Colofnwyr

RSS Icon
25 Mai 2016
Gan ARTHUR THOMAS

Dim pwynt cymharu Prydain gyda Norwy yn yr uffarendwm!

GAN ein bod yng nghanol ymgyrch uffarendwm aelodaeth o’r Gymuned Ewropeaidd mae’n werth sôn am wlad fach sydd y tu allan i’r GE a ddefnyddir byth a beunydd fel enghraifft gan y rhai sy’n dymuno gweld y Deyrnas Unedig yn gadael.

Wedi cyfnodau o dan reolaeth Denmarc ac wedyn Sweden, yn dilyn uffarendwm, ymwahanodd Norwy oddi wrth Sweden ym 1905 a hynny’n heddychlon. Dethlir diwrnod Annibynniaeth Norwy ar Fai 17 a bydd y trigolion yn dathlu eu cenedligrwydd gyda balchder.

Y mae baner y wlad i’w gweld yn y siopau, ar y stryd, yn cael ei chwifio gan blant ac oedolion ac ar fagiau cefn a chotiau. Yn syml, ni ellir ei hosgoi. Fe ddaeth hi’n egwyddor gan y bobl na fyddent yn cael eu rheoli gan yr un wlad arall fyth wedyn a dyna pam y bu iddynt wrthod ymuno â’r Gymuned Ewropeaidd yn y ddwy  uffarendwm a gynhaliwyd ym 1972 a 1994.

Cymharwch hyn gydag agwedd y Deyrnas Unedig a ymunodd â’r GE er mwyn ceisio rheoli a chael sylfaen grym i gystadlu â’r Unol Daleithiau a’r Undeb Sofietaidd yn y saithdegau, ond a fethodd â gwneud hynny. Dyna pam y mae’r cenedlaetholwyr Prydeinig/Seisnig, cul eu gorwelion ac yn llawn rhagfarnau yn ymgyrchu dros ddod allan.

Pan oeddwn yn Oslo yn ddiweddar, cefais gyfle i drafod aelodaeth o’r GE a’r manteision dros aros allan. Roedd hi’n syndod i ddeall fod Norwy yn talu bron cymaint i mewn i’r GE ac y gwna’r Deyrnas Unedig, a hynny er mwyn cael yr hawl i fasnachu gyda gwledydd y GE. Eto, nid oes gan Norwy lais ym mhenderfyniadau’r GE ond am yr hawl o gael masnachu gyda gwledydd y GE bu’n rhaid i Norwy fabwysiadu dros saith mil o ddeddfau a rheolau’r GE ynghyd â rhai o’r polisïau. Felly, fe welwch nad yw defnyddio Norwy fel enghraifft yn ddewis doeth iawn i’r rhai sydd am adael y GE.

Rheswm arall fod Norwy yn gallu sefyll ar ei thraed ei hun y tu allan i’r GE yw’r ffaith ei bod yn wlad mor gyfoethog. O ganlyniad i arian yr olew, fe aeth o fod yn un o wledydd tlotaf Ewrop i fod yn un o’r rhai cyfoethocaf os nad y mwyaf cyfoethog.

A thra bu i’r Deyrnas Unedig osod yr hawliau i dyllu am olew i gwmnïau byd-eang ac wedyn gwastraffu’r arian ar arfau a rhyfela, yr hyn a wnaeth Norwy oedd sefydlu ei chwmni olew ei hun i dynnu’r olew allan a chreu cronfa enfawr gydag arian yr olew.

Defnyddia lawer o’r arian i gefnogi’r celfyddydau drwy adeiladu neuaddau cyngerdd a chanolfannau diwylliannol yn y trefi a’r dinasoedd. Adeiladwyd y tŷ opera eiconig yn Oslo gydag arian yr olew, ac fe gafodd Elen ,y ferch y profiad o chwarae yno sawl gwaith dros y ddwy flynedd ddiwethaf.

Felly, mae gan Norwy lawer mwy o gyfoeth na’r Deyrnas Unedig er mwyn ei galluogi i sefyll ar ei thraed ei hun y tu allan i Ewrop.

Yn ystod ymgyrch yr uffarendwm am annibyniaeth yr Alban, cymharwyd sut y byddai’r Alban yn gallu manteisio ar gyfoeth yr olew fel Norwy ond fod yr SNP yn cydnabod pwysigrwydd aelodaeth o’r GE am fod cymaint o’r cyfoeth wedi cael ei wastraffu ar ryfeloedd ac ymdrech y Deyrnas Unedig i fod yn rym o bwys yn y byd, er bod pawb arall yn gwybod fod y cyfnod hwnnw wedi hen fynd heibio. Amcangyfrifir fod gan Norwy tua chan mlynedd o olew wrth gefn tra bo’r sefyllfa’n bur wahanol yr ochr yma i Fôr y Gogledd.

O hyn ymlaen, pan glywch unrhyw sôn am Norwy yn ystod yr uffarendwm, cofiwch nad yw’r gymhariaeth yn dal dŵr – neu’n dal olew hyd yn oed.

Rhaid cofio fod gwleidyddion o’r ddwy ochr i’r ddadl yn defnyddio unrhyw beth i bwysleisio eu dadleuon a thra nad wyf yn gwybod cymaint am y Swistir – gwlad arall a ddefnyddir gan y rhai sy’n dymuno dod allan o Ewrop – mae cymharu sefyllfa Norwy ag un y Deyrnas Unedig, petai’n dod allan o’r GE, yn un gamarweiniol iawn a dweud y lleiaf.

Rhag edrych ar Norwy, rhaid i ni fel gwlad fach edrych ar y manteision a gawn o fod yn perthyn i’r farchnad fawr ac, er nad yw rhywun yn disgwyl cardod, fod cymaint o nawdd wedi dod o Ewrop. Beth fyddai’r sefyllfa heb y nawdd hwn? Oni fyddai’r gwariant ar arfau a rhyfela’n llyncu unrhyw arian ychwanegol a fyddai ar gael fel arall?

Mae hi’n bur ddrwg arnom rŵan yng Nghymru ond o adael y GE byddai’n waeth o lawer.

Rhannu |