Colofnwyr

RSS Icon
04 Mai 2016

Aeth celwyddau Hillsborough i’r lefel uchaf

GYDA’R rheithgor yng nghwest y 96 o gefnogwyr clwb pêl-droed Lerpwl a laddwyd ar y Sadwrn tyngedfennol hwnnw yn Hillsborough ym 1989 yn dod i benderfyniad fod y cefnogwyr hyn wedi eu lladd yn anghyfreithlon, fe ddaeth hi’n amser i fynd ati i gosbi’r rhai oedd ar fai.

Golygfeydd emosiynol iawn oedd y rhai’n dangos y teuluoedd wedi’r achos, a’r miloedd a ymgasglodd yng nghanol dinas Lerpwl i ddathlu’r fuddugoliaeth. O’r diwedd, yr oedd cwest wedi cydnabod nad y cefnogwyr oedd ar fai.

Mae angen ymchwilio i’r celwydd a ddywedwyd a’r penderfyniadau anghyfrifol a wnaed gan Heddlu De Swydd Efrog, Clwb Pêl-droed Sheffield Wednesday (ar eu maes hwy y cynhaliwyd y gêm), y wasg – yn enwedig papur newydd y Sun ac, yn y pen draw, llywodraeth Maggie Thatcher.

Tra bydd uwch swyddogion yr heddlu yn siŵr o wynebu cyhuddiadau troseddol am eu hesgeulustod mae’n beryg mai dianc o’u cyfrifoldeb fydd y wasg a chyfundrefn Thatcher.

Yn dilyn y trychineb, lledaenwyd straeon celwyddog gan aelodau’r heddlu yn dweud fod cefnogwyr Lerpwl wedi dwyn arian oddi ar gyrff y meirw, honiad a gyhoeddwyd ar dudalen flaen y Sun. Fel hyn y cyhoeddodd tudalen flaen y rhecsyn hwnnw o dan bennawd ‘Y Gwirionedd’:

Fod rhai cefnogwyr wedi dwyn o bocedi’r meirw.
Fod rhai cefnogwyr wedi piso ar ben yr heddlu.
Fod rhai cefnogwyr wedi rhoi cweir i heddwas a geisiau roi cusan bywyd i un o’r trueiniaid.

Yn bell o fod yn ‘wirionedd’, yr oeddynt yn straeon hollol ddi-sail ac ni fu i bobl Lerpwl anghofio hyn.

Hyd y dydd heddiw, ychydig iawn o gopïau o’r Sun a werthir yn ninas Lerpwl ac fe fu i mi ddweud wrth gefnogwyr Lerpwl yn y parthau hyn ei bod hi’n gywilydd eu gweld yn prynu’r Sun pan fo pobl y ddinas honno yn gwrthod ei brynu!

Eiliad allweddol yn y cwest oedd pan fu i swyddog o Heddlu De Swydd Efrog gyfaddef fod y straeon a adroddodd wrth ohebydd y Sun yn gelwydd noeth, er iddo honni ar ddechrau’r cwest fod cefnogwyr wedi dwyn waledi o bocedi’r meirw.

Wrth gael ei holi yn y cwest, cyfaddefodd y swyddog nad oedd cofnod swyddogol yr heddlu am y noson honno yn sôn am unrhyw un o’r meirw wedi colli waled.
Yn ystod y dystiolaeth, fe ddaeth hi’n hollol amlwg, hefyd, nid yn unig mai celwydd oedd y straeon hyn ond fod yr heddlu’n gwybod hynny drwy’r amser a heb wneud unrhyw ymgais i’w cywiro.

Golygydd y Sun ar y pryd oedd Kelvin MacKenzie a fo oedd yn gyfrifol am y pennawd ar y dudalen flaen.

Dywedwyd hefyd i’r Sun gyhoeddi’r straeon heb sicrhau cadarnhad o’u cywirdeb.
Gan fod y BBC yn ffilmio’r gêm ar gyfer y teledu, dangoswyd hyn yn y cwest i gadarnhau nad oedd unrhyw dystiolaeth o’r honiad fod y cefnogwyr wedi piso ar ben yr heddlu.

I’r gwrthwyneb, dangoswyd cefnogwyr Lerpwl oedd yn feddygon, yn nyrsys ac yn swyddogion yr heddlu yn dod allan o’r dorf i roi cymorth i’r rhai a glwyfwyd ac a fu, o ganlyniad, yn gyfrifol am achub bywydau.

Gwelwyd cannoedd eraill yn cario’r clwyfedig a’r meirw gan ddefnyddio byrddau hysbysebu.

Yr oedd llawer o’r heddlu cyffredin a oedd ar ddyletswydd hefyd i’w gweld yn rhoi cymorth.

Cyrhaeddodd Margaret Thatcher y diwrnod canlynol ac fe glywodd fersiwn yr heddlu o’r hyn a ddigwyddodd.

Aeth yr honiadau, felly, i’r lefel uchaf yn y llywodraeth a derbyniwyd fersiwn yr heddlu o’r hyn a ddigwyddodd.

Fe gymrodd saith mlynedd ar hugain o ymgyrchu di-baid gan deuluoedd y rhai a laddwyd i gael yr awdurdodau i gydnabod o’r diwedd mai cael eu lladd yn anghyfreithlon a gafodd eu perthnasau.

Ond y bore wedi’r penderfyniad hanesyddol, sut y bu i’r Sun ymateb ar ei dudalen flaen? Dim gair. Onid oedd hynny’n siarad cyfrolau?

Yn dilyn canlyniad y cwest hwn, mae’n deg gofyn pa bryd y cynhelir ymchwiliad i’r hyn a ddaeth yn adnabyddus fel ‘Brwydr Orgreave’ yn ystod streic y glowyr ym 1984?

Yr un heddlu, De Swydd Efrog oedd yn gyfrifol y diwrnod hwnnw ac fe gafwyd yr un math o stumio tystiolaeth ag yn achos Hillsborough.

Yn 2015, cyhoeddwyd na fyddai ymchwiliad yn cael ei gynnal gan fo cymaint o amser wedi mynd heibio. Ond onid yw chwilio am y gwir yn rhywbeth sydd ddim yn gaeth i derfynau amser?

Yn ôl at Hillsborough i gloi. Fe gofiwch i’r Arglwydd o Nant Conwy gyhoeddi, yn ystod yr ymgyrch etholiadol, y dylid rhoi’r ail ddewis o bleidlais Comisiynydd yr Heddlu i David Taylor, yr ymgeisydd Llafur.

Wel, bu i’r hen Ddafydd El fethu eto, gan mai hwn oedd yr un David Taylor a roddodd negeseuon ‘You’ll never walk again’ ar y we ddiwrnod cyn y dydd i nodi ugain mlynedd ers y trychineb!

Rhannu |