Colofnwyr
Wrth hiraethu am Muhammad Ali, hiraethu ydw i, petawn i’n onest, wrth ‘edrych dros y bryniau pell’ ar fyd oedd well i fyw
PAN fu farw Muhammad Ali cafwyd yr ymateb disgwyliedig gan y cyfryngau. Oedd, roedd Ali’n chwedl. Ond a oedd yr eilun-addoliad hwn yn haeddiannol? Anodd penderfynu.
Yn gyntaf, gadewch i ni ystyried Ali’r bocsiwr. Pan enillodd Ali’r teitl yn erbyn Sonny Liston yn 1964, syfrdanwyd y byd bocsio.
Yn bersonol rwy’n dal i amau dilysrwydd y ffeit honno. Roedd Liston yn anifail o ddyn, cawr y byddai angen gordd ar unrhyw wrthwynebydd i’w lorio. Mae yna amheuon o hyd mai’r Maffia wnaeth drefnu’r canlyniad.
Cofiaf yn dda ymateb Tommy Farr wedi’r ffeit, a ddangoswyd ar ein sgriniau teledu yn ystod oriau mân y bore.
“They say that the early bird catches the worm,” medd Tommy. “But all that the bird caught early this morning was a big, fat slug.”
Ystyrid Liston, yn dilyn dwy fuddugoliaeth yn erbyn Floyd Patterson fel bocsiwr diguro. Pan wynebodd Ali roedd yr ods yn erbyn Ali yn 7 – 1.
Yn ôl yr hanes roedd y Mob wedi trefnu’r canlyniad ymlaen llaw. Roedd Liston, meddir, wedi bod yn yfed yn drwm y noson cynt.
Bu marwolaeth Liston yn un ddadleuol hefyd. Arwyddodd gytundeb i ymladd George Chuvallo.
Ond y gwir amdani oedd ei fod wedi marw wythnos cyn iddo ‘arwyddo’r’ cytundeb!
Credir mai’r Mob fu’n gyfrifol am ei lofruddio drwy chwistrellu heroin i’w gorff.
Beth bynnag am hynny, ni ellir dwyn oddi ar Ali ei gyfraniad arloesol i’r gamp.
Ef oedd yr ymladdwr pwysau trwm cyntaf i ddangos fod y gallu i osgoi ergydion ei wrthwynebydd yr un mor bwysig â’r gallu i daflu ergydion.
Ni welwyd erioed o’r blaen focsiwr a fedrai demtio a gwylltio’i wrthwynebydd drwy ddawnsio o’i gwmpas, ei ddwylo’n hongian yn rhydd a’i wyneb yn ddiamddiffyn.
Hyd yn oed wedyn, fedrwn i ddim derbyn Ali fel y bocsiwr pwysau trwm gorau mewn hanes.
I mi, Rocky Marciano oedd hwnnw, bocsiwr llythrennol ddiguro a enillodd bob un o’i 49 gornest.
Ni ellir gwadu cyfraniad Ali chwaith i’r frwydr dros hawliau’r duon.
Gwrthododd ymladd yn Fiet Nam a gwaharddwyd ef am gyfnod o’r sgwâr bocsio.
Ac ef, yn bendifaddau, oedd un o’r ‘doctoriaid spin’ clyfraf mewn hanes.
Oedd, roedd e’n gegog a haerllug. Ond roedd e hefyd yn un cyflym ei ymateb.
Un tro cerddodd i mewn i dŷ bwyta a oedd yn egscliwsif ar gyfer pobl wyn. Dyma’r rheolwr yn dweud wrth Ali, “Sorry, we don’t serve negroes.” Ac Ali’n ateb, “That’s all right. I don’t eat them.”
Wn i ddim pam, ond ni fedrais erioed ei dderbyn gydag unrhyw gynhesrwydd.
Fy arwr du mwyaf i yn y byd bocsio oedd Joe Louis, gŵr a hybodd achos y duon drwy urddas yn hytrach na thrwy huotled a gwawd.
Ond ni all neb wadu lle Ali yn y llyfrau hanes.
Trist iawn fu ei ymddarostyngiad o ganlyniad i salwch ac i effaith yr ychydig ergydion trwm a ddioddefodd i’w ben.
Ydw, rwy’n hiraethu am Ali. Mae colli rhywun chwedlonol fel ef yn ergyd.
Ond a ydym yn onest yn ein galar am golli’r fath bobl? Ai galaru am yr ymadawedig ydyn ni mewn gwirionedd? Ynteu ai galaru a wnawn ni am yr hyn wnâi’r ymadawedig ei gynrychioli?
Yn achos Ali, fe wna ei golli fy atgoffa o 1964, y flwyddyn pan gurodd e Liston i ennill pencampwriaeth y byd.
Doeddwn i ond yn 24 oed. Gweithio oeddwn i yn llyfrgell gyffredinol y Coleg yn Aber yn dilyn taflu fy ngobeithion am radd ar y domen dail. Fy nghyflog oedd prin bumpunt yr wythnos. Ond roeddwn i’n hapus.
Roedd Elvis yn dal yn frenin a James Dean yn frenin o fath arall, sef brenin yr angst.
Ac yn y cyfnod hwnnw doedd rhywun ifanc ddim yn medru bodoli heb ddos helaeth o angst.
Roedd Ali’n rhan o’r rhamant, yn enwedig pan gychwynnodd ei ymgyrchoedd dros y duon
Ac er bod Arlywydd ifanc America wedi ei ddienyddio flwyddyn yn gynharach roedd gobaith yn dal i chwythu yn y gwynt a’r byd yn ifanc.
Ac wrth hiraethu am Muhammad Ali, hiraethu ydw i, petawn i’n onest, wrth ‘edrych dros y bryniau pell’ ar fyd oedd well i fyw.