Colofnwyr

RSS Icon
29 Mawrth 2016
Gan LYN EBENEZER

Mae bod yn Nulyn unrhyw bryd i mi yn ddathliad

Ddydd Sul  gwyliais gyda chryn ddiddordeb adroddiadau’r gwahanol newyddion teledu ar ganmlwyddiant Gwrthryfel y Pasg 1916 yn Nulyn. Cyndyn iawn fu bwletinau’r BBC i ganolbwyntio ar y digwyddiad. Ac ar fwletin 6.25 S4C, dyna oedd yr eitem newyddion olaf cyn y newyddion chwaraeon. Ar y llaw arall, ar Sky News cafwyd sylw byw a llawn o’r brif seremoni y tu allan i’r Swyddfa Bost am hanner dydd. A thrwy’r prynhawn wedyn, dyna fu prif bennawd y newyddion.

Wrth i mi wylio’r coffâd llifodd atgofion yn ôl o’r dathliad hanner-canrif yn nôl yn 1966. Hwnnw fu fy ymweliad cyntaf erioed ag Iwerddon. Euthum draw yng nghwmni Cayo Evans, ei gefnder Eddie Griffiths a Peter Goginan. 

Cafwyd cryn hwyl ar y llong fferi ar y ffordd drosodd. Atgoffwyd fi’n ddiweddar o un digwyddiad doniol. Daethpwyd o hyd i allwedd oedd rhywun wedi ei cholli. Dros yr uchelseinydd clywsom neges yn hysbysu’r teithwyr o hynny. Yna dyma’r neges yn mynd ymlaen, ‘A wnaiff Mr Dafydd Dafis, Ffos-y-ffin ddod i’r dderbynfa i gasglu ei allwedd.’

Ymunwyd â ni ar y llong gan nifer o gyfeillion, yn eu plith Neil ap Siencyn. Nodais yn y golofn hon adeg ei farwolaeth ddigwyddiad cofiadwy o’r fordaith. Roedd Neil yn ffasiynol iawn mewn siwmper Aran wen, a la y Brodyr Clancy. Erbyn i ni gyrraedd glan, a Neil wedi llowcio’n helaeth o ddiod Mr Arthur Guinness, roedd ffrynt y siwmper yn cario addurn. Wrth i Neil lowcio, fe wnaeth y ddiod ddiferu o fargodion eithaf ei fwstas gan redeg yn ddwy linell unionsyth cyflinellol i lawr ei siwmper.

Roedd Peter Goginan wedi paratoi’n ofalus ar gyfer ei ymweliad drwy ddysgu araith Robert Emmet yn y llys. Cawsom ragflas ohoni ym mar y llong, a’i fwriad oedd ei hadrodd yng ngwahanol dafarnau Dulyn gan ddenu ambell beint am ei orchest. Dyma ni’n glanio a dal y trên am Wexford. Yno, wrth dynnu allan o’r stesion fe wnaethom, ar alwad Cayo, neidio allan yn sydyn er mwyn colli dau heddwas cudd oedd yn ein dilyn. A dyna pryd wnaethon ni sylweddoli nad oedd Goginan gyda ni mwyach.

Credem yn naturiol i Peter fethu â neidio allan mewn pryd. Ddim ond ar ôl mynd adref y gwnaethom ddeall y gwir. Aethai’r dablen ar y llong yn rhy gryf iddo. Syrthiodd i gysgu a llithrodd o’i sedd i’r llawr o dan y bwrdd. Dihunodd yn ôl yn harbwr Abergwaun.

Cawsom lety yng Ngwesty Morans yn Talbot Street gydag wyth ohonom yn siario un stafell. Yna, ar y dydd Sul dyma fynd tuag at y Swyddfa Bost i’r dathliadau. Cawsom fod yna ddwy orymdaith wedi eu trefnu. Ymunodd y rhelyw o blant bach da Cymru â gorymdaith swyddogol y Llywodraeth. Fe wnaethom ni, yn naturiol, ymuno â’r orymdaith Weriniaethol. Ar y ffordd i Fynwent Glasnevin oedwyd y tu allan i Garchar Mountjoy, lle’r oedd carcharorion Gweriniaethol dan glo. Taniwyd ergydion i’r awyr.

Bu’n benwythnos i’w gofio, petawn i’n medru cofio. Erys ambell frith atgof; un yn arbennig. Treuliais ddwy neu dair awr yng nghwmni Stephen Behan, tad Brendan, Dominic a Brian ym Mooneys ar Sgwâr Parnell. Roedd y dyn bach wedi derbyn gwahoddiad swyddogol i’r dathliad oddi wrth de Valera. Tynnodd y gwahoddiad allan a phoerodd arno. Bygythiwyd ni gan bedwar llabwst nes iddynt ddeall pwy oedd y dyn bach tanllyd. Dihangfa gyfyng!

Un noson roeddwn i wedi crwydro ar fy mhen fy hun ac ar goll. Gofynnais i blismon am gyfeiriadau tua’r gwesty. Penderfynodd fy hebrwng yno. Yn wir, wrth y drws penderfynodd fy nilyn i mewn. Diosgodd ei het plismon, eisteddodd wrth y bar ac archebodd beint yr un i ni. 

Yr ymweliad hwnnw â Dulyn fu’n gyfrifol am i mi syrthio mewn cariad â’r lle ac â’r bobl. Erbyn hyn mae’n rhaid fy mod i wedi bod yno dros drigain o droeon. O fewn un flwyddyn yn yr wythdegau bûm yno ddeuddeg gwaith. Bûm yno ddwywaith eisoes eleni a bwriadaf ddychwelyd ddiwedd y mis.

Cefais gerydd yn ddiweddar am ddisgrifio’r coffâd eleni fel dathliad. Mae bod yn Nulyn unrhyw bryd i mi yn ddathliad. Ac oni ddylem edrych ar Wrthryfel y Pasg fel dathliad yn ogystal â choffâd? Wedi’r cyfan, mae Prydain yn dathlu penblwyddi rhyfeloedd a brwydrau byth a hefyd. Pam ddim y Gwyddelod? Yn wahanol i ni, mae ganddyn nhw rywbeth i’w ddathlu. Fe wnaeth y Gwyddel roi cic solet yn setîn ymerodrol yr hen Fritannia. Ymgreinio o’i blaen fyddwn ni.

Rhannu |