Colofnwyr

RSS Icon
14 Mawrth 2016
Gan GERALLT PENNANT

Gardd Gerallt - Coch gyn goched â phechod

Y LLE gorau i ddysgu crefft ydy wrth draed meistr, ac yn fy achos i, y diweddar Maldwyn Thomas oedd y meistr hwnnw.  

Bu blynyddoedd o ymweld â gardd Cefn Bere yn Nolgellau goleg o gymwynasau, ac mae cylch bywyd yr ardd yn fy atgoffa yn gyson am brofiad a chyfeillgarwch Maldwyn Thomas. 

Nid dyn i siarad ar ei gyfer na thorri cnau gweigion oedd Maldwyn.

Ei gyngor cofiadwy ynglŷn â Camellia oedd cymeradwyo dau lwyn anffaeledig, sef ‘Donation’ ac ‘Adolphe Audusson’.

O’r ddau, ‘Donation’ ydy’r mwyaf adnabyddus, y llwyn sy’n drwm ei flodau ac yn lliwio Môn i Fynwy yn binc bob Chwefror a Mawrth. 

Ond os oes yna’r fath beth â’r blodyn Camellia delfrydol, mae blodau ‘Adolphe Audusson’ yn agos iawn i’r ddelfryd honno.  

Os oes coch cyn goched â phechod, dyma fo, gwrid tanbaid, blysiog ac anffaeledig.

Credir fod y planhigion Camellia cyntaf wedi cyrraedd Lloegr tua 1705. 

James Cunningham, yr unig un i oroesi lladdfa waedlyd o swyddogion yr East India Company, piau’r clod am yrru’r planhigyn cyntaf i’r ynys fechan hon.

Cafodd y planhigyn hwnnw bob gofal a dandwn gan yr Arglwydd Petre, sef ‘botanegydd gorau Lloegr’. 

Cystal oedd y gofal a’r dandwn hwnnw, mewn tŷ gwydr chwilboeth, nes i’r planhigyn drengi o fewn ychydig wythnosau.

Diolch fod James Gordon, gwas cyflog ‘botanegydd gorau Lloegr’ wedi cymryd toriadau a bod y rheiny wedi goroesi.

Aelod o gangen ‘japonica’ yn nheulu mawr y Camellia ydy ‘Adolphe Audusson’.  

Camellia japonica ydy’r goeden sy’n gynhenid i China, Korea a Japan.

Er ei bod yn blodeuo’n drwm, byr ydy hoedl y blodau yn y cynefin gwyllt. 

Rhinwedd y degau o ffurfiau gardd ydy hyd y tymor blodeuo. 

Os nad ydy’r pechadurus goch at eich dant, mae gwyn gwyryfol ‘Miss Universe’, lelog-wyn ‘Ave Maria’ a thrilliw (braidd yn ddryslyd yn fy marn fach i) ‘Tricolor’ yn brawf  fod brân i bob brân yn rhywle.

Er mai’r blodau ydy prif ogoniant pob Camellia, peth cibddall fyddai diystyru’r dail a’r rhisgl.

Wrth i lwyn dyfu’n goeden mi ddaw gwawr lwydwyn y rhisgl yn amlycach, a hynny’n gyferbyniad da efo disgleirdeb gwyrddlas y dail.

Dyma i chi ddail cnawdiog, fymryn yn ddanheddog, cyn wytned â hen ledr ac yn gefnlen syber i ddawns y blodau.

Dyma hefyd ddail sy’n perthyn yn weddol agos i Camellia sinensis, y llwyn te.

Ond peidiwch da chi â meddwl am wneud ‘paned efo dail Camellia japonica – torri cneuen wag a hynod ddiflas fyddai hynny.

 

Rhannu |