Colofnwyr

RSS Icon
01 Ebrill 2016
Gan ARTHUR THOMAS

Arthur Thomas - Angen rhoi hwb i'r traddodiad gwerin

MAE gen i ddiddordeb mewn cerddoriaeth ers yn ddim o beth. Efallai nad yw hynny’n syndod o gofio i mi gael fy magu ar aelwyd gerddorol. Ond mae gen i ofn fy mod yn colli diddordeb mewn ambell fath o gerddoriaeth – hynny yw, y math o gerddoriaeth sy’n dod yn fwy a mwy poblogaidd yma yng Nghymru.

Dim ond edrych ar ddiwedd cystadleuaeth Cân i Gymru a wnes. Rhaid dweud ar y dechrau fel hyn na fu i mi glywed y caneuon i gyd, dim ond yr un fuddugol, felly efallai i mi golli cân a fyddai at fy nant. Ond am yr un fuddugol, dim diolch.

Yr oedd y cantorion yn rhyw udo canu gan wneud sŵn ar adegau a ymdebygai i’r hyn a glywais gan lond cwt o loi.

Dwi’n gwybod fod amryw am ddweud fy mod yn rhy hen i werthfawrogi canu cyfoes neu’n gwybod dim am y math hwn o ganu. Digon teg, ond rhaid cofio fy mod yn meddu ar glust gerddorol a bod sŵn aflafar yn merwino’r glust honno.

Na, yr udo ar ddiwedd cymal neu frawddeg yw’r broblem, gan ddifetha yr hyn a all, fel arall, fod yn harmoni digon derbyniol. Ac mae gen i ofn fod udo hwn wedi mynd yn rhywbeth cyffredin yn y canu diweddar.

Mae hyn yn fy arwain at fater arall sy’n dipyn o boen i mi, sef y gor-bwyslais cynyddol ar y math o ganu a geir mewn sioeau cerdd. Ceir perfformiadau a chystadlaethau ar y math hwn o ganu hyd syrffed ar ein cyfryngau ac yn ein heisteddfodau, nes disodli, bron, y traddodiad clasurol a’r traddodiad gwerin sydd wedi eu gwreiddio yn ein diwylliant. Ofnaf fod y cyfryngau yn dal i edrych ar y traddodiad gwerin fel rhyw ‘fiwsig Mici Mows’ tra bo grwpiau ifanc, byrlymus fel Calan a 9bach ac unigolion fel Gwenan Gibbard yn agor drysau ein traddodiad gwerin i gynulleidfa ryngwladol yn ystod eu teithiau tramor.

Cofiaf glywed y diweddar Ronnie Drew o’r Dubliners yn dweud sut y byddai poblogaeth drefol, ‘soffistigedig’ Dulyn yn edrych yn ddirmygus ar gerddoriaeth werin Iwerddon hyd nes y dechreuodd grwpiau fel y Dubliners ei boblogeiddio. Diolch ar yr un pryd i ymdrechion Sean O’Riada a ddaeth â’r traddodiad hwn i amlygrwydd yn y byd darlledu.

Rhaid cofio fod gennym ninnau le i ddiolch am y gwaith a wnaed gan y diweddar Meredydd Evans i boblogeiddio canu ysgafn a chanu pop Cymraeg ac wedyn y canu gwerin. Ond ar ôl iddo ein gadael, pwy sydd ar ôl yn y byd darlledu i barhau â’r gwaith hwn?

Ymddengys fod y math o weledigaeth a oedd ganddo bellach wedi ei chyfyngu i raglenni prin megis y ‘Sesiwn Fach’, a’r agwedd eto yn amlwg yw os ydych eisiau rhywbeth fel hyn, fe’i cadwn oddi ar y rhaglenni dyddiol a rhoi lle amlwg ar y rhai hynny i ganeuon poblogaidd yn y Gymraeg neu yn Saesneg. 

Ond bellach, mae ‘Sesiwn Fach’ wedi dod i ben a beth sydd yn ei le  Rhyw gyfiawnhad gwan a glywais oedd bod awr olaf rhaglen Georgia Ruth wedi ei neilltuo i ganu gwerin. Oni fyddai’n gwneud synnwyr felly i rannu’r rhaglen yn ddwy a galw’r ail un yn ‘Sesiwn Fach’? Neu a yw hynny’n rhy gymhleth i’r rhai sy’n trefnu rhaglenni?

Fe ddywed rhai mai’r rheswm fod cymaint yn anelu at ganu caneuon o’r Sioeau Cerdd yw nad ydynt yn ddigon da i lwyddo yn y byd clasurol. Dwn i ddim ai gwir ai peidio’r gosodiad hwnnw, ond rhaid cofio fod llawer o gantorion ifanc yn llwyddo yn y byd clasurol tra bydd y rhai sy’n anelu at y byd sioeau cerdd yn cyrraedd pen draw’r daith gerddorol honno yn fuan iawn ac yn gorfod troi at yrfa arall er mwyn ennill eu bara menyn.

Byddai’n well codi proffil y canu gwerin traddodiadol a thrwy hynny greu ymwybyddiaeth ryngwladol a fyddai’n golygu fod mwy o alw am gantorion a cherddorion gwerin a fydd, yn y pen draw, yn gallu dilyn gyrfa yn y maes .

Mae’r ymroddiad yno o du grwpiau ac unigolion – ond a oes digon o bobl yn y cyfryngau sydd a ‘chydig o ymwybyddiaeth Gymreig i roi hwb i’r traddodiad gwerin er mwyn ei boblogeiddio?

Rhannu |