Colofnwyr
Cyhoeddi hanes sefydlu clybiau rygbi y gogledd
DROS y degawdau, cyhoeddwyd llawer o gyfrolau yn olrhain hanes sefydlu mudiadau megis pleidiau gwleidyddol, capeli ac eglwysi, clybiau pêl-droed ac yn y blaen. Yn ddieithriad, bron, bu’n rhaid pori drwy bapurau newydd y cyfnod gan nad oedd neb ar ôl i adrodd hanes y sefydlu o safbwynt llygad dyst.
Fy mwriad yw casglu a chyhoeddi hanes sefydlu clybiau rygbi yn y Gogledd, gan ganolbwyntio ar y clybiau yn yr ardaloedd Cymraeg a hynny drwy hel casgliad o straeon difyr am ddigwyddiadau a helyntion o’r cychwyn. Y rheswm dros wneud hynny rŵan yw bod bron pob un a fu ynghlwm wrth sefydlu’r clybiau hyn yn dal efo ni a llawer iawn ohonynt yn dal yn weithredol o fewn eu clybiau.
Yr hyn sy’n dangos pa mor wir yw hynny yw hanes y tro cyntaf i glwb Nant Conwy fynd i chwarae mewn gêm gwpan yn Ne Cymru yn erbyn tîm o’r Cymoedd.
“Rydan ni wedi trefnu chydig o ddiodydd am ddim i’r ddau bwyllgor cyn y gêm,” meddai’r deheuwr. “Dwedwch wrth eich pwyllgor am ddod draw i’r clwb – tamaid o fwyd a chydig o beintiau.”
“Fedra i ddim gwneud hynny,” oedd yr ateb, “mae ein pwyllgor ni i gyd yn chwarae.”
Roedd y cyfnod o ganol y chwedegau hyd ganol y saithdegau yn gyfnod o chwyldro ac o newid yn agwedd y Cymry tuag at eu hiaith a’u cenedl. Heblaw am y newidiadau gwleidyddol, arweiniodd y deffro hwn at sefydlu mudiadau fel Merched y Wawr a nifer fawr o bapurau bro ar hyd a lled y Gymru Gymraeg a thu hwnt.
Ar yr un adeg, cafwyd yr hyn a elwir yn ‘oes aur’ rygbi Cymru, gyda thîm o fawrion y gamp yn ennill pencampwriaeth ar ôl pencampwriaeth a sawl choron driphlyg a champ lawn. Dan ddylanwad y deffro cenedlaethol a’r llwyddiant ar y cae rygbi rhyngwladol, symbylwyd nifer o bobl i sefydlu clybiau rygbi yma ac acw a chlybiau Cymraeg eu hiaith a’u hagwedd oeddynt i bob pwrpas. O Fethesda i Fro Ffestiniog ac eraill yn y saithdegau, wedyn i Nant Conwy a’r Bala ar ddechrau’r wythdegau, gosodwyd seiliau cadarn sydd wedi dwyn ffrwyth erbyn hyn.
Gan fod y cof yn dal yn fyw am ddyddiau cynnar y clybiau hyn, fy mwriad yw ceisio llunio cyfrol o straeon sy’n rhan o chwedloniaeth bob clwb ac yn dal i’w cael eu hadrodd hyd heddiw. Wrth gwrs, mae gan bob clwb rygbi (a chlwb pêl-droed hefyd) eu straeon am gymeriadau a digwyddiadau ond fy mwriad yw cofnodi’r rhai am y clybiau a sefydlwyd yn ystod y cyfnod hwn. Byddwn wrth fy modd yn cael eu clywed gan y rhai a ‘oedd yno’ ar y pryd’ un ai mewn llythyr neu e-bost, mewn sgwrs breifat neu mewn noson gyhoeddus. Wedi’r cyfan, mae’r straeon hyn yn ddifyr iawn i bawb, er iddynt berthyn i unigolion mewn un clwb.
Sut fath o straeon felly? Wel, un ai straeon am ddigwyddiadau ar y cae neu oddi ar y cae, neu hyd yn oed am ddigwyddiadau ar deithiau – er fy mod yn parchu’r ymadrodd fod ‘yr hyn sy’n digwydd ar daith yn aros ar y daith’ (yn Saesneg -’what happens on tour stays o’n tour’). Dyma un enghraifft:
Taith rygbi gyntaf Nant Conwy oedd i swydd Efrog yn Lloegr. Digwyddodd amryw o bethau ‘rhyfedd’ yn ystod y daith ond yn dilyn y gêm olaf a chwaraewyd yn erbyn Ripon, daeth yr heddlu i’r bws cyn i ni gychwyn yn ôl a mynnu fod pawb ar y bws yn sgwennu ei enw a’i gyfeiriad cyn cael gadael am Gymru. Pan gyrhaeddodd y rhestr i’m llaw, fe fu bron i mi dagu. Roedd edrych arni fel edrych ar hanes Cymru! Enwau megis Llywelyn Fawr, Owain Glyndŵr, Dafydd Iwan yn cael eu dilyn gan Wiliam Morgan a Gwynfor Evans. Rhywle ar y rhestr oedd Wil Cwac Cwac ac ambell gymeriad arall! Ond bodlonwyd yr heddlu ac fe gawsom adael.
Daw sawl enghraifft arall oddi ar y cae chwarae. Defnyddir galwadau llinell er mwyn i’r taflwr wybod at bwy i daflu’r bêl ond heb fod y gwrthwynebwyr yn deall. Felly, mae gan bob tîm ei alwadau. Ar y dechrau, defnyddid enwau ffermydd fel galwadau gan Nant Conwy cyn newid yn ddiweddarach i drefn rhifau. Yr oedd un clwb na wnaf ei enwi yn defnyddio trefn ABC, sef os oedd enw tref yn dechrau efo A, megis Aberystwyth, yna i flaen y llinell yr ai’r bel, B i’r canol a C i’r cefn. Crëwyd cryn drafferth pan alwyd yr enw Aldershot, gyda phawb yn edrych ar ei gilydd ar ôl, yn eu tyb hwy, glywed y llythyren O!
Felly, fe fyddwn yn falch o gael clywed straeon gan rai ohonoch chi sy’n darllen y golofn hon.
Rwyf wedi cysylltu gyda’r clybiau ac yn disgwyl ymateb er mwyn creu cyfrol pur gyflawn a difyr a fydd yn rhoi’r straeon hyn ar gof a chadw cyn ei bod yn rhy hwyr.