Colofnwyr

RSS Icon
25 Mai 2016
Gan LYN EBENEZER

Bob Dylan: Bardd sy’n canu neu ganwr sy’n fardd?

Mae hi’n ddydd Mawrth ac mae’n ddiwrnod pen-blwydd Bob Dylan yn 75 oed. I gyd-fynd â’r pen-blwydd derbyniais drwy’r post gopi o albwm diweddaraf Bob, Fallen Angels.

I rywun fel fi bu cyrraedd fy 75ed pen-blwydd yn gryn gamp ynddi ei hun. Ond meddyliwch beth lwyddodd hwn i’w gyflawni o fewn trichwarter canrif. Cyhoeddodd ymron bedwar ugain albwm, 37 mewn stiwdio ynghyd â 58 o recordiau sengl. E

Ers mis Mehefin 1988 ni wnaeth beidio â theithio. Mae’r daith a fedyddiwyd yn ‘Neverending Tour’ yn parhau.

Fel llawer iawn o’m cydoeswyr, cychwynnodd apêl Bob fel canwr protest yn y chwedegau. Ers hynny, fel cameleon, aeth trwy bob math o newidiadau.

Y newid mwyaf fu troi at drydan. Fe’i galwyd yn Judas. Bu’n coleddu rhyw fath o grefydd erioed.

Yn yr wythdegau daeth yn Gristion. Wedyn trodd yn ôl at Iddewiaeth, crefydd ei dadau. Nawr mae’n dal i goleddu rhywfaint o gredo Cristnogol. 

Ar yr albwm a ryddhaodd y llynedd, Shadows in the Night fy ffefryn i yw Stay With Me, emyn hyfryd. Ie, Bob yn canu fel ‘crooner’ fel teyrnged i Sinatra! Pwy feddyliai!

Mae Bob yn enigma. Mae’n amhosib gosod label arno. Canodd yn erbyn rhyfel ond cyhoeddodd yn ddiweddarach nad yw’n heddychwr gan y cred fod gan unrhyw genedl yr hawl i’w amddiffyn ei hun.

Deil o hyd i gondemnio’r rheiny sy’n creu arfau er mwyn eu gwerthu i wledydd eraill.

Mae ei glasur Masters of War mor berthnasol heddiw ag yr oedd yn y chwedegau. 

Fe’i gwelais gyntaf yn Earls Court ar ddiwedd y saithdegau. Taith Street Legal oedd hon. Beirniadwyd ei albwm o’r un enw’n hallt gan y beirniaid. Nid fod Bob yn poeni.

Heddiw mae’r beirniad yn gosod Street Legal ymhlith y goreuon o’i recordiau. Mae Senor: tales of Yankee Power yn glasur. Ynddi mae’n gyrru lawr y ffordd heb fod yn siŵr i ble mae’n mynd, ai i Lincoln County neu i Armagedon? Ynddi mae’n ymbil ar Senor, sef Crist, i ail-ddymchwel byrddau’r cyfnewidwyr arian yn y deml,

Senor, Senor, let’s overturn these tables,
Disconnect these cables,
This place don’t make sense to me no more,
Can you tell me what we’re waiting for, Senor? 

Enghraifft arall o’i enigma yw ei gasineb, er ei fod e’n seren  byd-eang, at unrhyw eilunaddoliad. Ef yw’r arch wrth-seleb.

Cas ganddo’r syniad o fod yn rhyw broffwyd neu lefarydd ar ran unrhyw garfan.

Disgrifiodd ei hun o’r cychwyn cyntaf fel dim byd mwy na ‘song and dance man’.

Cas ganddo gael ei holi. Bydd ei atebion, os wna ateb o gwbwl, yn eiriau prin un sillaf.

Ni all oddef ffyliaid. Pan ofynnwyd iddo nôl ar ddiwedd y nawdegau pam y cefnodd ar Gristnogaeth ei ateb oedd, ‘God double-crossed me in a bar in New Mexico.’

Anodd penderfynu beth yw Bob, ai bardd sy’n canu neu ganwr sy’n fardd. Yn sicr mae’n fardd.

Fedrwch chi ddim cymharu gwaith Bob â rhyw rwtsh arwynebol gan Robbie Williams neu hyd yn oed John Lennon.

Mae yna rythmau i’w gerddi. Mae’n odlwr rhyfeddol.

Medrai amryw o’i ganeuon sefyll ar eu pen eu hunain fel cerddi.

Dyna’i chi Just Like Tom Thumb’s Blues ag Idiot Wind. A chaneuon sy’n dweud stori fel Tangled Up in Blue a Lilly, Rosemary and the Jack of Hearts.

Mae hyd yn oed llinellau y mae fel petai’n eu taflu i ffwrdd yn drawiadol. Meddyliwch amdano, yn Talking World war III Blues,

Half of the people can be part right all of the time,
Some of the people can be all right part of the time;
But all of the people can’t be all right all of the time.
I think Abraham Lincoln said that.
‘I’ll let you be in my dreams if I can be in yours,’
I said that.
    

Pen-blwydd hapus, Bob a diolch am dros hanner canrif o gael gwrando arnat. Fe gei di fod yn fy mreuddwydion i unrhyw amser. Fe rown unrhyw beth am gael bod yn dy rai di. 

Rhannu |