Colofnwyr
Arthur Thomas - Sut i sillafu enw’r mynydd neu sawl ‘c’ sydd mewn enw yn bwysig i’r trigolion lleol ond mater llawer mwy difrifol yw’r Seisnigeiddio enwau Cymraeg
FE gynhyrfwyd y dyfroedd yn arw yn ddiweddar wrth i Barc Cenedlaethol Eryri osod arwydd Cadair Idris i fyny nid nepell o Ddolgellau. Fe aeth hi’n ffrae ar y gwefannau cymdeithasol, gyda’r bobl leol yn mynnu mai Cader yw’r sillafiad cywir.
Er na fyddaf yn ymuno yn yr hyn sydd ar dudalennau’r ‘gweplyfr’ yn aml, teimlwn fel rhoi proc er mwyn cynhyrfu’r dyfroedd rhyw ychydig. Yr hyn a ddywedais oedd bod Ifor Williams a T.H. Parry Williams yn dweud mai Cadair oedd yr enw cywir yn wreiddiol. Yr hyn a ddigwyddodd oedd i ddefnydd llafar o’r enw ei droi yn Cader yn nhafodiaith yr ardal ac mai dyna, erbyn hyn, sy’n cael ei ddefnyddio yn gyffredin.
Ym mysg y dadleuon, yr oedd ambell eglurhad o’r enw yn awgrymu mai o’r gair cadernid y daeth Cader ac un arall yn awgrymu mai enw arall am gaer yw Cader.
Roedd hyn yn fy atgoffa am yr arferiad flynyddoedd yn ôl o geisio egluro ystyr enwau drwy stumio ychydig arnynt i ffitio’r eglurhad. Un o’r rhain oedd yr ystyr a gynigiwyd am enw afon Lledr yn Nolwyddelan. Ceisiwyd egluro ystyr yr enw drwy ddweud mai afon Lled-oer oedd hi ond gwirion iawn oedd hynny, un a gaiff ei brofi’n anghywir wrth roi eich llaw yn ei dyfroedd.
Digwyddodd yr un peth yn achlysurol dros y blynyddoedd am enw Cricieth – pa un ynteu un ‘c’ neu dwy oedd ynddo. Aeth y Dyniadon Ynfyd Hirfelyn Tesog, y grŵp rhyfeddol hwnnw o’r chwedegau a dechrau’r saithdegau, mor bell a recordio cân am yr helynt, sef ‘Sawl C sydd yng Nghricieth’. Bu dadlau mawr ar y mater, er nad oedd o bwys mawr i unrhyw un y tu allan i’r dref honno.
Byddai ambell riant yn cwyno’n rheolaidd i’r ysgol uwchradd leol am fod yr athro Cymraeg yn mynnu sgwennu enw’r lle gydag un ‘c’ yn y canol – a’r athro hwnnw’n gwneud ati er mwyn cael yr ymateb disgwyliedig! Er mwyn corddi’r dyfroedd, aeth ambell un ati i awgrymu fod TAIR C yng nghanol enw Cricccieth ond wnaeth neb fachu’r ‘abwyd’ hwnnw.
Dwi’n gwybod fod rhywbeth dibwys fel sut i sillafu enw’r mynydd neu sawl ‘c’ sydd mewn enw yn bwysig i’r trigolion lleol ond mater llawer mwy difrifol yw’r Seisnigeiddio enwau Cymraeg sy’n dal i ddigwydd gan unigolion a chwmnïau. Yn ystod cyfnod helynt enw’r mynydd, fe ddaeth hi’n hysbys fod sefydliad yr O.S. yn rhoi’r enw ‘Black Rock Sands’ ar eu mapiau yn lle ‘Traeth Morfa Bychan’ neu ‘Traeth y Greigddu’.
Yn ôl yr adroddiad a welais, honnodd yr O.S, fod rhywun yng Nghyngor Gwynedd wedi cadarnhau mai ‘Black Rock Sands’ yw’r enw a arferir yn lleol ond yr hyn a glywaf gan amlaf gan y Cymry lleol yw ‘Traeth Morfa’ neu ‘Morfa’ pan ddywedant eu bod am fynd i lan y môr, felly pa hawl oedd gan y person honedig i ddweud yr hyn a wnaeth wrth yr O.S., hynny yw, os bu’r ffasiwn ymholiad beth bynnag. Dydi’r sefydliad O.S. ddim yn enwog am hybu enwau Cymraeg dros y blynyddoedd. Pwy na all gofio am yr erchyll ‘Nameless Cwm’ ger mynydd y Glyder Fawr yn Eryri? Cwm gyda’r enw Cymraeg hyfryd ‘Cwm Cneifion’, enw hanesyddol sy’n adlewyrchiad o’r cyfnod pan fyddai bugeiliaid yn cneifio eu praidd yn y cwm hwn a’r cneifion, neu weddillion y gwlân oedd ar lawr yn rhoi’r disgrifiad sydd yn enw’r cwm.
Mae pwysau cynyddol i gael deddfwriaeth i amddiffyn enwau Cymraeg ym maes cynllunio er mwyn atal mewnfudwyr rhag newid enwau tai a ffermydd sydd yn rhan o’n hetifeddiaeth ieithyddol.
Byddai’n rheitiach codi twrw yn y cyfryngau cymdeithasol am newid enwau megis ‘Traeth Morfa Bychan’ yn hytrach na’r holl stŵr am ‘Cadair’ a ‘Cader’.
Ac mae angen cadw golwg ar fapiau O.S. am eu bod, hyd y gwelaf yn barod iawn i arddel enw Saesneg dieithr yn hytrach na’r enw Cymraeg cynhenid.
Er bod pethau wedi gwella dros gyfnod o amser, eto sefydliad Seisnig yw’r O.S. Yn y rhestr o’u polisïau, ceir y frawddeg hon yn sôn am yr Iaith Gymraeg: “We will support and facilitate the use of the Welsh language through the appropriate depiction of Welsh names.”
Sut, felly, fod rhoi’r enw ‘Black Rock Sands’ yn unig yn gyson â’r polisi hwn?
Yr ydym wedi hen arfer, bellach, a gweld polisi iaith sy’n edrych yn dda ar bapur ond ddim yn cael ei weithredu yn yr un ysbryd. Dyma un arall ohonynt sy’n profi’r angen am fod ar ein gwyliadwriaeth yn barhaol.