Colofnwyr
Bwyta blodau tocsig ac osgoi nadroedd!
Cas, atgas bethau Frank Kingdon-Ward oedd nadroedd. Ar wahân i hynny, doedd fawr ddim byd arall yn codi arswyd arno. Dichon mai da o beth oedd hynny, gan iddo dreulio deugain a phump o flynyddoedd yn casglu planhigion yn Burma, Tibet ac Assam.
Fe’i ganed yn 1885 yn Withington, Swydd Gaerhirfryn. Ei dad oedd Yr Athro Harry Marshall Ward, deilydd y Gadair Fotaneg yng Nghaergrawnt. Oedd, mi oedd Frank Kingdon-Ward yn gyw o frid.
Amlygwyd ei hoffter o fyd natur a’i ysbryd anturus, annibynnol yn gynnar iawn. Treuliodd hafau ei blentyndod yn gwersylla ar ei ben ei hun, a nosweithiau’r gaeaf yn darllen yn awchus. Cafodd flas arbennig ar gyfrol Dr Schrimper, ‘Plant Geography’, y llyfr fu’n gyfrifol am danio ei awydd i ymweld â’r coedwigoedd trofannol. O fewn dim iddo raddio o Gaergrawnt cychwynnodd ar ei anturiaethau yn y dwyrain pell. Fe’i penodwyd yn athro yn Ysgol Shanghai ac yn 1907 mi hwyliodd draw i China a chychwyn ar ei antur fawr.
Daliodd ei afael ar ei swydd am ddwy flynedd, gan dreulio’r gwyliau yn archwilio coedwigoedd Java a Borneo. Yn ystod y cyfnod yma daeth i sylw Malcolm P Anderson, y sŵolegydd o America. Roedd hwnnw angen botanegydd ar gyfer ei daith nesaf, ac mi welodd fod addewid yn y cyw casglwr planhigion. Derbyniodd Kingdon-Ward wahoddiad gan Anderson i deithio ar draws canol a gorllewin China a doedd hi fawr o syndod i’w gyflogwyr dderbyn ei lythyr ymddiswyddo.
Erbyn 1911 roedd Arthur Kilpin Bulley, sylfaenydd gerddi Ness, wedi clywed am Kingdon-Ward, ac ym mis Ionawr 1911 roedd gan A K Bulley dipyn o broblem. Bulley oedd cyflogwr George Forrest, un o’r casglwyr planhigion mwyaf llwyddiannus erioed.
Ond er gwaethaf ei gyfoeth (Bulley oedd un o brif fasnachwyr cotwm Lerpwl), methodd ddal ei afael ar George Forrest pan gafodd hwnnw gynnig gwell telerau gan J C Williams o Gastell Caerhays. Gofynnodd Bulley i Kingdon-Ward fynd i archwilio tiroedd Yunnan, cais oedd yn fendith, yn felltith ac yn gyfle heb ei ail.
Ei ddiffyg profiad maes, a nadroedd, oedd dau o’r bwganod cyntaf i wynebu Kingdon-Ward. Disgrifiodd yr unigedd fel parlys, ac anferthedd y dasg oedd o’i flaen fel bwgan yn ei fygwth a’i fychanu. Gwyddai hefyd fod George Forrest yn yr un cyffiniau, a gwyddai am yr ymryson rhwng meistri’r ddau ohonynt. Os oes y fath beth â chrefft o golli’r ffordd, daeth yn feistr arni.
Dro arall bu gymaint ar ei gythlwng nes iddo fwyta blodau Rhododendron, ac mi ddylai botanegydd o bawb wybod am natur tocsig y blodau hynny. Do, mi fu’n sâl fel ci, a do, daeth llwyddiant hefyd. Kingdon-Ward oedd un o’r casglwyr olaf i dreulio cyfnodau maith ar ei ben ei hun yn yr unigeddau ac erbyn diwedd ei yrfa roedd yntau wedi ennill ei le yn oriel yr anfarwolion. Ymhlith ei gyflwyniadau nodedig i’n gerddi mae’r pabi glas Meconopsis betonicifolia, y friallen Fair Primula florindae a’r hynod Rhododendron macabeanum.
Wrth syllu ar felyn ei blodau, a’u staen o sudd eirin, allwn ni ond diolch fod Frank Kingdon-Ward wedi trechu y rhan fwyaf o’i ofnau, ac wedi dysgu dygymod efo’i atgasedd at nadroedd.