Colofnwyr
Posibiliadau diddiwedd y Gweplyfr
FE ddaeth y gwefannau cymdeithasol megis ‘Gweplyfr’ a ‘Trydar’ bellach yn ffordd o fyw yn ein gwlad.
Waeth heb a cheisio anwybyddu hynny, neu droi trwyn ar y peth fel y gwna rhai pobl, gan ystyried yr holl beth yn rhywbeth ‘isel a gwael’ a berthyn i haenaf isaf cymdeithas.
Fel un sydd ar ‘Gweplyfr’ ond nid yn ‘Trydar’, fe welaf o ba le y cafwyd yr argraff hynny.
Mae rhai pobl yn ei ddefnyddio fel rhywle i gynnal sgwrs bob dydd ac i ddweud pethau fel ‘dwi newydd godi’ neu ‘dwi wedi cael bath’ fel petai hynny o bwys mawr i weddill y boblogaeth.
Rhaid cyfaddef fod perygl yn y cyfryngau hyn a hynny oherwydd bod mudiadau asgell dde eithafol fel ‘Britain First’ ac eraill yn defnyddio’r cyfryngau hyn i bedlera eu rhagfarnau celwyddog ac i ddylanwadu ar eraill i gredu’r un rhagfarnau.
Ond o’u defnyddio’n gall, maent yn gallu bod yn adnoddau gwerthfawr.
Un tueddiad diweddar yw creu safleoedd ‘Gweplyfr’ ar gyfer hen luniau a dogfennau ardaloedd gwahanol.
Yr wyf yn edrych weithiau ar safleoedd hen luniau Porthmadog, Penrhyndeudraeth ac eraill a’u gweld, ar y cyfan, yn ddiddorol, gydag amryw yn cyfrannu lluniau neu’n rhestru enwau pobl sydd i’w gweld yn y lluniau.
Tueddiad arall yw gosod papurau bro ar safle ‘Gweplyfr’ fel y gellir rhoi gwybodaeth, yn lluniau a straeon, rhwng dyddiadau cyhoeddi’r rhifynnau.
Dyma adrodd hanes sy’n profi pa mor ddefnyddiol y gall ‘Gweplyfr’ fod o’i ddefnyddio’n iawn.
Y mae Olwen, y wraig, yn ddefnyddiwr cyson o’r cyfrwng. Un diwrnod, dyma hi’n rhoi llun o’i thaid arno. Wel, a dweud y gwir, sgets a dynnwyd mewn pensel gan ei mam oedd o, a chan fod gan ei mam y ddawn o allu tynnu llun y wyneb yn union, byddai’n ddiddorol gweld sut ymateb a fyddai’n dilyn.
Wel i chi, roedd yr ymateb y tu hwnt i bob disgwyl.
Daeth sylwadau gan aelodau o’r teulu o bob cwr ac yn fuan, dechreuwyd rhoi lluniau gan wahanol bobl .
Cymaint fu’r ymateb fel yr aed ati i sefydlu safle Teulu’r Jonesiaaid y Felin, Pantperthog er mwyn cynnal y drafodaeth.
Yn anffodus, bu’n rhaid ychwanegu’r Saesneg gan fod cymaint o aelodau’r teulu erbyn hyn wedi colli’r Gymraeg.
Problem arall, wrth gwrs, oedd fod llawer o’r rhai hyn heb allu defnyddio cyfrifiadur ac felly ddim ar ‘Gweplyfr’ beth bynnag.
Erbyn hyn, mae bron i hanner cant o aelodau’r teulu yn perthyn i’r grŵp ac fe gyfrannwyd llawer iawn o luniau ac o wybodaeth amdanynt i’r safle.
Yr hyn sy’n werthfawr yw unwaith yr ymddangosodd llun arbennig, yna cafwyd sawl ymateb yn cynnig enwau’r rhai yn y llun.
Cymaint a fu’r brwdfrydedd nes i sawl aelod o’r teulu dreulio amser yn chwilota mewn atig neu gwpwrdd am albymau neu focsys yn llawn o hen luniau i’w rhoi ar y safle er mwyn denu ymateb.
Wrth gwrs, bu dipyn o drafod ynghylch pwy sydd yn y lluniau ond mae hynny i’w ddisgwyl, gan fod llawer o’r hen luniau yn mynd yn ôl hanner can mlynedd a mwy.
Mae’n siŵr y daw’r cwbl i ben ond fe fydd yr hyn a ganfuwyd ar gael i aelodau ifanc y teulu ar gyfer y dyfodol.
Mae’r posibiliadau’n ddiddiwedd, gyda hanes teulu, hanes tref neu bentref, mudiad neu hyd yn oed griw ffrindiau yn enghreifftiau.
Yn y byd sydd ohoni, gyda chymdeithasau clos y ganrif ddiwethaf bellach yn dadfeilio a’r aelodau’n byw dros y byd, mae hyn yn un ffordd o gadw diddordeb a chadw pawb mewn cysylltiad.