Colofnwyr

RSS Icon
31 Mawrth 2016
Gan GERALLT PENNANT

Gardd Gerallt - Blodau sy’n swyno ydy teulu’r Erythronium

DYMA hi bron yn bythefnos ers troi’r cloc, y cennin Pedr wedi crino a Twm Elias wrth fy mhenelin.  Wel, llyfr Twm, ‘Tro Drwy’r Tymhorau’ sydd yma yn hytrach na’r gamaliel barfog ei hun. 

Sylwi ddaru mi ar gofnod gan Twm Elias am ddywediad o ardal Nefyn yn y bennod am fis Ebrill.  “Chynhesith hi ddim tan fydd y cennin Pedr wedi crino,” meddai pobl Nefyn. Siawns bod pobl y penwaig yn llygaid eu lle. 

Os oes mymryn o hiraeth am flodau’r gwanwyn cynnar, buan iawn daw eraill i lenwi’r bylchau wrth i’r dydd ymestyn a’r pridd gynhesu. 

‘Dwi wedi bod yn cadw golwg ar ddail llyfn yr Erythronium yn gloyw ddatod o’r pridd ers rhai wythnosau.

Echdoe daeth y blodyn cyntaf, yn siriol felyn yn llygaid llwynog o haul.
Fel cymaint o’r blodeuwyr cynnar, planhigyn coedwig ydy’r Erythronium dens-canis.

Os oes ganddoch eirlysiau yn yr ardd eisoes mi fydd hwn yn tyfu’n fodlon yn yr un cynefin.

Oherwydd ei apêl a’i harddwch mae’n blanhigyn braidd yn ddrud i’w brynu yn y lle cyntaf ond unwaith bydd wedi sefydlu mi ddaw cynnydd blynyddol wrth i’r bylbau ddodwy.

Siâp y bylbau ydy tarddiad yr enw Erythronium dens-canis, pob un yn fain fel cilddant ci. 

Hwn ydy’r Erythronium sy’n gynhenid i dir mawr Ewrop ac Asia, ac yn ogystal â’r blodau melyn ceir ffurfiau gwynion, pinc a lelog ysgafn. 

Un blodyn geir ar bob coesyn o linach Erythronium dens-canis, a phan welwch chi goesau’n drwm o flodau dyna’r arwydd bod y planhigyn yn hanu o America.

Califfornia ydy cynefin Erythronium tuloumnense ac fel cymaint o bethau’r dalaith heulog honno mae’n fwy ac yn lledaenu’n gyflymach na’i gefndryd o’r hen fyd. 

Er yn ddrud i’w brynu, buan iawn y bydd hwn yn dodwy a chynyddu. 

Blodyn melyn llachar sydd gan hwn ac mae’n rhiant i nifer o groesiadau hardd. 
Un o’r croesiadau yma ydy Erythronium ‘Pagoda’ sy’n lledaenu hyd yn oed yn gynt na’i riant. 

Erythronium ‘Pagoda’ a ‘White Beauty’ ydy’r ddau fath sydd yn cael eu cynnig yn y rhan fwyaf o ganolfannau garddio. 

Ceir rhwng dau a phump o flodau ar bob coesyn, weithiau hyd at ddeg.   

Mae’r gair pagoda yn ddisgrifiad perffaith o’r tro sydd yn y petalau ac mae’n werth codi’r blodyn i weld y cylch browngoch sydd yng nghanol pob un. 

Os mai cyffelybiaeth efo dant ci roddodd enw i’r planhigyn Ewropeaidd, cefn brithyll ydy tarddiad enw cyffredin yr Erythronium yn America.

Hawdd ydy gweld sut digwyddodd hynny gan fod y dail brith yn debyg iawn i wibiad y brithyll rhwng haul a chysgod ar wely caregog yr afon.

Gyda llaw, mae’r enw ‘Trout lily’ dipyn agosach i’w le yn fotanegol na ‘Dog’s-tooth violet’, gan nad oes arlliw o berthynas rhwng yr Erythronium a theulu’r fioled.

Blodau sy’n swyno ydy teulu’r Erythronium.

Er gwaetha’r gost o’u prynu, dyma flodau sy’n talu ar eu canfed mewn gardd.  

Os oes rhai acw eisoes, gwyn eich byd, os na, mae’r dyddiau a’r wythnosau nesaf yn gyfle i’w gweld ar eu gorau yn y canolfannau garddio. Pan ddaw Mai mi ellir codi a gwahanu sypiau aeddfed o blanhigion.

“Glaw mis Mai wna gadlas lawn”; diolch eto Twm Elias.

Rhannu |