Colofnwyr

RSS Icon
12 Ebrill 2016
Gan LYN EBENEZER

Ynysoedd St Kilda – Gweld y creigiau hyn ym ymwthio’u pennau drwy’r niwl fel deinasoriaid ysglyfaethus fu un o olygfeydd mwyaf arswydus fy mywyd

DAETH pennod drist i ben yn ddiweddar yn hanes y man mwyaf diarffordd y bûm ar ei gyfyl erioed. Y man anghysbell hwnnw yw ynysfor St Kilda, clwstwr o ynysoedd i’r gogledd ddwyrain i Ynysoedd Heledd, neu’r Hebrides, a’r darn tir olaf cyn cyrraedd Canada. Yr wythnos ddiwethaf bu farw’r olaf un o frodorion cynhenid St Kilda, Mrs Rachel Johnson yn 93 oed.

Ymwelais â St Kilda ar gyfer ffilmio dogfen fel rhan o raglenni Hel Straeon hynny ymron chwarter canrif yn ôl. Hedfanwyd ni mewn hofrennydd o ynys Benbecula hanner can milltir allan dros foroedd ffyrnig. Gyda ni roedd un o wardeniaid Ynysoedd Heledd, Cymro Cymraeg.

Wnâi fyth anghofio’r ynysoedd creigiog yn ymddangos drwy’r niwl, clwstwr o bedair ynys. Dyma oedd natur ar ei mwyaf arswydus. I sicrhau glaniad bu’n rhaid i’r peilot hopian ei hofrennydd ar hyd copaon tonnau enfawr cyn disgyn yn simsan ar draeth Village Bay ar Hirta. Y traeth hwnnw oedd yr unig le gwastad.

Rhennir Hirta’n dair ynys gyda Soay i’r gogledd orllewin a Dun i’r de ddwyrain heb ond sianeli culion yn eu gwahanu oddi wrth y fam ynys. Bedair milltir i’r gogledd ddwyrain saif Boreray, sy’n codi fel dant pwdr o safn y môr gyda’i dwy stac, Stac an Armin (643 troedfedd) a Stac Lee (564 troedfedd) o boptu. Gweld y creigiau hyn ym ymwthio’u pennau drwy’r niwl fel deinasoriaid ysglyfaethus fu un o olygfeydd mwyaf arswydus fy mywyd.

Bu cymuned gyfan o ymron ddau gant yn byw ar Hirta ar un adeg. Llwyddent i’w cynnal eu hunain trwy amaethu, pysgota a dal hefyd adar môr i’w bwyta, y pâl yn arbennig. Roedd y gymuned yn gwbl hunangynhaliol, yn crafu bywoliaeth o’r tir diffaith, yn nyddu gwlân y defaid Soay lleol ac yn gwau.

Credir i bobl fyw ar Hirta am dros ddau fileniwm cyn i’r boblogaeth ddechrau edwino wrth i fwy a mwy droi am y tir mawr. Ar y 29ain o fis Awst 1930 ymfudodd y tri dwsin olaf, Rachel Johnson yn eu plith gan adael St Kilda i’r elfennau. Pan wnaethon ni ymweld â’r lle, dim ond warden yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, dau neu dri o wyddonwyr ac ychydig ddwsinau o filwyr oedd yn byw yno. A nawr dyma’r olaf o’r bobl a anwyd ar Hirta wedi marw.

Buom yn ffodus iawn inni gael gweld y lle o gwbl. Gyda ni ar yr hofrennydd roedd athro o’r tir mawr. Roedd hwn wedi ymweld â’r ynysoedd gryn hanner dwsin o droeon ond, oherwydd niwl, heb weld nemor ddim o’r tirwedd. Ond hanner awr wedi i ni lanio dyma heulwen yn chwalu’r niwl a ninnau’n cael gweld y cyfan yn ei holl ogoniant. Yn wir, o fewn pedair awr cawsom fod yn dystion i elfennau tywydd y pedwar tymor.

Un elfen na wnaeth newid oedd y gwynt. Chwythai mor gryf fel mai anodd fyddai sefyll ar ben y clogwyni serth. Mor gryf yw’r gwynt dros St Kilda fel i’r fyddin golli un o’u ‘Land Rovers’ wedi i storm ei chwythu dros y graig i’r môr. Yn ffodus roedd hi’n wag ar y pryd. Ar ei man uchaf, sef Conachair, mae’r clogwyn yn talsythu 1,400 troedfedd uwchlaw’r tonnau, y clogwyn morol uchaf yn y DG.

Nid allfudo i’r tir mawr am fywyd gwell fu’r unig reswm dros i’r boblogaeth edwino. Yn y deunawfed ganrif roedd ymweliadau twristaidd i’r ynysoedd yn boblogaidd iawn. Yn anffodus doedd y trigolion ddim yn gynefin ag unrhyw salwch gwaeth nag annwyd. Cludodd yr ymwelwyr anhwylderau llawer mwy peryglus a difawyd dwsinau o’r ynyswyr gan y colera a’r frech wen.

Dim ond un rhaglen o blith nifer o ddogfennau fu honno ar St Kilda. Fe wnaethon ni ffilmio cyfresi ar y gwahanol wledydd Celtaidd. Gwyliwyd ein pedair rhaglen ar yr Alban gan gyfartaledd o 92,000 o wylwyr. Yn wir, gwyliodd cymaint â 122,000 y bedwaredd raglen. 

Ond o’r fath eironi! Yn fuan wedyn cyhoeddodd mandariniaid Parc Tŷ Glas dranc Hel Straeon. Ar ôl ymron 12eg mlynedd hysbyswyd ni mewn llythyr o dair brawddeg ein bod, fel trigolion St Kilda gynt, i ddiflannu. Beth petai S4C heddiw’n medru brolio cynulleidfa wythnosol o ymron gan mil o wylwyr bob nos Sul?

Ac o ddefnyddio ystadegau, hoffwn i chi ystyried hyn. Yn ystod oes Hel Straeon cynhyrchwyd 2,760 o eitemau sef 230 eitem bob blwyddyn o oes y rhaglen. Hynny heb ystyried dogfennau a chyfresi cyfan. Ac wrth edrych yn ôl erys nifer o eiliadau tragwyddol. Yn eu plith, yn sicr, mae’r ymweliad hwnnw â’r ynysoedd hynny ym merw’r môr ym mhendraw’r byd. W.B. Yates wnaeth fathu’r dywediad ‘a terrible beauty’ mewn cyd-destun cwbl wahanol. Gallai fod wedi ei ddefnyddio i ddisgrifio St Kilda hefyd.

Llun: Ynys Hirta, St Kilda (gan Otter, Wikimedia Commons)

Rhannu |