Colofnwyr

RSS Icon
15 Mawrth 2016
Gan LYN EBENEZER

Disgrifiai’r wraig fy chwyrnu fel gwrando ar lori wartheg yn dringo Bwlch yr Oernant

Fe fu yna adeg pan fyddwn i, mae’n debyg, yn chwyrnu’n annioddefol. Nid yn annioddefol o’m rhan i ond yn hytrach yn annioddefol i unrhyw druan a fyddai’n ceisio cysgu o fewn canllath i mi. Neu’n waeth byth, yn siario fy ngwely. Golygai hynny, wrth gwrs, mai Jên, y wraig fyddai’r prif ddioddefwr. Sylwch, gyda llaw, i mi gyfeirio at y gorffennol. Erbyn hyn dydw’i ddim yn chwyrnu unrhyw beth yn debyg i’r hyn fyddwn i gynt. Unwaith eto, nid fi sy’n tystiolaethu i hyn ond eraill. A Jên yn arbennig.

Dim ond rhywun sy’n gorfod siario stafell, neu’n waeth fyth wely, â chwyrnwr a ŵyr pa mor annioddefol y gall y profiad fod. Ac mae’r dulliau a argymhellir ar gyfer lleddfu neu atal chwyrnu’n lleng. Yr awgrym hawsaf yw i’r chwyrnwr orwedd ar ei ystlys. Y mwyaf dyfeisgar yw masg, gyda phwmp trydan yn chwythu aer lawr eich ysgyfaint. Fe wnes i roi cynnig ar y ddau, ond heb unrhyw lwyddiant.

Do, fe fûm yn chwyrnwr o fri. Disgrifiai’r wraig fy chwyrnu fel gwrando ar lori wartheg yn dringo Bwlch yr Oernant. Medrwn, meddai hi, fod wedi ennill capiau i Gymru am chwyrnu. Ond fe fyddai gen i hyd yn oed wedyn gryn ffordd i fynd cyn curo chwyrnu Jenny Chapman o Swydd Gaergrawnt. Roedd synau chwyrniadau Ms Chapman yn 111 Decibel. Nawr, wn i ddim beth yw uchder Decibel. Ond yn ôl arbenigwr a fesurodd lefel rhochian Ms Chapman, chwyrnai’n uwch na sŵn troellwr dillad, lori disel, tractor, trên cyflym a hyd yn oed awyren jet.

Yn anffodus ystyrir chwyrnu’n uchel fel jôc, yn union fel yr ystyrir y gowt. Ond mae yna wahaniaeth mawr. Yn achos chwyrnu, eraill sy’n dioddef. Yn achos y gowt, chi eich hun sy’n dioddef. A gwn o brofiad. Do, fe wnes i ddioddef o’r gowt hefyd.

Na, nid jôc, o bell ffordd, yw’r naill na’r llall. Yr unig fantais o ddioddef o’r gowt yw na fedrwch gysgu yn y lle cyntaf. Golyga hynny na wnewch chi chwyrnu, hynny’n golygu noson esmwyth o gwsg i’ch cymar, neu bwy bynnag sydd o fewn clyw.

Yn ôl yr ystadegau mae dros 40 y cant ohonom sydd dros y deugain oed yn chwyrnu, 19 y cant yn fenywod. Honna 59 y cant fod eu partner yn chwyrnu. Mae hyd yn oed 5.6 y cant o blant yn chwyrnu. Ac mae 28 y cant o chwyrnwyr yn dioddef o’r hyn a elwir yn ‘sleep apnoea’. Nawr mae ‘apnoea’ yn golygu fod y chwyrnwr, ar brydiau, yn peidio ag anadlu am gyfnodau sylweddol - deng eiliad a mwy ar y tro - a gall hynny, dros amser, effeithio ar bwysau’r gwaed ac ar y galon.

Ond chwi chwyrnwyr, llawenhewch, mae yna waredigaeth ar y gorwel. Hwyrach i ddulliau eraill fethu, eich cymar yn pinsio’ch trwyn, gwnïo pêl golff ar gefn eich crys nos, chwistrelliadau, dyfeisiadau dirifedi. Ond nawr mae coler gwactod ar gael sy’n tynnu’r gwddf yn agored tra’ch bod chi’n cysgu gan gadw’r biben aer yn glir.

Ond yn ôl rhai arbenigwyr, does yna ddim ateb llwyr ar wahân i newid eich ffordd o fyw. A dyna beth wnes i. Nid o fwriad ond drwy gyd-ddigwyddiad. Fe’m deiagnoswyd â chlefyd y siwgr. Nid y math gwaethaf ond y math y gellir ei reoli gan dabledi. Cynghorwyd fi i dorri lawr ar siwgr. Peth anodd ar y naw i rywun sy’n ffoli ar bethe melys. Ond fe wnes. Yn ei dro achosodd hyn i mi golli pwysau. Rwyf lawr ers tro bellach o dan 11 stôn. Ac yn teimlo’n llawer iachach o’r herwydd. Mae hyd yn oed y gowt wedi lleddfu.

Dydw’i ddim wedi gweld eisiau siwgr yn fy nhe na’m coffi. Fydda’i ddim yn yfed seidir melys. Ceisiaf fy ngorau glas i osgoi cacennau da odiaeth Mr Kipling. Dim siocled - wel llai, beth bynnag. Ac er mawr lawenydd i’r ‘lady wife’ mae’r chwyrnu wedi gostegu.

Ond druan o’r chwyrnwr. Does gan neb gydymdeimlad ag ef neu hi. Fel y dywedodd Anthony Burgess unwaith, ‘Chwarddwch, ac fe chwardda’r byd gyda chi. Chwyrnwch, ac fe gysgwch ar eich pen eich hun.’  

Rhannu |