Colofnwyr
Nid y cwsmer sy’n bwysig bellach
DAIR blynedd yn ôl, gosodwyd cegin newydd yn y tŷ hwn gan gwmni lleol. Cegin dda ac un rhesymol ei phris. Mae’n cynnwys offer trydanol megis popty a microdon a phen stof neu hob nwy sy’n cael ei danio gyda sbarciwr trydan.
Er bod garanti o ddwy flynedd ar yr offer, awgrymwyd y byddai’n werth y pres i ychwanegu tair blynedd arall atynt a dyna a wnes.
Fel arfer, fyddai ddim yn talu am yswiriant ar ddarnau offer y gegin ond gan fod y rhain wedi eu gosod yn y cypyrddau, fe fyddai’n gallu golygu cryn drafferth a chostau ychwanegol i fynd atynt i’w trwsio.
Tua chanol mis Mawrth, dechreuodd y taniwr ar yr hob sbarcio’n barhaol ac nid oedd modd ei reoli heb ddiffodd y swîts. Felly, dyma ffonio’r cwmni yswiriant i wneud cwyn ac i ofyn am gael ei drwsio. Cefais fy nghynghori i ffonio cwmni ym Môn oedd i ddelio â’r mater.
Ffoniais y cwmni a chefais ar ddallt y byddai rhywun yn cysylltu â mi i drefnu ymweliad. Rai dyddiau yn ddiweddarach, cefais alwad ffôn gan ddyn oedd yn dweud y byddai’n galw acw cyn hanner dydd ar Ebrill 1af i ddelio gyda’r mater.
Y bore hwnnw, arhosais yn y tŷ i ddisgwyl y dyn, ond yn rhyw hanner ofni yng nghefn fy meddwl mai tric Ffŵl Ebrill oedd hyn.
Wrth gwrs, ni ddaeth neb at y drws cyn deuddeg o’r gloch, felly ar ôl cinio ffoniais y cwmni unwaith eto i holi am hynt y dyn.
Yr oedd y sawl a atebai’r ffôn yn ddigon anghwrtais, gyda’r anghwrteisi hwnnw yn codi ‘ngwrychyn am mai Saesnes nad oedd yn meddu rhyw lawer ar sgiliau cyfathrebu gyda’r cyhoedd oedd hi.
Eglurais nad oedd neb wedi galw cyn hanner dydd er i’r dyn addo hynny. Dywedodd y byddai’n cysylltu â’r dyn ac yn yr un gwynt, rhoddodd y ffôn i lawr.
Yr oeddwn wedi mynd allan ganol y prynhawn a thua hanner awr wedi pump, dyma’r dyn yn ffonio i ddweud y byddai’n galw’r bore Llun canlynol rhwng naw a hanner awr wedi naw.
Arhosais yn y tŷ fore Llun ac fe gyrhaeddodd y dyn rhyw ychydig wedi deg. Fuodd o ddim yno fawr mwy na dau funud a gadawodd wedi dweud y byddai’n rhaid iddo archebu darn bychan i drwsio’r hob gan nad oedd ganddo un yn ei fan ac y byddai yn ôl ychydig ddyddiau yn ddiweddarach.
Y dydd Mercher canlynol, cefais alwad gan yr un ddynes anghwrtais unwaith eto yn gofyn am rif model yr hob.
Darllenais ef iddi gan ychwanegu fy mod wedi ei roi iddi’n wreiddiol a’i fod ar y papur oedd gan y dyn pan ddaeth acw.
Dyma hi’n dweud fod chwe darn yn bosib a gofynnodd i mi edrych o dan yr hob i weld rhif arall.
Eglurais fod yr hob yn dal yn ei le a heb gael ei dynnu, felly nid oedd modd i mi weld y rhif ac oni ddylai drafod hynny efo’r cwmni a wnaeth yr hob beth bynnag. Rhoddodd y ffôn i lawr yn ddigon swta unwaith eto.
Am ychydig wedi wyth y bore ar y dydd Llun canlynol, cefais alwad ffôn gan y dyn i ddweud y byddai’n galw heibio ar fore’r dydd Iau canlynol.
A do, fe gyrhaeddodd y dyn toc wedi deg ac fe atgyweiriodd yr hob. Ni fu yma fawr mwy na chwarter awr a dyna fo, mae’n gweithio’n iawn unwaith eto – a hynny dair wythnos a hanner ers i mi ffonio i gwyno yn wreiddiol!
Rŵan, mae nifer o gwestiynau yn codi. Y cyntaf yw pam y cymrodd hi mor hir i newid teclyn bychan a reolai’r taniwr ar yr hob?
Yn ail, onid yw costau teithio o Fôn i Borthmadog a thâl am oriau gwaith y dyn yn ormodol i’r hyn oedd angen ei wneud? Mi wn ei fod yn galw mewn llefydd eraill wrth ddod ac ar ôl bod yma ond ymddengys fod cost gosod y darn bach wedi bod yn hynod o ddrud.
Clywais lawer o sôn fod gwneud gwaith yswiriant mewn unrhyw faes yn gallu bod yn wastraffus a phroffidiol ar yr un pryd ond a oedd cyfiawnhad dros yr holl gostau hyn er mwyn gosod darn bychan, rhyw hanner modfedd o hyd?
Rhywbeth arall sy’n codi yw nodi amser a chadw at hynny. Bydd rhai cwmnïau yn rhoi amser gweddol gyfyngedig, dwy awr dyweder, pan fyddent yn cyrraedd eich cartref ond mae eraill yn hollol anwadal, sy’n golygu eich bod yn gorfod aros yn y tŷ drwy’r dydd a gwastraffu amser y gellid ei ddefnyddio i wneud rhywbeth arall.
Ond mae gen i ofn mai dyma’r oes yr ydym yn byw ynddi ac y gall pethau ddirywio eto am y rheswm syml nad y cwsmer sy’n bwysig bellach i lawer o’r cwmnïau unwaith y maent wedi gwerthu rhywbeth a derbyn y pres amdano.