Colofnwyr

RSS Icon
21 Mawrth 2016
Gan ARTHUR THOMAS

Llond bol gyda dadleuon Ewrop

MAE’N amlwg fod llawer iawn o’r cyhoedd wedi cael llond bol yn barod gyda’r dadleuon dros aros neu adael Ewrop a geir hyd syrffed ar y teledu ac yn y papurau dyddiol. Yn nhyb y cyfryngau Seisnig, dyma’r unig bleidlais sydd i’w chynnal, felly mae angen atgoffa pawb yng Nghymru fod etholiadau’r Cynulliad yn cael eu cynnal ym mis Mai.

Nid yw’r ddadl dros Ewrop yn bwysig yng nghyd-destun yr etholiadau hyn am nad yw’r cyfrifoldeb am Ewrop yn fater datganoledig.

Ydi, mae’n wir fod arian o Ewrop yn bwysig iawn i gynnal amaethyddiaeth ac i geisio adfer ardaloedd difreintiedig ond nid ar sail hynny yr etholir y cynrychiolwyr i’r Senedd yng Nghaerdydd. Felly, anghofiwch yr hyn a welwch yn y papurau dyddiol Seisnig am nad yw’r Cynulliad, na Senedd yr Alban yn bwysig iddynt. Na, dadlau am Ewrop a wnânt, ac yn amlach na heb dros ddod allan o’r sefydliad hwnnw

Un datblygiad digon afiach yw bod UKIP yn rhoi ymgeiswyr i sefyll ar gyfer y Cynulliad. Dyma blaid wleidyddol sydd yn erbyn y syniad o gael llywodraethau datganoledig, eto maent yn fodlon ymladd am seddi ynddynt fel y gwnaethant ennill seddi a’u llenwi yn Senedd Ewrop – sefydliad arall y maent yn ei wrthwynebu.

Rhagrith o’r mwyaf yw derbyn cyflog a chostau hael gan sefydliad y maent yn brwydro i’w ddileu ac felly y bydd pethau, hefyd, os cânt droedle ym Mae Caerdydd. Ac yn ôl yr arolygon barn – os gellir eu coelio – mi fydd UKIP yn ennill hyd at naw sedd!

Ond i blaid sydd heb wreiddiau yn naear Cymru, mae cael ymgeiswyr yn dipyn o broblem. Ymddengys fod cryn anniddigrwydd ym mysg y rhai sy’n ei chefnogi gan fod y blaid yn ganolog – hynny yw yn Lloegr – yn mynnu gwthio eu hymgeiswyr hwy arnynt. Mewn geiriau eraill, eu parasiwtio i mewn. Cofiwch i bleidiau eraill wneud hynny yn eu tro ond nid ystyriaeth Gymreig yw’r cymhellion yn yr achos hwn.

Y ‘parasiwtiwr’ sy’n creu’r stŵr mwyaf yw Neil Hamilton. Chwi gofiwch i hwn, pan yn aelod seneddol Torïaidd, anfarwoli ei hun yn helynt yr ‘amlenni brown’ neu’r sgandal holi cwestiynau yn y Senedd am bris, felly nid yn unig ei fod wedi cael ei ‘ddewis’ i sefyll ar restr Canolbarth Cymru ond fe ddaw yno gyda chwmwl du uwch ei ben.

Er ei fod wedi ei eni yng Ngwent cyn symud i Rydaman, lle yr aeth i’r ysgol uwchradd, does dim cadernid Cymreictod i un, yng nghwmni ei wraig, a ffilmiwyd ddeng mlynedd yn ôl mewn gwisg pêl-droed Lloegr yn canu cân i Loegr cyn Cwpan y Byd 2006!

Ai dyna’r math o aelod y mae etholwyr y Canolbarth yn ei haeddu? Choeliai fawr. Felly, chwi Gymry twymgalon yr ardal honno, ewch ati i rybuddio eich cyfeillion a’ch cymdogion rhag cael eu twyllo i gefnogi’r blaid hon ar yr ail bapur pleidleisio (na’r cyntaf chwaith).

Mae’r un peth yn wir am un arall o’r parasiwtwyr. Ar ôl bod yn aelod seneddol Torïaidd yn Ne Lloegr fe drodd Mark Reckless at UKIP ond methodd ag ennill sedd yn senedd Lloegr. Felly dyma barasiwtio un nad oes ganddo ddim math o gysylltiad â Chymru (nid oes ganddo hyd yn oed gi o’r enw Taff!) i sefyll ar restr Dde Ddwyrain Cymru.

Rhydd i bawb ei farn ac i bob barn ei llafar medd yr hen air ond gan fod cryn amheuaeth am gymhellion y bobl hyn wrth sefyll ar gyfer y Cynulliad, yna rhaid ymatal rhag rhoi cyfle iddynt ddibrisio’r sefydliad hwnnw.

Er mwyn cynnal a gwella hygrededd y sefydliad hwn yn wyneb cryn amheuaeth yn ei gylch ar adegau, mae’n rhaid ethol aelodau gwerth eu halen, rhai sy’n credu yn nyfodol datganoli.

Y peth diwethaf sydd ei angen yw rhai o’r tu allan sy’n ceisio dod i’r Cynulliad am resymau hollol annheilwng. A’r peryg wedyn yw y byddai’r Torïaid yn barod i gydweithio gyda’r giwed hon i ffurfio llywodraeth yn y Bae. Dyna fyddai cachfa go iawn i Gymru.

Rhannu |