Colofnwyr

RSS Icon
14 Mehefin 2016

Braw bod yn rhan o argyfwng ar awyren

BU imi wylio sawl ffilm a rhaglen deledu yn sôn am argyfwng mewn awyren, un ai yn codi o broblem gyda’r peiriannau neu gyda naws terfysgol iddo. Peth arall yw bod yn rhan o argyfwng go iawn mewn awyren.

Ar y ffordd yn ôl o Oslo oedd y wraig a minnau a newydd fynd ar fwrdd yr awyren i Fanceinion. Gan ein bod yn deithwyr cyson mewn awyrennau, yr ydym yn gyfarwydd â’r drefn cyn hedfan erbyn hyn. Wedi i bob teithiwr ddod i mewn a chanfod ei sedd, bydd aelod o’r tîm sy’n gyfrifol am yr awyren yn y maes awyr yn dod i mewn ac yn mynd at y swyddogion yn y tu blaen gyda phapur.

Mae’n debyg fod angen i’r peilot, neu un o’r swyddogion eraill arwyddo’r papur i gadarnhau fod pob dim yn iawn. Dwn i ddim os oes rhestr o enwau’r teithwyr ar y papur ai peidio, ond yr hyn a ddaeth yn amlwg y tro hwn oedd fod cryn fynd a dod o’r  tu blaen.

Gan fod cryn oedi wedi digwydd ar ôl yr amser gadael swyddogol, dechreuodd rhai o’r teithwyr anesmwytho, gan gynnwys y wraig. Ceisiai fy holi i weld os oeddwn yn deall yr hyn oedd yn digwydd, ond yr oeddwn innau, hefyd, yn y niwl fel pob un o’r teithwyr eraill. Yr unig beth allwn i’w ddweud oedd o leiaf ein bod yn dal ar y ddaear.

Yna, daeth cyhoeddiad fod yn rhaid i bob un ohonom adael yr awyren a hynny, yn ôl y cyhoeddiad, o ganlyniad i’r hyn a alwyd yn ‘security risk’. Rhaid dweud na fu i’r teithwyr oedi cyn gadael, er i ambell un adael bagiad ar yr awyren yn y gobaith na fyddai’r broses o fynd drwy’r holl drefn archwilio yn cymryd gormod o amser.

Aethom a’n bagiau drwy’r man archwilio, ond dim ond un safle oedd yn cael ei ddefnyddio i wneud archwiliad manwl iawn, felly roedd hi’n broses araf. Yn ystod yr arhosiad, gwelwyd dau ddyn yn cael eu hebrwng o’r fan gan yr heddlu ac fe gafwyd ar ddeall yn ddiweddarach iddynt gael eu harestio.

Aeth y stori o gwmpas fod rhywun wedi clywed dau yn siarad mewn iaith ddieithr (nad oedd yn Norwyeg nag yn Saesneg) a bod y gair bom, wedi codi yn ystod y sgwrs – hwnnw, mae’n debyg oedd yr unig air oedd yn ddealladwy i’r sawl a glywodd y sgwrs.

Mi fu’r wraig a minnau’n ceisio meddwl a fu i ni sôn am fom wrth drafod yr awyren yn Gymraeg! Ond, na, dau ddyn a arestiwyd.

Yr hyn oedd yn creu cryn amheuaeth am stori’r ‘sgwrs’ oedd os i hynny ddigwydd wrth aros i fynd ar yr awyren yn wreiddiol oni fyddai mesurau diogelwch wedi eu cymryd cyn i bawb fynd ar yr awyren?

Ond na, cafwyd oedi pellach gan fod y criw trin bomiau ar y ffordd o’u canolfan tuag awr o daith i ffwrdd o’r maes awyr.

Gan ein bod eisoes wedi bod yn aros am gyfnod go lew, cafwyd talebau gan y cwmni ar gyfer prynu bwyd, ond doeddynt ddim yn mynd yn bell iawn wrth ystyried y prisiau yn Norwy.

Cyn bwyta, dyma daro sgwrs gyda dau o’r cyd-deithwyr, un yn Sais a’r llall yn Norwyad o dras Fwslimaidd. Cyn bwyta, aeth hwnnw ar ei liniau ger y bwrdd i weddïo am y bwyd a bu’n rhaid i mi symud fy nhraed (oedd allan o’m hesgidiau erbyn hyn) rhag ofn i’r arogl sanau fynd yn drech na’r weddi!

Wedi rhyw bum awr a mwy o aros, cafwyd awyren arall i’n cludo yn ôl a gwelwyd fod y dynion trin bomiau a’u cŵn yn dal i archwilio’r awyren gyntaf.

Yn wreiddiol, byddem wedi cyrraedd Manceinion tua wyth o’r gloch ac wedi cyrraedd y tŷ ym Mhorthmadog cyn hanner nos ond oherwydd yr holl oedi, fe aeth hi wedi pump y bore cyn cael cyrraedd yn saff.

Ond, o leiaf yr oeddem wedi cyrraedd yn saff ac mae’n rhaid bod yn ddiolchgar am hynny.

Yn yr oes sydd ohoni, aeth digwyddiadau fel hyn yn bethau gweddol gyffredin ac mae angen bod yn hollol sicr fod pob dim yn iawn cyn i awyren gychwyn ar ei thaith.

Rhannu |