Colofnwyr
Cariad at yr Eisteddfod wedi oeri dros y blynyddoedd
‘Syrpraisi how fflai taim!’ Ebychiad gan Ifas y Tryc yw hwnna, creadigaeth fawr yr annwyl Wil Sam. Ceisio cyfleu oedd Ifas mor gyflym yr ehed amser. A dyna ddaeth i’r meddwl wrth sylweddoli y bydd hanner canrif wedi mynd heibio ddechrau Awst ers i Dic Jones ennill Cadair Aberafan am un o’r awdlau mwyaf mewn hanes.
Wrth edrych yn ôl ar fyrdd o Eisteddfodau Cenedlaethol rhaid i mi osod Prifwyl Aberafan ymhlith y goreuon o ran y ‘craic’. Meddyliwch, dim ond 26 oed oeddwn i. Roedd bywyd yn gyffrous. Cyhoeddwyd clasur Pontsiân ‘Hyfryd Iawn’, cyfrol gyntaf Y Lolfa. Cyhoeddwyd ail rifyn Lol ac ynddo ymddangosodd, am y tro cyntaf, arfbais Undeb y Tancwyr. Fy nghynlyn i, cofiwch! Iŵyrs trwli!
Mae amryw o ddigwyddiadau’n sefyll allan. Mewn tafarn ym Mhorthcawl wnes i gyfarfod, am y tro cyntaf, â Meredydd Evans. Yn yr un dafarn collais beint o gwrw dros actores nid anenwog. Ac yn nhafarn y Deuddeg Marchog y cafwyd y cyfarfyddiad mawr rhwng Cynan yr Archdderwydd a Phontsiân.
Roedd cysylltiad agos rhwng y digwyddiad a Chadeirio Dic. Cadwyd ni yn y Deuddeg Marchog gan law trwm felly collasom y Cadeirio. Yn waeth, caeodd y bar. Ac yn y lobi y cyfarfu Eirwyn a Chynan, y naill yn ei gap gwyn tra’r llall yn ei regalia. O weld yr Archdderwydd penliniodd Eirwyn o’i flaen, gafaelodd o gwmpas ei goesau a llafarganodd,
‘Tyred yn ôl i erwau’r wlad! Blydi marfylys, Cynan!’
Wna’i ddim manylu yma. Clywsoch rywfaint o’r stori o’r blaen. Wna’i ddim ond eich atgoffa i Cynan, a oedd yn westai yno, ail-agor y bar ar gyfer y tri ohonom. A do, fe smociodd Eirwyn holl ffags Embassy Coch y gŵr mawr cyn dringo i ben cadair i adrodd detholiad o Fab y Bwthyn. A’r ffarwelio bythgofiadwy.
‘Diawl, Cynan,’ meddai Eirwyn, ‘gan ein bod ni’n nabod ein gilydd mor dda erbyn hyn, allai’ch galw chi’n Cyn?’
A’r bardd mawr yn chwerthin o waelod ei fol.
Do, bu Steddfod Aberafan yn steddfod fawr. Mor wahanol yw hanes y dref bellach. Roedd gan griw ohonom babell yn wynebu’r gwaith dur er mai prin iawn fu’r amser a dreuliasom ynddi. Ond cofiaf yn dda un noson pan wnaeth Pontsiân a Wil Sam gyfarfod am y tro cyntaf. Bu’r ddau’n parablu am awr neu ddwy ond diolch i’w gwahanol dafodieithoedd, prin iddynt fedru deall ei gilydd.
Ie, a Dic yn ennill y Gadair. Haerwyd gan bawb mai awdl Y Cynhaeaf oedd yr awdl fwyaf mewn hanes. Roedd hynny’n wir ar y pryd. Yn bersonol, er nad ydw i’n feirniad, credaf fod awdl ddi-Gadair Aberteifi ddegawd yn ddiweddarach yn rhagori. Ond, chwedl Eirwyn, awn ymlaen. Yn goron (gair addas) ar y cyfan enillwyd y Goron gan Dafydd Jones, Ffair Rhos, cymydog a chyfaill.
Am flynyddoedd, gan gychwyn yng Nghaernarfon yn 1958, y Brifwyl fu uchafbwynt fy mlwyddyn. Wrth i’r gwanwynau ddirwyn i ben, edrychwn ymlaen at yr ŵyl. Fe wnawn gyfrif y dyddiau. Yna, ar nos Sadwrn olaf yr ŵyl deuai’r dadrithiad mawr. Teimlwn ar goll. Yn wir, torrwn fy nghalon o feddwl y byddai’n rhaid disgwyl blwyddyn namyn wythnos tan y Brifwyl nesaf. Am wythnosau byddwn yn isel fy ysbryd tan gwmwl du.
Oerodd y cariad dros y blynyddoedd. Nid bai’r Eisteddfod oedd hynny. Na, colli’r hen gwmniwyr oedd yr hoelion yn yr arch. Caradog Prichard, y byddwn yn eistedd wrth ei ysgwydd flwyddyn ar ôl blwyddyn ym Mhabell y Wasg. Peter Goginan, yr arch eisteddfodwr. Iolo Wigley a Huw Ceredig, y ddau gyntaf i gyrraedd tref yr ŵyl bob blwyddyn er mwyn canfod ble byddai’r hwyl gorau. Pontsiân, wrth gwrs, a Dennis, ei gyfaill ffyddlon. A dyma ni, hanner canrif ers buddugoliaeth fawr Dic, ac yntau wedi’n gadael hefyd.
Maddeuwch i mi am fod yn felancolaidd. Gall atgofion fod yn hen bethe digon prudd. Ond heb gof, ble bydden ni? Ie, chwedl Ifas, ‘Syrpraisi how fflai taim’. Wyddoch chi, gyda llaw, beth yw hynny mewn Lladin? ‘Tempus fugit’. Dim ond meddwl y bysech chi am wybod.