Colofnwyr

RSS Icon
16 Awst 2016

Mae cariadon yn marw ond bydd cariad fyw am byth

O DDYDDIAU Plato ac Aristotlys bu meddylwyr wedi sôn am ddamcaniaeth cydgysylltiad syniadau.

Hynny yw, y duedd i un atgof neu syniad ddeffro atgof neu syniad arall fel ton yn dilyn ton.

Mae hyn yn hynod o wir yn fy achos i. Mae’n digwydd byth a hefyd i mi, atgof yn esgor ar atgof cysylltiol gan greu rhyw gadwyn o atgofion yn union fel y gwna nodyn ar gitâr gydio mewn nodyn arall ac un arall i greu alaw.

Yn ddiweddar canfûm stori drawiadol iawn yn y Daily Mail am fywyd a marwolaeth gwraig na chlywswn unrhyw beth amdani cynt.

Ac o’i darllen dyma gofio ar unwaith un o gerddi cynnar Alun Llywelyn Williams, sef Cefn Cwm Bychan.

Ynddi mae’n sôn am ddarfodedigaeth pethe bydol ond parhad yr ysbrydol.
Mae’n gorffen:

Dywedir: derfydd y rhain oll - Ni wn -  
Odid nad erys o’r cyd-yfed hir,
Y drachtio dwfn o’r pêr, hiraethus win,
O’r profi ar dy wefus hedd difraw,
Rhyw atgof egwan o’n munudau ni
I nofio’r awel genedlaethau a ddaw.

Credaf yn gryf fod digwyddiadau da pobol yn parhau’n hir wedi eu tranc corfforol.
Dewch yma i Ystrad Fflur ac fe deimlwch y sancteiddrwydd a grëwyd gynt gan y mynachod.

Ysywaeth mae’r gwrthwyneb hefyd yn wir. Ewch i Auschwitz, ac mae’r awyrgylch anfad yno, medden nhw, yn dal i gyniwair.

Cyfeirio wnaeth yr erthygl papur newydd a daniodd fy nychymyg at farwolaeth Marianne Strang Ihlen o Oslo yn 81 oed.

Pwy oedd Marianne? Wel, cariad y canwr a’r cyfansoddwr Leonard Cohen. Hi wnaeth ysbrydoli a sbarduno caneuon fel Bird on a Wire a So Long, Marianne.

Roedd Marianne a Cohen yr un oedran. Treuliodd y ddau flynyddoedd hapus ar ynys Roegaidd Hydra.

Yn wir, a minnau’n treulio gwyliau yn y wlad fe wnes i ymweld â Hydra chwarter canrif yn ôl yn y gobaith ofer o weld y dyn ei hun.   

Cyn i Marianne ddisgyn i’w hun olaf cyrhaeddodd Cohen â llythyr iddi ac fe’i darllenodd iddi wrth erchwyn ei gwely.

Dyma’i chi gyfieithiad:

‘Well, Marianne, fe ddaeth yr amser pan ydym ein dau mor hen fel bod ein cyrff yn datgymalu, a chredaf y gwnaf dy ddilyn yn fuan iawn. Rwyf am i ti wybod fy mod i mor agos atat fel y medret, petai ti’n estyn dy law, gyffwrdd a’m  llaw i. Ac fe wyddost i mi dy garu di erioed am dy geinder, am dy ddoethineb. Ond does dim angen i mi ymhelaethu gan y gwyddost hyn oll. Ond nawr rwyf ond am ddymuno i ti siwrnai dda. Ffarwel, hen ffrind. Cariad diddiwedd. Fe’th welaf di lawr y lôn.’

Cyn i Marianne huno am y tro olaf fe wnaeth Cohen hymian geriau Bird on a Wire iddi a chanodd So Long, Marianne. Ydych chi’n cofio rhai o’r geiriau?

We met when we were almost young 
deep in the green lilac park; 
You held on to me like I was a crucifix, 
as we went kneeling through the dark.  

Your letters they all say that you’re beside me now. 
Then why do I feel alone? 
I’m standing on a ledge and your fine spider web 
is fastening my ankle to a stone.

Now so long, Marianne, it’s time that we began 
to laugh and cry and cry and laugh about it all again.

Ond ffarwel dros dro oedd hyn mewn gwirionedd.

Fe wyddai Cohen y gwnaiff  eu cariad ‘nofio’r awel genedlaethau a ddaw.’

Gwnant, fe wna cariadon farw ond bydd cariad fyw am byth.

I ddyfynnu cyfieithiad godidog Jim Parcnest o bregeth Eli Jenkins,
Cawn ddweud nos da heb ddweud ffarwel.

Rhannu |