Colofnwyr

RSS Icon
25 Ebrill 2016

Dathlu pen-blwydd Y Barcud

Yn ddiweddar cyfrannais i raglen ar Radio Wales, un o nifer o gyfrannwyr fu’n edrych yn ôl ar 1976. Mae yna nifer o resymau dros gofio’r flwyddyn. Dyma flwyddyn gorseddu James Callaghan yn Brif Weinidog. Roedd galwyn o betrol yn 76 ceiniog. Fe gychwynnodd Son of Sam, sef David Berkowitz gyfres o lofruddiaethau yn Efrog Newydd. Bu terfysgoedd yn Notting Hill.

Yr hyn ddaw’n ôl i’r cof i mi yw Storom Awst, sef helynt Cadair Prifwyl Aberteifi, sef Eisteddfod y Llwch. A’r haf crasboeth hwnnw a achosodd y llwch. Hwn, i ni yng nghefn gwlad Ceredigion oedd Haf yr Hipis, pan heidiodd cannoedd ohonynt yma dros dro i fyw mewn tipis neu hen faniau gan gynnal gwyliau gwyllt ac ymdrochi’n byrcs mewn afonydd a nentydd.

Ond mae yna reswm da arall i ni yn y fro hon gofio 1976 hefyd. Dyna’r flwyddyn pan lansiwyd ein papur bro, Y Barcud. Ac yn y rhifyn presennol caiff y ffaith honno ei dwyn ar gof.

Os ydych chi’n ystyried dinas yn fro, yna’r Dinesydd oedd papur bro cyntaf Cymru, yn 1973. Erbyn hyn mae yna 58 ledled Cymru. Ac o ddarllen hanes sefydlu’r Barcud, fedra’i ddim peidio â chofio cynhadledd a drefnwyd gan Adfer ganol y 70au yng Nghiliau Aeron. Bryd hynny dim ond dau neu dri o bapurau bro oedd yn bodoli yng Nghymru. Ond cofiaf yn dda glywed Emyr Llew yn proffwydo y deuai papurau bro yn gyhoeddiadau cyffredin ledled Cymru. Byddent, meddai, mor gyffredin ag Aelwydydd yr Urdd, a’r un mor bwysig. Ac nid am y tro cyntaf na’r tro olaf, gwireddwyd proffwydoliaeth Llew.

Yn y rhifyn presennol o’r Barcud atgoffir ni mai dim ond wyth tudalen oedd y rhifyn cyntaf hwnnw ym mis Ebrill 1976. Ynddo caed colofnau fel Cornel y Plant, Doctor Ni, Colofn Farddol, Colofn y Dysgwyr, Colofn Chwaraeon a chroesair. Ei bris oedd 10 ceiniog. Heddiw ceir 36 o dudalennau sy’n gyforiog o luniau. Y pris yw 60 ceiniog, sy’n fargen.

Ar drothwy’r pen-blwydd dosbarthwyd holiadur yn gofyn barn y darllenwyr ac yn gwahodd awgrymiadau. Trafodwyd y canlyniadau a bwriedir gweithredu rhai o’r awgrymiadau gan gynnwys colofnau yn y dyfodol ar amaeth a garddio ac atgyfodi’r golofn farddol.

Ymhlith y sylwadau ar welliannau’r papur dros y blynyddoedd cafwyd ymateb cadarnhaol i’r defnydd o liw. Cafwyd beirniadaeth hefyd sef bod yna ormod o luniau o’r ysgolion lleol. Yn bersonol, fedra’i ddim gweld dim byd o’i le mewn rhoi’r sylw mwyaf posibl i’n hysgolion. Ond dyna fe, pawb â’i farn. Ac un o swyddogaethau papur bro yw bod yn fforwm barn.

Bu twf y papurau bro yn ffenomenon chwyldroadol, er i’r chwyldro hwnnw fod yn chwyldro tawel. Bu ei effaith ar fröydd fel effaith lefain yn y blawd. Cyfrannodd mewn mwy nag un dull. Yr effaith amlycaf fu cael pobl i ddod i arfer â darllen Cymraeg. Meithrinodd y papur bro hefyd ddoniau ysgrifennu ymhlith y gwahanol olygyddion a chyfranwyr. Erbyn hyn daeth yn rhan naturiol o fywyd cymdeithasol bröydd Cymru.

Pan broffwydodd Emyr Llew hyn oll yng nghynhadledd Adfer yng Nghiliau Aeron, ni chafodd fawr iawn o sylw. Yn wir, fy adroddiad i yn y papur hwn oedd yr unig sylw. Ond roedd hi’n stori dda bryd hynny, ac mae hi’n stori dda o hyd.

Wn i ddim beth yw arferiad papurau bro eraill, ond ar gyfer Y Barcud ceir dau olygydd gwahanol bob mis. Mae hynny’n sicrhau amrywiaeth. Mae hynny hefyd yn rhannu’r baich ar ysgwyddau golygyddion.

Mae’r Barcud yn gwasanaethu 21ain o fröydd, o Bontrhydygroes yn y gogledd i Landdewibrefi yn y de, o Flaencaron yn y dwyrain i Swyddffynnon yn y gorllewin. Hynny yw, mae’n gwasanaethu’r broydd sydd o gwmpas Cors Caron.

Pen-blwydd hapus felly i’r Barcud. A hei lwc i ddyfodol pob un o’r 58 papur bro sy’n gwasanaethu gwahanol fröydd Cymru. Dywed y slogan o dan y teitl ar dudalen flaen Y Barcud:

Papur braf yw’r papur bro,

Tlotach cymuned hebddo.

Yn wahanol i’r hyn gewch chi mewn rhai papurau newydd, mae hynna’n wir bob gair!

Rhannu |