Colofnwyr
Newid Hinsawdd - Rydym yn agos iawn at y dibyn
AR ôl wythnos o Eisteddfota o un math neu arall, heb sôn am y ffwtbol y mis blaenorol, pethau y bydd pob Cymro normal yn eu dathlu, dyma fi, yr hen Jeremeia ei hun, yn ei ôl yn cwyno!
Peidiwch â’m camddeall – mi gollais ddeigryn slei o hapusrwydd wrth i mi weld fy nghyfaill Elinor Gwynn yn ennill ei choron. Amgylcheddwr arall yn cael cydnabyddiaeth!
A phetaech chi ond wedi fy ngweld mewn tafarn yn Llydaw yn rhannu bonllefau dros dîm Cymru gyda’r hogiau (Llydewig) lleol…. (wait til the folks back home see the selfies!).
Mae fy nheimladau tuag at y bêl droed yn ddigon llugoer ar y gorau fel arfer, a’n hymlyniad at dafarn yn wannach eto. Ond onid oedd yr ychydig wythnosau diwethaf yn wahanol?
Er hynny, drennydd yr hwyl a drannoeth yr ŵyl mi deimlais yr un ysictod a llesgedd ysbryd y bûm yn eu teimlo ers tro byd. Afraid dweud bod wythnos yr Eisteddfod yn rhyw fath o gocŵn o Gymreictod sydd yn caniatáu i ni anghofio difaterwch y byd tu allan tuag at ein hiaith a’n diwylliant. I amgylcheddwr, mae’r cyferbyniad yma yn un dwbl – mae difaterwch eisteddfodwyr hwythau i argyfwng yr hinsawdd yn llethol ynddo’i hunan.
Cawsom addewid o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn…. ‘wn i’m, rhywbryd! Ac mae ein gobeithion am y tîm cenedlaethol yn ddihysbydd o hyd. Bois bach, dydi cocŵn ddim ynddi hi. Fydd yna ddim Cymraeg ymhen canrif! Os bydd iaith o gwbl ganrif ymlaen (dwi ddim yn gwamalu), mi fydd Americaneg yng Nghymru, Tcheineëg efallai, Bengaleg efallai, pwy a ŵyr – cyfoeth o ieithoedd ond mentraf ddweud, nid y Gymraeg.
A hynny nid oherwydd bod pobl wedi dymuno “llifo” i’n gwlad am y manteision, a’n boddi, ond yn hytrach oherwydd bod eu gwledydd bellach yn annioddefol i fyw ynddynt. Anghofiwn yn rhy hawdd ei bod hi’n well gan bawb fod adref.
A phwy fydd yn poeni am dîm olynyddion Chris Coleman pan fydd rhannau helaeth o Efrog Newydd a Llundain o dan y tonnau heb sôn am Y Friog, Caernarfon, Aberystwyth neu Gaerdydd, a hynny mae’n debyg o fewn oes fy wyrion i. Dydy trefniadau i achub yr iaith Gymraeg a chreu tîm ffwtbol llwyddiannus parhaus ond megis ail-drefnu’r cadeiriau haul ar y Titanic wrth ymyl hyn. Rydym fel teithwyr mewn paradwys ffŵl yn hwylio i foroedd nad ydynt wedi eu siartio. A dwi’n poeni, nid drosof fy hun (fydda’i ddim yma) ond dros fy wyrion.
Wel dyna ni, mae DB wedi ei cholli hi go iawn tro ‘ma (…troer i’r tudalennau chwaraeon!). Ond i’r sawl sydd am ddyfalbarhau â’m teithi meddwl dyma gyrraedd byrdwn fy neges. Mae Newid Hinsawdd eisoes yn effeithio ar rannau helaeth o’r byd ac mae’r byd yn wfftio. (Anghofiwn am y tro – wel, tan yr hydref – am y llifogydd cyson yn nes at adref).
Rydym yn coegio consyrn am ddiniweidion Syria neu Ethiopia heb ffurfio unrhyw fath o farn ar yr argyfwng hinsawdd sydd wrth wraidd eu trallod. Nid ydym yn cael ein hannog yn wir gan y cyfryngau i ffurfio’r fath farn - “bodlonwch ar eich rhagfarnau” yw’r neges gudd.
Mae’r bobl sydd yn dioddef yr effeithiau hyn yn wirioneddol ddiniwed. Ninnau – trwy ein harferion bwyteig a barus, a’n hapathi tuag at sefyllfa a thynged pobl nad ydym yn eu hadnabod, llai fyth yn eu deall – ie, ninnau, sydd ar fai. Fe gawn ein cyfri toc yn y fantol gan y diniwieidion hyn–- ac fe’n ceir yn brin.
Efallai mai dyna’r eliffant yng ngwaelod yr ardd – ein bai. Dywedodd TS Eliot yn rhywle, (Murder in the Cathedral dwi’n meddwl) “human kind cannot bear very much reality”. “Daw Chris Coleman i mewn” chwedl y sgriptiau drama….. a’r ffantasïau cysurus am achub yr iaith Gymraeg.
Nid wyf am ymhelaethu ar y ffeithiau, na’r datrysiadau ynglŷn â Newid Hinsawdd. Mae’r rhain i’w cael yn hawdd i’r sawl a’u mynnent hyd yn oed yn ôl-rifynnau’r Cymro, yn bennaf gan yr Athro Gareth Wyn Jones.
Fuodd yna erioed ystrydeb yn agosach at galon y gwir yn awr na honno sydd yn dweud ei bod hi’n unfed awr ar ddeg arnom, bron yn rhy hwyr i fynd i’r afael â’r sefyllfa cyn y bydd systemau’r ddaear yn magu eu momentwm eu hunain ac yn gwneud yr holl broses yn anochel a di-droi nôl.
Rydym yn agos iawn at y dibyn – sef sefyllfa o orfod cyfyngu ar y niwed (damage limitation) yn hytrach na datrys y broblem. Nid mater “amgylcheddol” i bobl fel fi yw hyn yn unig ond mater o barhad Cymdeithas Sifig yma ac ar draws y byd. Mater i bob un ohonom. Dylai Newid Hinsawdd fod ynghanol pob portffolio llywodraethol, nid y portffolio amgylcheddol yn unig. Fel yr alcoholig, y cam cyntaf ar y ffordd i wellhad yw cydnabod ei fod yn y sefyllfa o gwbl.
Fel y dywedais, nid wyf am helaethu enghreifftiau, ond rydych yn gwybod gobeithio beth sydd gen i dan sylw: llifogydd, sychder, methiant cynaeafau, gwres marwol, tannau di-reolaeth, codiad yn lefel y môr, colli rhywogaethau, dadmer rhewlifoedd a’r holl ddioddefaint ac aflonyddwch sifil a ddaw yn sgìl yr hunllefau hyn. Ac maen nhw’n digwydd rŵan yma ac ar sgrin ein teledu. Y lleiaf y dylem ni yn y Gorllewin ei gynnig i’r bobl sydd yn cael eu hadleoli yn uniongyrchol gan godiad yn lefel y môr – megis trigolion Ynysoedd Marshal – yw cynnig nodded ac ymgeledd iddynt yma, yn syth a di-amod.
Y gwyddonwyr hinsoddegol sydd yn amlygu’r ffeithiau i ni. Mae’r cwmnïau sydd yn yswirio’r cwmnïau yswiriant (y re-insurers) yn gwybod ac yn gweithredu ar y ffeithiau hyn (rydym yn talu amdanynt eisoes).
Mae Mr Trump yn eu gwadu’n gyhoeddus tra’n amddiffyn ei asedau ei hun rhag codiad yn lefel y môr!* Mae Carwyn Jones yn dweud ei fod yn gwybod y ffeithiau. Ydi Theresa May yn gwybod?
Mae’n rhaid bod y BBC yn gwybod amdanynt, ond pam nad yw’n cyflawni ei ddyletswydd i’r cyhoedd felly sy’n unol â’i enw da fel darlledwr cyhoeddus cyfrifol a’u cyflwyno i’w gynulleidfa mewn ffordd fachog, amrywiol, ddiddorol a gonest? Does dim rhyfedd bod poblogaeth o anwybodusion yn rhoi grym i wleidyddion tebyg iddyn nhw.
Mae’r pwnc a ddylai fod y mwyaf llosg o unrhyw bwnc ein hoes ac a fydd yn effeithio ar ansawdd bywyd pobl am y dyfodol rhagweladwy, yn cael ei gelu’n systematig rhag y cyhoedd (gan hepgor eithriadau anrhydeddus fel adroddiadau achlysurol newyddiadurwr amgylcheddol y BBC David Schukman). Mae’n deg gofyn pam?
Mae’r Gorfforaeth yn ymhonni – ymfalchïo yn wir – mewn bod yn ddiduedd ac yn mynnu felly trafod Newid Hinsawdd fel mater o farn yn hytrach nag o ffaith. Mae’n cyfiawnhau hyn trwy ddadlau’r angen am “gydbwysedd”. Ond sut ellir cyflwyno pwnc yn gytbwys heb wrthbwynt o sylwedd?
Mae lladmeryddion argyfwng newid hinsawdd yn unfryd unfarn. Gwyddonwyr ydynt. Anwybodusion yw’r lleill. Dyna sy’n dychryn dyn am ddatganiad un cyn-weinidog cibddall (sydd yn amlwg yn cael trin ei ddannedd gan ddeintydd amatur!) – ‘We’ve had enough of experts’. Beth bynnag yr hoffem feddwl, nid yw “pawb a’i farn” yn golygu bod pob barn yn gyfwerth.
Does dim dadl ffeithiol y gellir cynnig fel gwrthbwynt i gyrraedd y dywededig “balans” ar y BBC. Dim ond rhagfarnau gwadwyr yr asgell dde a gynigir, rhai sydd â mwy na hanner llygad ar eu dosbarth, eu grym a’u pocedi. Mae’r BBC yn chwarae i’w dwylo wrth seilio eu syniad o falans y tu allan i fyd tystiolaeth ffeithiol.
Os yw “cydbwysedd” mor sanctaidd wrth gyflwyno Newid Hinsawdd pam nad yw’r BBC yn chwilio am yr un cydbwysedd wrth gyflwyno esblygiad, triniaethau meddygol, y cysylltiad rhwng ysmygu a chancr, er bod hen ddigon o rai â chwilen yn eu pennau yn barod i amddiffyn eu rhagfarnau yn erbyn yr achosion hyn hefyd.
Does neb yn disgwyl cael credinydd mewn Daear fflat pob tro mae yna stori am y gofod! Pryd yn union, annwyl BBC, y mae mater o ddadl yn dod yn fater o ffaith? Fel y dywedodd James Hansen yr hinsoddegydd o Brifysgol Columbia (The Storms of my Grandchildren, 2009), “In order for democracy to function well, the public needs to be honestly informed....”.
Rydych yn gadael eich cynulleidfa i lawr yn ddifrifol, a gofynnaf eto, pam?
* http://www.politico.com/story/2016/05/donald-trump-climate-change-golf-course-223436