Colofnwyr

RSS Icon
03 Mai 2016

Wythnos gofiadwy Lyn Ebenezer

HAROLD Wilson wnaeth ddweud fod wythnos mewn gwleidyddiaeth yn amser hir iawn. Gwir bob gair. Ond gall wythnos mewn bywyd hefyd fod yn un hir. A chofiadwy. A dyna fy hanes i’r wythnos ddiwethaf.

Cychwynnodd y cyfan gyda thaith i Iwerddon ar gyfer ffilmio dogfen ar ganmlwyddiant Gwrthryfel Y Pasg a ddangosir ar S4C yn ddiweddarach eleni. Fe wnes ail-fyw’r fordaith hanner canrif yn ôl gyda hen gyfeillion – cyfeillion coll bellach – fel Cayo, Peter Goginan a Neil ap Siencyn ar gyfer dathlu’r hanner cant. Gweithio oedd y bwriad y tro hwn ond daeth pleser hefyd yn ei gysgod. Gwahoddwyd fi, er enghraifft, i ddarlithio gan y Cynghrair Celtaidd mewn neuadd fach yng nghartref Padraig Pearse yn Nulyn. Pleser mawr fu gweld yno gyfaill o Gymru, Gerallt Llewelyn.

Munudau cofiadwy eraill fu bod yn rhan o’r orymdaith enfawr o Sgwâr Merrion i’r Swyddfa Bost ynghanol ugain mil o orymdeithwyr. Daeth Dulyn i stop.

Ymweliadau wedyn â Mynwent Glasnevin lle cefais gyfle i dalu teyrnged i fy hen gyfaill Joe Clarke, a dreuliodd dros hanner blwyddyn yn y Fron-goch. Joe, yn anad neb arall a wnaeth symbylu fy niddordeb yn hanes Gwrthryfel Y Pasg.

Dyma ymweld wedyn â Bryn y Deildy, neu Arbour Hill lle gorwedd yr arweinwyr a saethwyd. Bûm wedyn yn yr Ardd Goffa ger Sgwâr Parnell ac yng Ngharchar Kilmainham, lle saethwyd 14 o’r arweinwyr. Yno dangosodd un o’r tywyswyr i mi lyfr llofnodion ei daid yng nghyfraith, Peter Breslin, rhan helaeth ohono yn dangos cofnodion gan gyd-garcharorion yn y Fron-goch.

Uchafbwynt yr ymweliad fu derbyn gwahoddiad i gyfarfod â Llywydd Sinn Fein, Gerry Adams. Roedd am gael sgwrs ar hanes y Fron-goch. Cawsom gyfle i drafod caethiwedigaeth yn gyffredinol. Yn gwbl wahanol i’w ddelwedd gyhoeddus roedd e’n ddyn cynnes llawn hiwmor. 

Wna’i ddim manylu mwy yma. Cewch weld ffrwyth yr ymweliad pan ddangosir y rhaglen, gan gwmni Rondo yn ddiweddarach eleni. Ond nid dyna ddiwedd cynnwrf yr wythnos o bell ffordd. Dychwelais brynhawn dydd Iau ac ar ôl stiwardio yn Eisteddfod Pantyfedwen nos Wener cefais y fraint trannoeth o godi ar alwad y Corn Gwlad i dderbyn Coron yr ŵyl am gerddi ar ‘Gwrthryfel’. Ac ie, Gwrthryfel Y Pasg 1916 oedd fy thema.
Fore Sul yn Rhydfendigaid y pregethwr gwadd oedd Aled Gwyn, a oedd yn un o feirniaid yr eisteddfod. Cawsom ganddo bregeth amserol am y teulu bach ym Methania, a Lazarus, cyfaill Crist wedi marw. Sylw Martha oedd y byddai ei brawd yn dal yn fyw petai Crist wedi bod yno gan ychwanegu nad oedd hi’n rhy hwyr ‘hyd yn oed nawr’, i’w achub.

A dyna’r neges fawr. Dydi hi hi byth yn rhyw hwyr. Cyfeiriodd Aled yn benodol at gyfraniad enfawr y Doctor Meredydd Evans i’w genedl. Ac er ei bod hi’n ddyddiau main arnom fel Cymry, neges fawr Merêd oedd na fyddai hi byth yn rhy hwyr.

Gydol y prynhawn a’r nos cafwyd dwy sesiwn i goffau Merêd gyda hufen y byd canu gwerin ac ysgafn yn perfformio yn y Pafiliwn Mawr. A dyna’i chi wledd. Teimlwn yn union fel petawn wedi fy nghludo gan beiriant amser yn ôl i Binaclau Pop y chwedegau. Bu’n noson wefreiddiol.

Wna’i ddim dechrau enwi’r sêr. Ond rhaid cyfeirio at symbylydd y sioe, Dafydd Iwan. Cawsom ganddo rai o’r hen ffefrynnau. Ond cafwyd hefyd gân newydd sbon gyda Gwenan Gibbard yn cyfeilio ar y delyn ac yn cydganu. Wna’i ddim dweud fod Dafydd yn ôl gan nad aeth erioed i ffwrdd. Ond af mor bell â dweud ei fod e gystal ag y bu erioed.

Arwr y fenter oedd un nad oedd yno’n gorfforol ond a oedd yn llenwi’r lle o ran ei ysbrydoliaeth a’i bersonoliaeth. Fel Lazarus, fel arwyr Iwerddon roedd Merêd yno yn atgyfodedig. Ie, diwrnod Merêd oedd hwn. Ac mor hyfryd fu gweld ei gymar annwyl Phyllis yno.  

Hoffwn awgrymu y dylid cynnal y fenter hon, a hynny yn y Bont yn flynyddol. Byddai Merêd yma bob tro y cynhelid gweithgaredd diwylliannol. Ac oedd, roedd e yno ymhob un a berfformiodd ar y llwyfan, ymhob nodyn a gair a ganwyd, ymhob offeryn, ymhob un oedd yno’n gwerthfawrogi menter gwbl wefreiddiol.

Mae Merêd yn fyw. A dydi hi ddim yn rhy hwyr, ddim hyd yn oed nawr.

Lluniau:

Tra ar ymweliad â Dulyn yr wythnos ddiwethaf gwahoddwyd Lyn Ebenezer i gyfarfod â Gerry Adams, Llywydd Sinn Fein yn Leinster House, cartref y Dail, neu’r Senedd. Roedd wedi darllen y gyfrol ar y Fron-goch ac yn awyddus am sgwrs. Pwrpas yr ymweliad oedd ffilmio dogfen ar gysylltiad Lyn ag Iwerddon gan gwmni Rondo. Gydag ef ar y rhaglen bydd ei fab, Dylan. Bydd y ddogfen yn ymddangos ar S4C yn hwyrach yn y flwyddyn.

Lyn Ebenezer enillodd y Goron yn Eisteddfodau Teulu James Pantyfedwen Pontrhydfendigaid. Dyma’r goron driphlyg i Lyn, drwy ennill y Goron am y trydydd tro. Enillodd y ddwy Goron arall yn 2007 a’r llynedd. Yn y llun gwelir ef a’i wyrion, Anni a Ffredi yn dal y tair Coron

Rhannu |