Colofnwyr
Mae Gogs a Hwntws ym mhob gwlad
MAE mynd i wlad dramor bob amser yn brofiad diddorol, petai ond am y cyfle i gymdeithasu a thrigolion o wlad a diwylliant gwahanol. Gan fod y tywydd wedi bod yn uffernol yn ystod y misoedd diwethaf, aeth y ddau ohonom am wyliau i Fuerteventura i chwilio am haul a llwyddo i’w gael.
Mae Fuerteventura yn un o Ynysoedd y Cwn neu’r Islas Canarias. Dim byd i’w wneud â chaneris fel y creda llawer ond fe ddaw o’r gair ‘canaria’ sy’n golygu cŵn – yn debyg i’r gair Eidaleg am gi. (Yr hyn sy’n rhyfedd yw bod y Sbaenwyr bellach yn defnyddio’r enw ‘pero’ am gi.) Nid ydynt wedi eu henwi ar ôl y caneri eithr fel arall yn union – yr adar hyn a enwyd ar ôl yr ynysoedd. Yn yr un modd y tyfodd y stori am ryw alarch yn enw Saesneg Abertawe – Swansea.
Ond dydi o ddim i’w wneud ag alarch, yn hytrach enw Llychlynnaidd Sveinsey (tebyg i Anglesey a Bardsey) sydd yma. Gwirionach fyth yw’r ‘Swallow Falls’ ger Betws y Coed eithr Rhaeadr Ewynnol aeth yn Rhaeadr Y Wennol a dyna egluro sut y daeth yr enw Saesneg ar y lle.
Yn ystod rhan o’r cyfnod y buom yn Fuerteventura, cafwyd cyfle i gymdeithasu ag Almaenwyr gan eu bod yn llawer mwy cyfeillgar na’r Saeson a welsom. Un cwpl o Bremen oedd yn gallu siarad Saesneg da a gŵr arall o Hamburg, un o dras Rwsiaidd na fedrai fawr ddim o Saesneg oeddynt. Yn rhyfedd iawn, cafwyd ‘sgwrs’ ag ef, ond mewn dull gwahanol i’r arfer. Yr oedd ganddo ffôn boced, a defnyddiai’r safle cyfieithu ar honno.
Wedi llwyddo i roi ar ddeall mai Cymry oeddem – er iddo feddwl mai morfilod oeddem am gyfnod gan iddo gam-sillafu enw Cymru yn Saesneg – aed ati i ‘sgwrsio’ drwy gyfrwng y ffôn. Dewisais yr enw Almaeneg am y Gymraeg ar y ffôn a dyma fo’n teipio rhywbeth, pwyso’r botwm ac fe ynganai llais y cyfieithiad Cymraeg. Minnau wedyn yn ei ateb yn yr un modd gyda’r llais yn dweud y geiriau mewn Almaeneg. Drwy gyfrwng y broses lafurus hon, cafwyd rhyw fath o sgwrs, er bod bysedd mawr ar lythrennau bach ar y sgrin, yn ogystal ag effaith y ffisig coch yn ei wneud yn waith anodd iawn.
Wrth ddweud yr hanes wrth y cwpl arall ac egluro’r broblem a gawsom i gyfathrebu gyda’r dyn, yr ymateb a gafwyd oedd nad oeddynt yn ei ddeall yn siarad Almaeneg, beth bynnag! Rhwng tafodiaith Hamburg a dylanwad y cefndir Rwsieg, yr oeddynt yn ei chael hi’n amhosib, bron, i’w ddeall.
Roedd hynny’n fy atgoffa am y tro yr aeth criw ohonom i gêm rygbi yn Nhwicenham yn ystod y saithdegau. Mewn tafarn ger Waterloo – Llundain nid Betws y Coed – yr oedd criw o gefnogwyr tîm pêl-droed Newcastle yno a digwyddais fod wrth y bar pan oedd un ohonynt yn ceisio codi diodydd. Methai’r barman o Gocni ddeall gair, a throdd ataf fi – ia, fi o bawb – i ofyn am gyfieithiad!
Peidied neb â phoeni nad yw Hwntws yn deall y Gogs neu fel arall. Mae hynny’n digwydd ym mhob iaith sydd yn meddu ar dafodieithoedd cryfion ac yn dangos cyfoeth iaith yn hytrach na’i gwendid.
Yn ystod y drafodaeth un noson, aethpwyd ymlaen i gymharu bwydydd traddodiadol ein gwledydd. Wedi sôn am fara brith a chacen gri dyma fi’n dweud ‘lobsgóws’. Yn syth bin daeth yr ateb yn ôl – yr oeddynt yn gwybod am lobsgóws ond yn eu fersiwn hwy, defnyddid unrhyw gig rhad a betys yn rhan amlwg ohono. Ymddengys mai bwyd morwyr oedd yn wreiddiol a chan fod Bremen yn borthladd felly daeth yr enw’n gyfarwydd i’r trigolion yno , fel y daeth yma yng Nghymru.
Mae’n bosib mai o’r Norwyeg, ‘lapskaus’ neu hyd yn oed o ‘labs kaus’ o Latvia y daeth yr enw, a’r cysylltiad tybiedig gyda thrigolion Lerpwl yn ddim mwy na’r cysylltiad gyda harbwr arall. Yr hyn sy’n amlwg yw iddo ddod yn enw poblogaidd gan forwyr am fwyd hawdd ei baratoi allan o gig a llysiau, sef unrhyw rai oedd ar gael yn hwylus ac yn rhad.
Un enw a ddenodd fy sylw yn Fuerteventura oedd ‘La Pared’, tref fechan yn ne’r ynys. Wrth holi, canfyddais mai ystyr yr enw yw ‘wal’ gan y cyfeiria enw’r lle at y wal a rannai waelod yr ynys yn ddwy ar un adeg. Mae’n debyg mai’r un enw yw a’n gair ni am wal y tu mewn i dŷ. Rhyfedd meddwl sut y daeth hwnnw’n air Cymraeg.