Colofnwyr

RSS Icon
03 Mawrth 2016
Gan HYWEL WILLIAMS

Caniatau i Gymru, Gwyddelod ac Albanwyr ‘who want to remain part of the Union to show their loyalty by singing God Save the Queen at sporting events’!!

Am y tro cyntaf ers fy ethol, eleni nid oeddwn yn San Steffan ar gyfer Gŵyl Ddewi. Ar Fawrth y 1af felly methais fynychu’r gwasanaeth hardd a hapus a gynhelir yng nghapel y Tŷ.

A dydd Iau byddaf yn methu’r ddadl ‘Gymreig’, a gynhelir ambell i flwyddyn, rhywdro o fewn pellter gweddol barchus i ŵyl ein nawddsant.

Mae dydd Iau yn ddiwrnod sâl eithriadol i gynnal dadl, fel arfer efo llond dwrn o’r brwdfrydig, y ffyddlon digalon a’r uchelgeisol (os nad y desbret) yn mân siarad er mwyn cadw’r peth i fynd hyd at ddiwedd y prynhawn.

Ac o ran Cymru mae’r syrcas wedi hen symud yn ei blaen i’r gorllewin bois bach. Ond eleni efallai bydd rhywfaint o dân ym moliau’r ASau.

Yn gyntaf mae fy nghyfaill Jonathan Edwards yn siarad, rhywbeth sydd o hyd yn cynhyrfu’r dyfroedd. Yn ail, daw’r ddadl yn fuan ar ôl i’r llywodraeth ildio a ‘gohirio’ Mesur Cymru.

Bydd ambell un am ddweud ei ddweud, ac efallai ambell i Dori am esbonio eu habsenoldeb o’r Pwyllgor Dethol

Oherwydd, er fod gan y llywodraeth fwyfrif parhaol, pan ddaeth pleidlais, fe’u trechwyd yn y Pwyllgor ar fater awdurdod cyfreithiol i Gymru.
Does ryfedd fod ein Hysgrifennydd Gwladol am ailfeddwl.

………………………………………………………..

Mae AS Llafur o’r enw Toby Perkins, rhy anenwog yn ei dyb ei hyn mae’n ymddangos, yn galw am sefydlu anthem genedlaethol i Loegr. Digon teg, pe byddai hynny’r oll a ddeuai yn sgil ei fesur preifat ar y 4dd o Fawrth.

Ond mae ‘Englandinmyheart.com’, corff tra anenwog eu hunain, yn ymgyrchu felly dros ganu God Save the Queen yn ychwanegol ym mhob gêm rhyngwladol, a hynny boed Lloegr yn chwarae neu peidio.

Byddai cyfieithu eu taflen yn siŵr o arwain at golli rhywfaint o farddoniaeth boncyrs eu hachos.

Dywedant er engraifft byddai canu’r God yn caniatau i Gymru, Gwyddelod ac Albanwyr ‘who want to remain part of the Union to show their loyalty by singing God Save the Queen at sporting events’

Maent yn cynnig dau ddewis.

  • Yn gyntaf canu’r God ac yna’r anthemau eraill.
  • Neu yn ail, canu’r anthemau eraill ac yna canu’r God.

Does dim trydydd opsiwn, sef udo wrth i rai lafurio i gofio’r chweched bennill.*
Yn wir dywedant, braidd yn optimistaidd: "Everyone in the stadium sings together with one voice our loyal uniting anthem."
"Everyone?"

Ydy hyn yn cynnwys y Gwyddelod a fu mor ffôl a mynnu gadael mynwes Ymherodraeth Prydain Fawr bron i ganrif yn ôl. Beth am yr Albanwyr (mwyafrif bellach dybiwn i), a rhai Cymru, na fyddai am uno’n ffyddlon i ymbil ar Dduw Holl Alluog i gadw’r Frenhines (sy’n gwneud yn eitha taclus diolch yn fawr fel y mae hi, hyd y gwelaf)

Yn olaf, beth am y llyffantod, sori y Ffrancwyr bradwrus, pan fyddant er engraifft yn chwarae yn erbyn y Gwyddelod bradwrus. Oni fyddai canu’r God yn cyflawni eu dyheuad tragwyddol, yn caniatau i’n gelynion weiddi BW mawr ar y cwin, neu hyd yn oed, ac yn waeth byth, yn rhoi esgus tila iddynt chwerthin am ein pennau (y c’nafon budr).

Edrychwn ymlaen gydag awch at ddydd Gwener a chlywed arwr yr oes, Mr T. Perkins, yn llamu i’r bwlch ac esbonio.

………………………………………………………………….

*Mae’n werth dyfynnu’r cyfan o’r chweched bennill, na chenir fel arfer oherwydd embaras i unoliaethywr ym mhob man, ond yn arbennig felly y rhai i’r gogledd o’r ffin.

Lord grant that Marshal Wade
May by thy mighty aid
Victory bring
May he sedition hush
And like a torrent rush
Rebellious Scots to crush
God save the King

Rhannu |