Colofnwyr

RSS Icon
07 Mawrth 2016
Gan GERALLT PENNANT

Gardd Gerallt - Y fath orfoledd!

CRIW ar y naw ydy garddwyr.  Hanesyn bach sy’n cyfleu hynny i’r dim ydy hwnnw am flodyn dant y llew.  Petai dant y llew ond yn tyfu ym mhen eithaf y dyffryn mwyaf anghysbell ym mherfeddion pellaf Mongolia, mi fyddai pawb, ie pawb yn dyheu am gael y rhyfeddod yma i euro a harddu eu gerddi!

Go brin bydd Soldanella minima byth mor adnabyddus â dant y llew, ond ‘rarswyd, mae’r planhigyn bach yma wedi cael gafael go dynn ar fy nychymyg i.  Llwyddais i gael dau i flodeuo rai blynyddoedd yn ôl, ac eleni mae acw addewid am ragor.  Y fath orfoledd!

Gwell felly egluro beth ydy tarddiad y penwendid yma, gan nad ydy pawb yn gwirioni’r un fath.  Aelodau o deulu’r briallu ydy’r Soldanella, neu gloch yr eira ar lafar yn yr Alpau.  Mi allwn i hepgor llawer peth o’r ardd, ond allwn i ddim byw heb flodau’r creigle uchel.  Ie, blodau mynydd, blodau sy’n gallu crafu byw ar graig ac agen, blodeuo’n siriol mewn pridd tila a phwdu mewn gardd.  Nid pwdu llyncu mul, ond pwdu am eu bod yn cael lle rhy dda.

Wedi dweud hynny, all dim byd fyw ar y gwynt a’r lle gorau i roi cynnig ar dyfu Soldanella ydy mewn cafn Alpaidd.  Yn araf deg a bob yn dipyn, ac wedi colli ambell ddafn o chwys, mae yna bump o gafnau carreg wedi cyrraedd acw erbyn hyn.

Er bod cafnau ‘carreg’ plastig yn rhatach, ysgafnach ac yn llawer mwy ymarferol, dal ati i fustachu, a buddsoddi mewn carreg go iawn fydda i.  

Y peth cyntaf i’w wneud ydy lleoli’r cafn.  Wedyn mi fydd yn rhaid tyllu’r gwaelod a gosod gwe o blastig rhag i’r pridd dagu’r tyllau draeniad.

Fel cymaint o flodau’r mynydd, mae Soldanella yn blodeuo fel bydd y cwrlid o eira’r gaeaf yn dadmer.  Mae hynny’n golygu fod angen i’r pridd yn eich cafn fod yn llaith, ond yn draenio’n sydyn.  

Mae hynny’n galw am ddigon o sylwedd organig megis deilbridd yn gymysg efo’r compost.

Yr elfen hanfodol arall ydy mesur cyfartal o dywod bras yn gymysg efo gro mân.

Rhowch ddyrnaid o’r gro yn goler dwt am wddf y planhigyn yn union wedi i chi ei blannu.  Mi fydd yn ei warchod rhag pydredd yn ystod tywydd gwlyb.

Gofalwch nad oes arlliw o garreg galch ar gyfyl y gro a bwydwch y planhigion efo cymysgedd denau iawn o wrtaith sy’n cynnwys elfen o haearn, chwilwch am y gair ‘ericaceous’ ar y botel.

Wedyn mae gofyn i’r cafn fod yn llygaid haul y bore, ond nid yng ngolwg haul tanbaid canol dydd.  

Ie, dyna chi, y cyfan sy’n rhaid ei wneud ydy efelychu’r mil flwyddi araf o esblygiad planhigion mân y mynydd! 

Y wobr am hyn i gyd ydy clychau bach cynnil o flodau, efallai’n wir byddwch chithau’n gwirioni gymaint â fi ar Soldanella minima.  Fflur y main, ond nid ffiolau’r mêl.

Llun: Soldanella minima

 

Rhannu |