Colofnwyr
Nid yw’r Cymry yn cyrmyd eu doniolwch yn ddigon difrifol!
Ar hyn o bryd mae Theatr Felin-fach mewn cydweithrediad â Theatr Gymunedol Troedyrhiw wrthi’n perfformio clasur Idwal Jones, Pobl yr Ymylon.
Dyma yn sicr y ddrama Gymraeg fwyaf poblogaidd a berfformiwyd erioed yn ardaloedd gwledig Sir Aberteifi a thu hwnt. Drama yw hi sy’n antidôt perffaith i ffug barchusrwydd a rhagrith.
Dau ŵr yn benodol wnaeth agor fy llygaid i athrylith Idwal sef Gwenallt ac Eirwyn Pontshân. Mae cyfrol Gwenallt a gyhoeddwyd yn 1958 gan Wasg Aberystwyth yn glasur. Ac am Eirwyn, byddai Idwal ar ben pob sgwrs. Dau arwr mawr Eirwyn oedd Idwal Jones a Saunders Lewis. Dyna pam y gwnaeth enwi ei blant yn Idwal a Blodeuwedd.
Medrai Eirwyn ailadrodd talpiau o Bobl yr Ymylon, ac yn arbennig ran Malachi Jones. Os cofiaf yn iawn fe wnaeth chwarae’r rhan. Wn i ddim ai yng nghwmni drama Dewi Emrys oedd hynny ai peidio. Yn sicr fe fu’n aelod o gwmni drama Dewi yn Nhalgarreg.
Ffrwyth cystadleuaeth ddrama Eisteddfod Genedlaethol Abertawe 1926 yw Pobl yr Ymylon. Gosodwyd hi’n drydydd gan y tri beirniad, W.J. Gruffydd, R.G. Berry an E. Ernest Hughes. Y buddugwr oedd John Ellis Williams gyda Y Ffon Dafl. Awgrymwyd y dylai Idwal ail-ysgrifennu ei ddrama.
O wneud hynny’n llwyddiannus yna, meddai’r feirniadaeth, byddai’n garreg filltir yn hanes y ddrama Gymraeg.
Fe wnaeth Idwal hynny, ac fe’i perfformiwyd gyntaf yng Ngŵyl Ddrama Abertawe ym mis Ebrill 1917.
Rhannwyd y cymeriadau i dair carfan: Pobl yr Ymylon, Pobl Barchus a Blaenoriaid. Roedd Idwal, medd Gwenallt, wedi gweld gwendid Anghydffurfiaeth Cymru sef diffyg lliw, sbort, rhamant a ieuenctid.
A dyma i chi ddisgrifiad Gwenallt o’r Cymry parchus: “Cymry diddrwg didda yw’r Cymry parchus; nid ydynt yn saint nac yn bechaduriaid; nid ydynt o blaid dim nac yn erbyn dim; os oes ganddynt argyhoeddiadau crefyddol a gwleidyddol y maent yn eu mygu er mwyn cael swydd a dyfod ymlaen yn y byd.” Hyn, yn hytrach na Phiwritaniaeth a dagodd grefydd yng Nghymru, meddai. Amen, medde finne.
I mi, criw’r Felin-fach yw un o’r ychydig gwmnïau drama yng Nghymru sy’n darparu i’w cynulleidfa yr hyn y maen nhw’n dymuno ei weld.
Nid rhyw lwyfaniadau avant garde ffug-ddiwylliannol arti-ffarti, nid rhyw gyfieithiadau Seisnigaidd eu hanfod. Nid rhyw ddramâu cymhleth sy’n denu rhyw lond dwrn i’w gwylio.
Na, eu harlwy bob amser yw llwyfaniadau sy’n denu’r bobl gyffredin, yn cynnwys pobl yr ymylon.
Roedd Idwal yn llawer agosach at ddelfryd y ddrama yn Iwerddon na’r model Saesneg a Seisnig.
Roedd e’n hyddysg yn nramâu Yates, Synge a Lady Gregory. Hoffai agwedd ddiragfarn y dramâu rheiny’n gymdeithasol gyda’u sgyrsiau ymyl y ffordd rhwng tinceriaid, crwydriaid, baledwyr a physgotwyr, meddai Gwenallt.
Ystyrir Idwal, wrth gwrs, fel dyn doniol a’i gymharu ag Edward Lear a Lewis Caroll. I mi mae’n cymharu â’r mwyaf ohonynt oll sef Spike Milligan. Ond i Gwenallt, dramodwr oedd Idwal yn bennaf.
“Eilbeth iddo oedd llunio cerddi digri, a llunio’r rhain a wnaeth mewn cyfnod o wendid corff.”
Ac onid dyna’n union wnaeth Milligan? Lluniodd ei gerddi mwyaf doniol pan oedd mewn gwendid corff ac enaid.
Byddai Eirwyn Pontshân bob amser yn dyfynnu un o ddywediadau mawr Idwal sef nad yw’r Cymry’n cymryd eu doniolwch yn ddigon difrifol. Gwir bob gair. Mae creu rhywbeth doniol yn llawer anoddach na chreu rhywbeth difrifol neu ddwys. Does ond angen gwylio S4C i gadarnhau hynny. Ydi chi’n cofio ‘I-ha, Sheilla!’?
O, na fyddai Idwal gyda ni heddiw. Ond na, o ystyried y siop gaeedig ym myd y cyfryngau yng Nghymru, mwy tebygol fyddai i Idwal gael ei anwybyddu.
Dyna fu ffawd yr annwyl a’r doniol Wil Sam, olynydd naturiol Idwal.
Ers tro bellach mae criw’r Felin-fach, yr union ardal y lluniodd Idwal ei ddrama ar ei chyfer, wedi gwneud iawn am y prinder sylw a gafodd y gŵr hynod hwn gan ei genedl.
Yn anffodus mae’r parchusrwydd a ddychanwyd yn Pobl yr Ymylon yn dal yn fyw ac yn afiach.
Mae taith y ddrama eisoes wedi dechrau ond daliwch ar y cyfle i’w gweld yn Nhregaron nos Lun 16eg, Llwyngwyn nos Fercher y 18fed a Phenrhiwllan ar y nos Lun wedyn, y 23ain.