Colofnwyr
Mater o egwyddor y tegell tyllog
DWY flynedd a hanner yn ôl, mi brynais degell yn yr archfarchnad gyferbyn â’r tŷ hwn. Yr oedd garanti o dair blynedd arno ac, am y pris o £15, yr oedd hynny’n swnio’n dda iawn.
Rhyw fis yn ôl, sylwais fod pwll o ddŵr o dan y tegell bob tro yr oeddwn yn ei ferwi. Wrth archwilio ymhellach, gwelais fod dŵr yn colli o’r gwaelod a’r llif yn cynyddu.
O ganlyniad, byddai, o fewn rhyw wythnos arall, y tegell yn rhoi mwy o ddŵr berwedig i’r gegin nag i’m paned, felly dyma chwilio am y garanti.
Yr wyf bob amser yn cadw’r llyfryn gwybodaeth a ddaw gydag unrhyw declyn ac yn rhoi’r dderbynneb fel prawf o ddyddiad y prynu rhag ofn i rywbeth fynd o’i le.
Wedi cael gafael ar y papur perthnasol a’r prawf pryniant, dyma groesi i’r archfarchnad gyda’r tegell o dan fy nghesail.
Eglurais y broblem ond dyma’r sawl a ddeliai â’r mater yn dweud fod cyfrifoldeb y siop am y tegell wedi dod i ben ar ôl 60 diwrnod a bod hynny’n cael ei nodi ar y prawf pryniant.
Felly, byddai’n rhaid cysylltu â’r cwmni oedd wedi gwneud y tegell.
Croesais y ffordd yn ôl i’r tŷ a chodais y ffôn i roi galwad i’r cwmni. Cefais ateb ar y pen arall yn dweud fod y cwmni wedi symud ac y dylwn ffonio’r rhif newydd.
Hynny a wnes. Cefais ateb ac eglurais fy mhroblem. Yr ateb a gefais oedd bod dwy flynedd a hanner yn fargen go lew i’r tegell gan mai pymtheg punt namyn ceiniog oedd ei bris gwreiddiol.
Atebais gan ddweud mai tair blynedd oedd hyd y garanti ac felly nid oedd y tegell wedi parhau i weithio’n iawn am y cyfnod penodedig.
Efallai eich bod yn meddwl mai peth pitw iawn yw hyn ac y dylwn dderbyn i ddwy flynedd a hanner fod yn gyfnod boddhaol. Ond na, mater o egwyddor yw hyn i mi.
Gyda’r sôn am yr holl gwmnïoedd cyfalafol yn osgoi cyfrifoldebau megis talu trethi, mae unrhyw osgoi cyfrifoldeb yn fater na ddylid ei dderbyn.
Wedi’r cyfan, os yw’r cwmni hwn yn gwerthu’r tegell drwy roi tair blynedd o garanti i’w fywyd, yna hynny ddylai fod.
Diawch, y cam nesaf fydd cael teclyn sydd â blwyddyn o garanti yn peidio gweithio yn iawn ar ôl 10 mis – ond, chwarae teg y mae wedi gwneud yn dda i barhau am yr amser a wnaeth.
Eglurodd y sawl a’m hatebodd ar y ffôn y byddai’n rhaid i mi yrru’r tegell yn ôl i’r cwmni ac y byddent yn gyrru papur gyda’r cyfeiriad imi ymhen ychydig ddyddiau ac y byddent yn ad-dalu’r costau post i mi.
Y broblem nesaf oedd lapio’r tecell mewn parsel ac, i’r perwyl hwnnw, defnyddiais hen focs Corn Fflecs a’i bacio’n gadarn. Es â’r bocs i’r Swyddfa Post a thalu pedair punt namyn pum ceiniog am ei bostio ond gyda’r sicrwydd y byddwn yn gallu gweld pa bryd y byddai’n cyrraedd y cwmni.
Nid yn annisgwyl, efallai, o’m profiad gyda chwmnïau eraill yn y gorffennol, chefais ddim ymateb o du’r cwmni hwn.
Yr wyf wedi gyrru e-bost atynt i’w hatgoffa, ond ddaeth dim ateb hyd yn hyn. Ond dydw i ddim yn synnu.
Cofiwch, mae angen tri i archwilio’r tegell – dau i’w godi i’r awyr ac un i edrych oddi tano i weld o ba le mae’r dŵr yn gollwng!
Mae pethau wedi newid yn arw ers cyfnod fy nhad.
Mae gen i lun a dynnwyd tua diwedd y saithdegau o fy nhad yn dal tegell. Hynodrwydd y tegell hwnnw oedd iddo ddathlu ei ben-blwydd yn chwarter canrif oed heb beidio â gweithio yn ystod y cyfnod hwnnw.
Onid yw’r sefyllfa wedi newid yn arw ers hynny.
Erbyn hyn, nid yw teclynnau’n cael eu cynllunio i barhau mwy na rhyw flwyddyn neu ddwy, felly peth gwirion yw rhoi garanti o dair blynedd ar rywbeth sydd dim yn debygol o barhau i weithio am y cyfnod hwnnw.
Petai’r garanti yn ddwy flynedd, yna byddwn wedi bod yn fodlon taflu’r tegell tyllog a phrynu un newydd.
Ond dyna fo, yr egwyddor sy’n bwysig a rhaid aros hyd nes i’r cwmni ganfod amser i wneud penderfyniad tyngedfennol ynglŷn â’m tegell!
O’r diwedd, atebwyd fy e-bost. Cynghorwyd fi i ffonio’r cwmni i gael clywed y diweddaraf. Atebais yr e-bost drwy ddweud wrthynt am e-bostio’r ateb gan nad oes gennyf amser i alw na mynd i fwy o gostau. Yn y diwedd, ffonio a fu raid a chefais ar ddeall y byddai siec yn y post o fewn y mis nesaf. Cawn weld!