Colofnwyr
Tair ‘B’ Brexit: beio, babïaeth a brad - Darn barn gan Karen Owen
MAE’N ymddangos ei bod hi’n cymryd refferendwm ym mhob cenhedlaeth i ddod â chenedl y Cymry at ei choed. Neu’r ganran gynyddol lai ohoni sy’n credu ei bod hi’n genedl. Waeth, does yna ddim byd mwy digalon wedi’i ddweud na’i wneud i’r achos cenedlaethol er 1979 na fedr y fôt ddiweddaraf i ddod allan o’r Undeb Ewropeaidd ei roi yn y shêd.
Pleidlais sy’n dangos, ar y gorau, bod rhagfarn a byd olwg y genedl drws nesaf wedi’u hamsugno i eneidiau gweigion ein pleidleiswyr ni. Ar y gwaethaf, mae’n awgrymu fod y genedl yr ochr hon i Glawdd Offa yr un mor hiliol ag ymherodraethwyr yr ochr arall.
A dyna un eironi, mai beio mewnfudwyr fu prif thema’r ymgyrch tros ddod allan o’r Undeb a roddodd i ni, uwchlaw popeth, 70 mlynedd o heddwch ar gyfandir a fu’n llawn o oresgynwyr rhyfelgar a di-ras am ganrifoedd. Beio’r ddelwedd o’r bobl wahanol, y budr eu hwynebau, y di-foes, y di-Saesneg, sy’n meiddio ffoi am eu bywydau rhag effeithiau rhyfel a grëwyd gennym ‘ni’, os nad yn ein henw ni.
Nid oes yr un canlyniad gwerth ei gael wedi dod yn sgil beio neb na dim, ond mae’n rhaid rhannu bai: am na fu neb, mewn gwirionedd, o’n cynrychiolwyr gwleidyddol, oddi ar safiad y Cynghorydd Seimon Glyn ar ddechrau’r ganrif hon, yn siarad allan am fewnfudwyr. Y mewnfudwyr yna sy’n dod yn eu miloedd, sydd heb air o Gymraeg, sy’n dod ac yn llenwi ystafelloedd aros ein meddygfeydd efo’u sgwters anabledd a’u pesychu nicotîn a’u problemau cymdeithasol. Dod o Loegr y mae’r rhain, i newid y ffordd o fyw, i roi pwysau ar ein gwasanaethau, ac i fwrw eu pleidleisiau a gwrthbwyso fôt y Cymry. Ond chawn ni ddim eu beio nhw, oherwydd mae hynny’n eithafol, yn hiliol…
A beth am y rheiny sy’n cwyno, yn hytrach na dathlu, wedi canlyniad Brexit? Yn lle dweud, “Ymlaen â’r ysgariad”, wrth ddod i ddeall yn araf bach eu bod nhw wedi bwrw croes tros bennau dafad fydd byth dros ddim byd mwy na nhw’u hunain, maen nhw’n dweud, “Doeddan ni ddim yn gwybod mai dyma fyddai’n digwydd…” neu “Ddeudodd yna neb wrtha’ i” neu’n waeth byth, “Gawn ni bleidleisio eto?” mae fy amynedd yn prinhau.
Pleidleisio, sut bynnag, tros pwy bynnag, ydi gwneud penderfyniad, a glynu wrtho. Cymryd cyfrifoldeb, a sefyll yn gadarn. Gwneud yn siŵr o’ch ffeithiau cyn cymryd rhan yn y broses sy’n gwneud pob dinesydd yn gyfartal.
Ond does yna ddim byd ynglŷn â’r refferendwm hwn sy’n mynd dan fy nghroen yn fwy na’r drydedd ‘b’ – brad. Gair cryf – rhy gryf – meddech chi, ond brad ydi brad. “Anghofio ydi bradychu,” meddai Saunders Lewis. Mi holais fy hun yn hir cyn yngan y gair.
Ond, mewn difrif calon, be’ arall alwch chi y weithred fwriadol o bleidleisio tros yr hyn a wyddoch a fydd yn gwneud drwg i’ch cyd-wladwyr; yn bygwth eu swyddi a’u hawliau gwaith? Be’ arall alwch chi y penderfyniad a wnaed gan ddau o bob pump o bobol Gwynedd, o bob man; a mwyafrif o bobl y Rhondda; ffermwyr Môn a Dyffryn Clwyd, tros dorri’r llinell fywyd a ddaeth ag arian Amcan 1, a mwy o nawdd Ewropeaidd, pan oedd San Steffan ddim eisiau gwybod. Pan oedd llywodraethau Llafur a Cheidwadol, fel ei gilydd, yn beio “rheolau Ewrop” am benderfyniadau amhoblogaidd, ac yn bwydo’r xenoffobia.
Yn wyneb hyn i gyd – a ‘b’ arall, Boris, sy’n gwneud i mi feddwl am lawer iawn mwy o eiriau’n dechrau gyda’r llythyren honno – mae’n anodd meddwl mai hwrjo Annibyniaeth ydi’r ffordd ymlaen, yn ddemocrataidd nac yn eidiolegol.
Waeth, mae Cymru a Lloegr wedi pleidleisio, fel un, o blaid gwrthod bod yn rhan o endid mwy na nhw’u hunain. Efallai mai gwaith mwyaf gwleidyddion siomedig Cymru rŵan ddylai fod i adennill rheolaeth o’u ‘gwlad’ eu hunain. Yn union fel y llwyddodd yr ochr ‘Leave’ ar Fehefin 23.
Oni lwyddwn ni i ail-ddiffinio beth ydi ‘Cymro’ a’i werthoedd, waeth i ni ddweud fod y ffin bellach yn y môr ger Aberdyfi - sy’n digwydd bod yn etholaeth Neil Hamilton, UKIP.