Colofnwyr

RSS Icon
10 Awst 2016
Gan LYN EBENEZER

Delweddau eiconig sydd yn aros yn y cof am byth

MAE ambell ddelwedd ffotograffig a wnaiff oedi yn y cof am byth.

Dyna’i chi’r llun o’r dyn cyntaf erioed i sefyll ar y lleuad yn 1969.

Mab bychan yr Arlywydd John F. Kennedy wedyn yn saliwtio arch ei dad yn 1960. 

Dyna’i chi’r gŵr ifanc unig a heriodd y tanciau ar Sgwâr Tiananamen yn 1989.

A’r ferch fach naw oed Phan Thi Kim Phuc yn ffoi rhag cwmwl Napalm yn Fietnam yn 1972. 

At y rhain ychwanegwch y llun o’r Esgob Edward Daly yn chwifio hances boced waedlyd yng nghanol terfysg ‘Bloody Sunday’ yn Derry yn 1972.

Bu farw’r Esgob Daly yn 82 oed fwrw’r Sul yn dilyn damwain.

Daeth i amlygrwydd byd-eang ymron 45 mlynedd yn ôl.

Ar y Sul Gwaedlyd ar Ionawr 30ain 1972 taniodd criw o’r Paras at ymgyrchwyr mewn gorymdaith hawliau sifil gan ladd 13 ac anafu 14.  

Bu farw un o’r clwyfedigion yn ddiweddarach.

Ymhlith y lladdedigion roedd John ‘Jackie’ Duddy, 17 oed.

Wedi’i glwyfo’n ddrwg, ceisiwyd cludo’r llanc drwy ganol y brotest i ddiogelwch. Gan anwybyddu’r perygl safodd yr Esgob rhwng y gynnau a’r protestwyr yn chwifio’i hances.

Bychanu ei wrhydri ei hun wnaeth yr Esgob yn ddiweddarach.

Yn syml, meddai, ni wnaeth ddim byd mwy nag ymateb yn heddychlon wrth geisio achub bywyd llanc ifanc nad oedd yn fygythiad o unrhyw fath i neb.

Dim ond 39 oed oedd yr Esgob o Fermanagh ar y pryd, yn gwasanaethu fel Curad yn Eglwys Sant Eugene yn Derry. 

Ymunodd â’r orymdaith a phan saethwyd y llanc, ceisiodd gysgodi Duddy rhag cael ei daro gan fwy o fwledi.

O weld nad oedd obaith i Duddy fe’i bendithiodd gan weinyddu iddo’r eneiniad olaf. 

Gwelir y Sul Gwaedlyd fel y catalydd i’r trafferthion a barhaodd am dros 30 mlynedd ac a arweiniodd at 3,000 o farwolaethau.

Cychwynnodd y gyflafan fel gorymdaith hawliau sifil. Mae’r goblygiadau’n parhau hyd heddiw.

Ymhlith y rhai a saethwyd ni chanfuwyd cymaint ag un oedd yn arfog.

Cynhaliwyd dau ymchwiliad i’r digwyddiad y cyfeirir ato fel Cyflafan y Bogside.

Disgrifiwyd ymddygiad y Paras fel gweithred a ymylai ar ddihidrwydd.

Dyfarniad Ymchwiliad Saville, a gymerodd ddeuddeg mlynedd i’w lunio, oedd i’r lladd fod yn ddi-gyfiawnhad ac yn anghyfiawnadwy. 

Daethpwyd i’r canlyniad nad oedd neb a laddwyd neu a glwyfwyd yn arfog.

Doedd neb, meddid, yn fygythiad a doedd neb chwaith yn cario bomiau.

Dywedwyd hefyd i rai o’r Paras a fu’n rhan o’r gyflafan ffugio adroddiadau, a hynny’n fwriadol.

Galwyd am ymchwiliad i’r hyn a ddisgrifiwyd fel ‘llofruddiaethau’.

Fel sy’n digwydd bob amser yn dilyn digwyddiad o’r fath cafwyd adwaith ffyrnig.

Heidiodd pobl ifainc i rengoedd yr IRA Darpariaethol.

Am yr Esgob Daly, parhaodd i bregethu heddwch gan gondemnio trais ar y ddwy ochr.

Credai fod y Trafferthion yn ddi-fudd ac yn foesol anghyfiawn.

Yn wir, roedd y fath safiad agored yn golygu cryn ddewrder ag yntau yng nghanol y berw.

Roedd ceryddu’r IRA yn Derry yn gofyn am ddewrder mwy nag a olygai oblygiadau condemnio’r Paras.

Talwyd teyrnged i’r Esgob gan ei ddarpar-olynydd, Donal McKeown.

Dywedodd i’w ragflaenydd wasanaethu heb unrhyw bryder am ei ddiogelwch ei hun gydol blynyddoedd y Trafferthion gan seilio’i weinidogaeth ar ei brofiadau o fod yn dyst i drais ac effaith y trais hwnnw arno ef ac ar y gymuned leol. 

Ond yr hyn a erys yn y cof yw’r lluniau du a gwyn o’r Esgob yn hebrwng corff Jackie

Duddy gan chwifio hances boced a fu’n wyn ond a oedd wedi ei staenio â gwaed y llanc.  

Wrth gofio’r Esgob Daly ni ddylem anghofio chwaith ddewrder ffotograffwyr rhyfel fel Donald McCullin a’r Cymro Phillip Jones Griffiths. 

Dyma bobl sydd yn peryglu eu hunain ym merw rhyfel er mwyn darparu i ni’r gwir am erchylltra rhyfeloedd.

Yn  wahanol i’r lluniau, dydi rhyfel ddim yn fater o ddu a gwyn.

Mae yna gochni hefyd.

Rhannu |