Colofnwyr
Mae’r gair ‘bendigedig’ wedi colli ei ysytyr yn llwyr
WRTH i mi roi trefn ar hen ffeiliau’n ddiweddar canfûm doriad o’r Faner 35 mlynedd yn ôl. Llythyr oedd e gan D. Tecwyn Lloyd a ymddangosodd ar Ragfyr 18fed 1981. Ynddo mae’n codi sgwarnog a godwyd droeon gen i sef y camddefnydd dybryd o’r gair ‘Bendigedig’.
Er i mi gwyno a chwyno, cynyddu yn hytrach na lleihau wna’r camddefnydd.Yn wir, ofnaf i’r gair golli ei ystyr yn llwyr erbyn hyn.
Heddiw, sef dydd Llun rwyf wrthi’n gwylio a gwrando ar weithgareddau Prifwyl yr Urdd.
A phetawn i’n cael punt am bob tro y clywaf y gair ‘bendigedig’ byddwn yn ddyn cyfoethog.
Drwyddi draw cawsom gan blant, pobl ifanc ac oedolion enghreifftiau o’r camddefnydd. Fe’i clywais gan bob oed, yn cynnwys pob un o’r cyflwynwyr.
Roedd y tywydd yn fendigedig. Roedd y profiad o gystadlu’n fendigedig iawn. Roedd ennill yn fendigedig iawn, iawn. Yn wir, roedd popeth yn ‘rîli bendigedig’.
Fe wna’i ddyfynnu llythyr Tecwyn Lloyd i chi. Mae’n werth ei ail-gyhoeddi gan ei fod mor wir heddiw ag yr oedd 35 mlynedd yn ôl.
Dyma fe: “Ers peth amser, mae yna un gair yr wyf wedi diflasu ei glywed ar ein cyfryngau cyhoeddus (radio a theledu) ac mewn sgwrsio preifat.
“Hwnnw yw’r ansoddair ‘bendigedig’.
“Fe’i harferir, yn llwyr ddifeddwl, fel gradd o ryw uchel ganmoliaeth frwd ac amhendant i bob math o bethau megis peiriannau golchi llestri, campau pêl-droediol, llyfrau plant a’u lluniau, cystadlu eisteddfodol, rasus cŵn, glo caled, mathau o iogwrt – i nodi dim ond ychydig enghreifftiau a glywais yn weddol ddiweddar.
“Mae’r gair yn prysur golli ei ystyr ac yn dirywio i’r un dosbarth â ‘neis’, ‘lyfli’ a bastardeiriau tebyg.
“Ystyr a chydgysylltiadau crefyddol sydd i’r gair; sef rhywun wedi derbyn bendith naill ai’n uniongyrchol o Dduw neu trwy gyfrwng rhywun arall.
“Ffurf arall arno oedd ‘bendigaid’, ac y mae’n un o’r geiriau sydd ynglŷn â’r cysegredig a’r dyrchafedig.
“Heb sôn am ddifetha a thlodi iaith, mae defnyddio’r gair yn y cysylltiadau a nodais a’u tebyg yn gellweirwch sydd yn ymylu ar gabledd. Beth sydd o’i le ar ansoddeiriau fel ‘gwych’, ‘ardderchog’, ‘godidog’, etc?
“Am y rhan helaethaf o’r pethau a ddisgrifir yn ganmolus gennym digon, ymhob rheswm, fyddai’r ansoddair tawel a solet ‘da’.”
Dim ond un sylw sydd o’i le yn y llythyr. Dywed Tecwyn Lloyd fod y gair ‘yn prysur golli ei ystyr’. Erbyn hyn mae e wedi colli ei ystyr yn llwyr.
Cofiaf flynyddoedd yn gynharach, eto yn Y Faner, Kate Roberts yn cwyno am yr ymadrodd ‘rheolwr gyfarwyddwr’ am ‘managing director’. Yr ymadrodd cywir, meddai, oedd ‘cyfarwyddwr rheoli’.
Er gwaethaf hyn fe’i defnyddir byth a hefyd gan bob cyflwynydd newyddion Cymraeg.
Ystyr ‘rheolwr gyfarwyddwr’ yw ‘manager director’.
A cheir o hyd gyfeiriad at dîm neu unigolyn sydd heb golli fel ‘diguro’.
A gaf i bwysleisio unwaith eto mai ‘unbeatable’ yw diguro, ac yn yr ystyr hwnnw y dylid ei ddefnyddio.
A chyda llaw, pam defnyddio’r gair hyll ‘sialens’ pan fod yna air cwbl ddilys fel ‘her’ yn bodoli?
Gallwn fynd ymlaen ac ymlaen. Ond pam dewis y camddefnydd o ‘bendigedig’ fel cocyn hitio o blith dwsinau a enghreifftiau o fratiaith, wn i ddim.
Hwyrach fod gan y ffaith fy mod i’n byw ym Mhontrhydfendigaid a rhywbeth i wneud â’r ffobia. (Gair Groegaidd, gyda llaw, yw ffobia).
Dadl amryw, hwyrach, yw mai hollti blew yw hyn oll. Fy nadl i yw, os yw iaith yn werth ei siarad o gwbl, yna mae’n werth ymdrechu i’w siarad hi’n iawn.
Ac yma codaf hen sgwarnog arall. Mae’n ddyletswydd ar gyflwynwyr i’w siarad hi’n raenus. Nhw yw wynebau cyhoeddus yr iaith. Sawl tro y clywn ganmol ar gyflwynydd gyda’r geiriau, ‘Ond oes ganddo fe Gymraeg da?’ A fyddech chi byth yn canmol safon iaith lafar cyflwynydd Saesneg? Na, mae’n anghenraid y byddech yn ei chymryd yn ganiataol.
Beth bynnag, nid bod yn blismon iaith yw’r bwriad. Ple o’r galon sydd gen i am i bawb ystyried gwir ystyr ‘bendigedig’ cyn ei ynganu. OK, mae unrhyw langwedj yn ifolfo. Ffêr inyff. Ond mae cam-iwso ‘bendigedig’ yn gwneud i fi deimlo’n rîli, rîli grac. So, standard Welsh amdani, rhywbeth all pawb ei ynderstando, ontefe, chmod. Chi’n agrîo? Bendigedig!