Colofnwyr
Adroddiad Chilcot: beth nesaf?
HEDDIW cefais gyfle i ddarllen Adroddiad Chilcot ar ryfel Irac yn Ystafelloedd y Cabinet am ryw deirawr cyn iddo gael ei gyhoeddi (gan fy mod yn arwain ein grŵp yn San Steffan).
Mae’r adroddiad yn ddwy filiwn o eiriau o hyd ac yn yr amser ar gael gallwn ond chwipio trwy’r crynodeb gweithredol o 145 o dudalennau cyn mynd am y Siambr ar gyfer cwestiynau’r Prif Weinidog a datganiad Mr Cameron wedyn ar yr adroddiad.
Ond roedd pob arweinydd yn cael dod a dau arall efo fo. Felly cafodd ein plaid seneddol gyfan o dri weld y peth, gyda Liz Saville Roberts yn tyrchu ar ôl y manylder, Jonathan Edwards yn chwilio am negeseuon ar gyfer y wasg, a minnau yn darllen y brif ddogfen er llunio ymateb at y prynhawn.
Ac er bod amser yn brin, cawsom hyd i nifer o faterion allweddol i mi godi gyda’r Prif Weinidog.
Gellid maddau i’r rhai a fu’n dilyn hynt yr adroddiad, a’r rhyfel o’i flaen, iddynt deimlo rhyw elfen o siom cychwynnol o’i weld.
Does dim datganiad clir fod Blair wedi camarwain y Tŷ, na chondemniad digllon o’i ymddygiad cyfan.
Ond, os rhywbeth, mae iaith gofalus gwrthrychol Chilcot yn fwy damniol na rhethreg wyllt.
Roedd Plaid Cymru yn flaenllaw yn yr ymgyrch yn erbyn y rhyfel, y blaid gyntaf i ddatgan yn erbyn, gydag Elfyn Llwyd, Adam Price a Simon Thomas (a minnau) yn gwneud gwaith allweddol.
Roeddem hefyd, efo’r SNP, yn arwain yr ymgyrch i uchelgyhuddo Mr Blair wedi’r gyflafan.
Arweiniodd yr ymgyrch honno yn y diwedd at ddadl seneddol a phleidlais.
Ac er mwyafrif mawr Mr Blair ar y pryd, cael a chael oedd hi arno, gyda’i fwyafrif yn y diwedd i lawr i 25.
…………..........................................................
O ran heddiw, dyma’r hyn a ddywedais.
‘Barn yr Ymchwiliad yn Y Crynodeb Gweithredol ynghylch digwyddiadau Mawrth 2003, pan dorrodd y rhyfel, ydy,
‘Nad oedd pob dewis diplomyddol bryd hynny wedi darfod. Nid dewis olaf anorfod felly oedd gweithredu milwrol.’
(pwynt 20, tudalen 6,).
Ond er hynny, ac er y diffyg tystiolaeth o arfau torfol yn nwylo’r Iraciaid, ac er diffygion posibl y cyngor a gafodd y llywodraeth gan y Pwyllgor Gwybodaeth Gudd,
‘O dan arweiniad Mr Blair dewisodd Llywodraeth Prydain gefnogi gweithredu milwrol’.
(pwynt 22, tudalen 6).
Barn Llywodraeth Prydain oedd ei bod,
‘... yn iawn neu yn angenrheidiol iddi ildio i farn ein cynghreiriad agos a’r partner pwysicach, yr Unol Daleithiau’
(tudalen 51. pwynt 364. Y Crynodeb Gweithredol)
Felly o ystyried hyn, o ystyried hefyd (i Brydain) danseilio’r Cenhedloedd Unedig, a’r canlyniadau trychinebus ac erchyll, oni fyddai hi’n anghredadwy pe gallai Mr Blair osgoi rhoi cyfrif am ei weithredoedd.
...................................................................
Arwyddocâd y dyfyniadau uchod ydy, er bod Mr Blair wedi mynd ati i argyhoeddi ASau fod ganddynt hawl dweud ar y mater ac y dylent gytuno gydag o nad oedd dewis ond mynd i ryfel (ar sail yr enwog ‘dodgy dossier’ o ffeithiau wedi eu cribino’r o’r we a sawl ffynhonnell amheus arall), mewn gwirionedd roedd eisoes wedi penderfynu mynd i ryfel.
Yn wir, yn un o’r nodiadau a ddanfonodd Blair at yr Arlywydd Bush lawn wyth mis cyn i Dŷ’r Cyffredin gymeradwyo mynd i ryfel dywed yn blaen, ‘I’ll be with you whatever.’
Felly, beth nesaf?
Roedd rhai o gefnogwyr y rhyfel ar ochr Llafur yn maentumio bod eu hachos yn gyfiawn.
Aeth un cyn belled a dweud eu bod wedi cynnal y Cenhedloedd Unedig, er bod Chilcot yn dweud y gwrthwyneb.
Rŵan bydd rhaid i ni'r uchelgyhuddwyr, hen a newydd, drafod ymysg ein gilydd a gweithredu.
Talwch sylw i’r wasg dydd Sul nesaf.