwmnïau byddai’n anelu amdanoch ac yn fflachio goleuadau os byddai wedi adnabod y car.
Yn Rhos, bwriodd ati’n lleol i gefnogi’r Gymraeg, yn un o’r criw a sefydlodd bapur bro Nene ac yn creu ymwybyddiaeth o hanes lleol. Gan fod Rhos yn bentref glofaol, coleddai Ieu werthoedd sosialaidd cryf iawn ac felly yn cyfuno gyda’r cenedlaetholwr a’r ymgyrchydd iaith.
Ond nid gydag un o draddodiadau arall y Rhos – crefydd – yr oedd sôn am y pwnc fel clwtyn coch i darw! Bu hefyd yn weithgar gyda chanolfan Glan yr Afon (Bersham) fel canolfan dreftadaeth i’r diwydiant glo yn yr ardal.
Un o’i gas bethau oedd rhagrith, ac fe welai hynny’n amlygu ei hun yn y dosbarth canol Cymraeg, yn enwedig ym mysg athrawon.
Fel athro fy hunan, byddwn yn dod o dan ei lach yn aml ond am fy mod yn derbyn a hyd yn oed chwerthin am y peth, cawn faddeuant (o ryw fath).
Daliodd ein cyfeillgarwch yn gadarn ac fe fyddwn yn cael ei gwmni mewn steddfod a phrotest. Byddem yn sgwrsio ar y ffôn yn aml, a’r sgyrsiau hynny’n parhau am awr neu fwy o hyd.
Daliai i smocio fel stemar, ac fe sylwais yn Y Fenni fod sŵn gwahanol yn ei beswch, rhyw wich ychwanegol. Dywedais wrtho am fynd i weld y meddyg ond cefais ateb yn llawn rhegfeydd.
Credaf y gwyddai fod rhywbeth o’i le ond nad oedd am weld meddyg am ei fod yn ofni’r canlyniad.
Doeddwn i fawr o feddwl wrth ffarwelio ag ef mai dyna’r tro olaf y byddwn yn ei weld.
Ychydig dros wythnos wedyn, y cafwyd Ieu yn farw yn ei gadair a daeth diwedd ar un o’r cymeriadau mwyaf a’r mwyaf didwyll y cefais y fraint o’i adnabod.
Heddwch i’th lwch, Ieu.