Colofnwyr

RSS Icon
15 Mawrth 2016
Gan ARTHUR THOMAS

Yfed saith potel o win cyn gyrru car!

MAE’N anodd credu rhai o’r straeon a welwch mewn papur newydd. Nid sôn a wnaf am y prif straeon, er mor anghredadwy yw safbwyntiau rhai o’r gohebwyr ar adegau . Na, sôn a wnaf am y pytiau bach sy’n llenwi corneli ym mhob papur, bellach. Gweld y stori hon a wnes yn y ‘Metro’, y papur boreol hwnnw a rennir am ddim yn ninasoedd Lloegr (a Chaerdydd, dwi’n meddwl).

Yr oedd gwraig o flaen Llys yn Nottingham am iddi falu ei char Mercedes, a hynny dan ddylanwad alcohol. Cafodd ddedfryd o garchar gohiriedig a’i gwahardd rhag gyrru. Ond yr hyn a greodd syndod oedd iddi honni yn y llys ei bod wedi yfed saith potel o win cyn gyrru’r car. Ia, SAITH potel, cofiwch. Mi wn petawn i yn yfed saith potel o win fyddwn i ddim yn gallu gweld y car heb sôn am geisio ei yrru! Na, ar fy nghefn y byddwn i a hynny mewn trwmgwsg . Dyn a ŵyr beth oedd ar ei phen hi’n yfed cymaint. Mae gwneuthuriad ei char yn awgrymu arogl pres ac, efallai, ei bod yn byw bywyd bras!

Cofiaf i gyfaill a weithiai yn y gwasanaeth ambiwlans ddweud wrthyf ryw dro am yr enghraifft waethaf o yrru dan ddylanwad alcohol a wyddai amdano. Gwyddel oedd gyrrwr y car a chyn cychwyn ar ei daith am y fferi yng Nghaergybi bu’n yfed yng nghanolbarth Lloegr ac ar hyd y daith, yfai botel wisgi wrth yrru. Pan stopiodd y car ar derfyn ei daith, agorodd y drws a syrthiodd allan ar y palmant. Credai ei fod wedi cyrraedd Caergybi ond ar y palmant yn Waunfawr y syrthiodd! Roedd hi’n wyrth ei fod wedi cyrraedd y fan honno am fod lefel yr alcohol yn ei waed yn awgrymu y dylai fod wedi marw 

Mae hanesion am yrwyr meddw yn gyffredin iawn yn nhudalennau papurau lleol Iwerddon. Ambell dro, pan yn Llundain, caf afael ar bapurau lleol Gorllewin Iwerddon ac ynddynt ceir hanes achosion llys sydd yn ymwneud â gyrru dan ddylanwad y ddiod.

Ond y gwaethaf i mi gofio yw’r achos  a gafwyd  llynedd yn llys Ennis. O flaen y llys oedd gŵr oedd yn cael ei gyhuddo o yrru i fyny traffordd y ffordd anghywir ar gyflymdra o dros gan filltir yr awr. Clywyd fod ganddo 247 dedfryd o achosion blaenorol, gan gynnwys 23 am yfed a gyrru. Yr oedd eisoes wedi ei wahardd rhag gyrru am 30 mlynedd ac ychwanegwyd deng mlynedd arall at y gwaharddiad. Wrth ei ddedfrydu, dywedodd y barnwr wrtho am beidio dod o Gorc eto ac iddo dreulio ei amser yn gwylio’r teledu o hyn ymlaen!

I gwblhau’r casgliad o achosion eithafol o yfed a gyrru, dyma hanes o Seland Newydd. Tua chwarter wedi hanner nos un noson, arestiwyd bachgen ifanc pymtheg oed am yrru o dan ddylanwad alcohol. Yr oedd dair gwaith a hanner dros y lefel gyfreithiol – er doedd dim manylion yn yr adroddiad am gefndir yr achos. Gwnaed iddo wneud galwad ffôn i’w gartref a daeth ei fam yno i’w nôl. Ond ar y ffordd i swyddfa’r heddlu, cafodd hithau ei stopio a methodd brawf anadl – yr oedd ddwywaith dros y lefel gyfreithiol.

Ffoniodd ei phartner a gofyn iddo ddod i nôl y ddau ohonynt a do, cafodd yntau ei ddal yn gyrru dros y lefel gyfreithiol. Felly, y noson honno cafodd tri aelod o’r un teulu eu dal a’u cadw yn swyddfa’r heddlu. Mae sôn o hyd am yr angen i deuluoedd dreulio amser gyda’i gilydd ond go brin mai celloedd yr heddlu yw’r lle delfrydodd i hynny ddigwydd!

Mae’r enghreifftiau hyn yn rhai eithafol ond gwn fod llawer gormod o yrrwyr yn dal i yrru eu ceir wedi iddynt fod yn yfed. Erbyn heddiw, fyddai ddim yn cymryd diod, hyd yn oed siandi, os wyf yn mynychu cyfarfod mewn tafarn ac yn gorfod gyrru adref wedyn. Heb sôn am y gost am gael eich dal, mae’n beryglus i deithwyr eraill ar y ffordd.
(Yn wahanol i’r ‘arbrawf’ gwirion a gafwyd ar  S4C yn ddiweddar ,nid oes is-deitlau i’r erthygl hon ! – Dder ar no sybteityls tw ddus articl – ddus us not Es Ffor Si!)

Rhannu |