Colofnwyr
Cerdd gwbl gignoeth yn lleisio arswyd Aber-fan
BYTHEFNOS yn ôl cyfeiriais at natur hedegog amser. Ac yn awr dyma reswm arall dros sôn am hynny.
Wrth fy mhenelin mae’r gyfrol Dagrau Tost, sef blodeugerdd o gerddi Aber-fan.
Digwyddodd y drychineb hanner canrif i fis Hydref eleni. Mae’n teimlo fel ddoe.
Yn y rhagair, cyfeiria’r golygyddion, Christine James ac E. Wyn James at y ffaith fod pawb yn cofio lle’r oedden nhw pan lofruddiwyd yr Arlywydd Kennedy. Felly hefyd yn achos trychineb Aberfan.
Gwir. Medraf gofio’n glir ble roeddwn i. Cerdded oeddwn i lawr ar hyd Heol y Wig yn Aberystwyth ar fy ffordd i’m gwaith fel llyfrgellydd cynorthwyol yn y Llyfrgell Gyffredinol yn yr Hen Goleg.
Yn cyd-gerdded â mi roedd Gwenallt. Doedd dim byd yn rhyfedd yn hynny o beth. Byddwn yn cyd-gerdded ag ef yn aml ar ein ffordd i’r adeilad mawr ar y prom.
Gelwais yn shop bapurau Galloways i brynu’r Western Mail, Gwenallt gyda mi. Ac yno y datgelodd y gŵr y tu ôl i’r cownter y newyddion brawychus.
O blith y cerddi yn y flodeugerdd ysgytwol hon, y gerdd sydd fwyaf arwyddocaol i mi yw cerdd Gwenallt, ‘Trychineb Aber-fan’.
Wythnosau, os nad fisoedd wedi’r drychineb roeddwn i yn nhafarn yr Hydd Gwyn. Dyna’r man galw bryd hynny.
Byddwn yng nghwmni cyfeillion fel Bois y Glo, sef y brodyr Griffiths, Trefor, Huwi ac Alun. Nos Sadwrn oedd hi, tua’r deg o’r gloch. A phwy a alwodd ond Gwenallt. Doedd dim byd yn rhyfedd yn hynny chwaith. Galwai’n weddol reolaidd yno yn hwyr ar nos Sadwrn am lased o naill ai creme de menthe neu wisgi.
Ar y noson arbennig hon roedd hi’n amlwg fod rhywbeth yn ei boeni. Eisteddodd gyferbyn â mi a thynnodd allan fwndel o bapurau. Dyma fy nghyfarch. Ni wnâi fyth fy nghyfarch wrth fy enw cyntaf. Na, ‘Mr Ebenezer’ fyddwn i bob cynnig. Neu’n hytrach ‘Mistar Ebenesser’.
Bob tro y galwai yn y llyfrgell, ataf fi y deuai. Digwyddai hynny’n ddyddiol. Beth bynnag, trodd yn syth at Aber-fan.
Dyma fe’n cyfeirio at stori a glywsai. A oeddwn i, gofynnodd, wedi clywed y stori honno? Craidd y stori oedd bod rhai o’r plant wedi eu hanffurfio gymaint fel na fedrai eu rhieni eu hadnabod.
Ond mor awyddus oedd rhai ohonynt i gladdu cyrff eu plant fel iddynt hawlio unrhyw rai oedd yn debyg. Doedd gwyrthiau DNA ddim wedi eu perffeithio bryd hynny, wrth gwrs.
Doeddwn i ddim wedi clywed y stori. Ond fe aeth Gwenallt ymlaen i ddarllen darnau o’r gerdd wrthyf. Mae’n siŵr ei fod wedi newid cryn dipyn arni erbyn iddi ymddangos yn Taliesin ddiwedd 1967.
Bu newidiadau eraill ar gyfer y fersiwn yn Y Coed, a gyhoeddwyd yn 1969 ar ôl ei farw.
Teimlaf yn freintiedig o fod wedi adnabod Gwenallt. Yn wir, daethom yn gyfeillion.
Gwahoddodd fi i’w gartref. Ac fel y nodais yn Cofion Cynnes, yn dilyn sgwrs ag ef cyn Eisteddfod yr Urdd ym Mrynaman yn 1963 cefais ganddo gopi o’i gerdd ‘Eglwys y Pater Noster.’
Roedd ein tîm siarad cyhoeddus ni, Aelwyd Ystrad Fflur wedi ein dewis ar gyfer rownd derfynol y gystadleuaeth siarad cyhoeddus. Testun y drafodaeth oedd ‘Yr Iaith Gymraeg’.
Roeddwn i wedi sôn am hyn wrth Gwenallt gan ofyn iddo a fedrai awgrymu unrhyw ddyfyniadau perthnasol. Trannoeth cyrhaeddodd gyda chopi o’i gerdd yn ei lawysgrifen ei hun. Yn aml melltithiaf fy hun am imi golli’r copi gwreiddiol. Ond roeddwn i wedi gwneud copi ohoni yn fy llaw fy hunan.
Fel y nodais yn yr ysgrif bu ambell newid ar gyfer y fersiwn a ymddangosodd wedyn yn Y Coed.
Yr hyn sy’n drawiadol yn y gerdd ‘Trychineb Aber-fan’ i mi yw ei natur glinigol. Mae hi’n gerdd gwbl gignoeth. Dim sentiment. Cyfeiriadau moel, datganiadau o ffeithiau.
Ac mae hynny i mi yn ei gwneud hi’n llawer mwy arswydus nag y byddai o’i gor-addurno. Yn ei noethni y mae ei chryfder.
Byddwn yn taro ar Gwenallt bron yn ddyddiol. Yn y llyfrgell fel arfer.
Welais i neb erioed oedd mor eang ei ddarllen. Cofiaf ei gynorthwyo unwaith wrth iddo chwilio am lyfrau ar seicoleg breuddwydion.
Do, dihunodd y gyfrol hon fi, petai raid, i ddiflaniad amser a diflaniad cenhedlaeth gyfan o blant mewn cwm yn y de glofaol.
Dihunodd fi hefyd i sylweddoli fy mraint o gael adnabod ‘y bardd bach uwch beirdd y byd’.