Colofnwyr

RSS Icon
03 Mehefin 2011
Arthur Thomas

Cyfiawnhad dros gwtogi nifer swyddogion?

YN y papur yn ddiweddar, gwelais fod Cyngor Gwynedd yn hysbysebu swydd ‘Rheolwr Arweiniol Ad-drefnu Ysgolion Uwchradd. Doedd dim cyflog yn cael ei nodi yn yr hysbyseb, ond clywais gan gyfaill sy’n dal yn athro, fod yr ysgolion uwchradd wedi cael gwybodaeth am y swydd, a’r cyflog yn £52,000 y flwyddyn.

Cafodd swyddog ei benodi i swydd fel hon ar gyfer ad-drefnu addysg yn ardal y Bala. Rwy’n cymryd fod y cyflog yr un fath ond welais i ddim mohoni’n cael ei hysbysebu yn unman. Sut oedd hi’n bosib cyfiawnhau llenwi swydd oedd heb gael ei hysbysebu, tybed? Wedi gweld yr hysbyseb, fe gyfyd nifer o gwestiynau ynglŷn â’r swydd hon beth bynnag:

1. Pam fod angen swyddog ychwanegol mewn cyfnod o doriadau pan fod swyddogion oddi fewn y Cyngor a allai wneud y gwaith fel rhan o’u swyddi presennol?

2. Sut fod hi’n bosib torri ar addysg ar un llaw a chyfiawnhau gwario’r swm hwn ar yr un pryd?

3. Os cofiaf yn iawn, rhyw ffigwr o gwmpas y £70,000 oedd y gwahaniaeth sylfaenol rhwng cau Ysgol y Parc a’i chadw ar agor. Byddai’r £52,000 a wariwyd ers o leiaf ddwy flynedd a’r un swm dros y blynyddoedd nesaf yn fodd i gau’r bwlch hwn a thrwy hynny, gadw’r ysgol hon ar agor hyd nes y byddai’r nifer o ddisgyblion sydd ynddi wedi codi – fel sy’n debygol o ddigwydd yn ystod y flwyddyn neu ddwy nesaf yn ôl pob sôn.

I ddarllen mwy CLICIWCH YMA

Rhannu |